Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2017 yn gofnod cywir. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y
Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - JW. Cofnodion: Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth
gefndir mewn perthynas â JW. Esboniodd JW amgylchiadau'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD GWRTHOD
cais JW am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat
o dan Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. Rheswm dros y
Penderfyniad 1.
Mae gyrrwr tacsi'n cyflawni rôl gyfrifol iawn ac mae
nifer mawr o bobl yn dibynnu ar yrwyr tacsis yn Abertawe a'r cyffiniau. Mae'n
bwysig, felly, fod gyrrwr yn berson addas a phriodol. 2.
Roedd y pwyllgor yn fodlon bod yr euogfarnau yn 2015 yn
ddifrifol iawn. 3.
Clywodd y pwyllgor ar lafar gan JW a darllenwyd cynnwys y
ddau lythyr, gan gynnwys un oddi wrth yr AS lleol. Ystyriodd y pwyllgor a
ddylai gwyro oddi wrth ei ganllawiau neu beidio. Yn y pen draw, o ganlyniad i
ddifrifoldeb yr euogfarnau, nid oedd yr aelodau'n fodlon ei fod yn briodol
gwyro'n rhesymol oddi wrth ei ganllawiau wedi ystyried yr holl amgylchiadau. 4.
Nid oedd aelodau'n fodlon bod JW yn berson addas a
phriodol ac ystyriodd y pwyllgor ei fod yn angenrheidiol defnyddio'r canllawiau
a oedd yn gofyn bod gyrrwr yn gallu dangos cyfnod o dri i bum mlynedd heb gael
unrhyw euogfarnau. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - LS. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
LS. Esboniodd LS, gyda
chymorth Mr Warren, y Cyfreithiwr, amgylchiadau ei euogfarnau ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD: CYMERADWYO cais LS am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat o dan Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - SMS. Cofnodion: Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth
gefndir mewn perthynas â SMS. Esboniodd SMS amgylchiadau'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD
GWRTHOD cais SMS am drwydded yrru gyfyngedig ar gyfer cerbyd hacni
a hurio preifat o dan Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau
Amrywiol) 1976. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) Act 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - SCT. Cofnodion: Manylodd
y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn
perthynas â SCT. Esboniodd SCT, gyda chymorth Mr Warren, y Cyfreithiwr, amgylchiadau ei
euogfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD cyflwyno llythyr rhybudd cryf i SCT a pheidio â chymryd unrhyw gamau gweithredu pellach mewn perthynas â thrwyddedau cerbydau hacni a hurio preifat SCT. |
|
DeDeddf Cydraddoldeb 2010 - C?n Cymorth mewn Tacsis - Cais am Dystysgrif Eithrio - TAA. Cofnodion: Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth
gefndir mewn perthynas â TAA. Amlinellodd TAA, ar y cyd â Mr Warren, Cyfreithiwr, amgylchiadau'r
collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD
GWAHARDD cais TAA am dystysgrif eithrio mewn perthynas â chŵn cymorth mewn
tacsis a cherbydau hurio preifat o dan adrannau 169 ac 171 Deddf Cydraddoldeb
2010. Rheswm dros y
Penderfyniad 1. Teimlodd y
pwyllgor fod gyrrwr tacsi'n cyflawni rôl gyfrifol iawn ac mae nifer mawr o bobl
yn dibynnu ar yrwyr tacsis i fynd o le i le, gan gynnwys teithwyr diamddiffyn
ac anabl. 2. Bydd y pwyllgor
yn rhoi tystysgrif eithrio mewn amgylchiadau lle maen nhw'n hapus ac yn fodlon
ar y dystysgrif feddygol a ddarperir.
Nid oedd yr aelodau o'r farn bod y ddau lythyr o'r feddygfa'n darparu
digon o fanylion ynghylch sut roedd y cyflwr meddygol yn effeithio ar TAA.
Roedd y pwyllgor yn poeni nad oedd y meddyg/meddygon teulu wedi bod yn dyst i
effeithiau'r alergedd neu wedi gweld pa mor ddifrifol oedd yr effeithiau. 3. Ymhellach,
nododd y pwyllgor nad oedd TAA wedi cael unrhyw asesiad gan ymarferydd
meddygol. Ymddangosai i'r aelodau fod TAA wedi rhoi gwybod i'r fferyllydd a'r
meddyg/meddygon teulu a'u bod nhw wedi
gwneud diagnosis ar sail yr wybodaeth a ddarparodd TAA. 4. Cadarnhaodd TAA
nad oedd wedi cael prawf alergedd. Nododd yr aelodau y byddai tystiolaeth ddogfennol
wedi bod yn ddefnyddiol. 5. Wedi hynny,
roedd diffyg tystiolaeth feddygol oherwydd nad oedd unrhyw ddogfen a gyflwynwyd
gan TAA yn cadarnhau bod ganddo alergedd i gŵn. 6. Cadarnhaodd TAA
mai'r tro diwethaf iddo gael llosg danadl oedd yn ystod mis Hydref 2016, tua
chwe mis yn ôl. 7. Cododd y
pwyllgor fwy o bryderon ynghylch diffyg tystiolaeth feddygol oherwydd nad
oeddent yn sicr a oedd TAA yn dioddef o alergedd acíwt neu gronig. 8. Nid oedd TAA yn
gallu cadarnhau pa mor hir, ar ôl iddo fod mewn cysylltiad â chŵn, y
byddai'n cymryd i effeithio arno. Yn ogystal â hyn, ni eglurwyd faint o amser y
byddai'n cymryd i'r symptomau gilio. Roedd TAA yn ansicr ac nid oedd yn gallu
cadarnhau pa mor agos y byddai'n rhaid iddo fod i gi cyn i'w symptomau
ymddangos. 9. Ac eithrio
cosfa ar groen TAA, nid oedd yn glir pam y byddai angen tystysgrif eithrio. Nid
oedd yn glir sut roedd yr alergedd wedi effeithio ar allu TAA i yrru. 10. Nododd aelodau
fod TAA yn gwybod am yr amodau bod yn yrrwr tacsis a bod gyrrwr tacsis i fod i
ddatgelu cyflwr meddygol, a all effeithio ar ei allu i yrru, i'r Awdurdod
Trwyddedu. Roedd y pwyllgor yn poeni bod TAA yn gwybod am yr alergedd ym mis
Hydref 2016, ond nid oedd wedi gofyn am dystysgrif eithrio tan 16 Rhagfyr 2016,
cyfnod byr wedi i'r achwynydd gwyno. 11. Teimlodd y pwyllgor na chyflwynwyd digon o dystiolaeth iddynt allu rhoi tystysgrif eithrio. |
|
Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - WJG. Cofnodion: Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth
gefndir mewn perthynas ag WJG ac adroddodd fod WJG wedi dweud nad oedd yn gallu
mynd i'r cyfarfod a gofynnodd i'r pwyllgor fynd i'r afael â'r mater yn
absenoldeb WJG. PENDERFYNWYD GOHIRIO ystyried cais WJG am dystysgrif
eithrio mewn perthynas â theithwyr mewn cadeiriau olwyn tan gyfarfod yn y
dyfodol. |