Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r cod
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2017 yn gofnod cywir. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd
yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth)
(Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - JBH. Cofnodion: Rhoddodd yr
Uwch-swyddog Trwyddedu y manylion cefndir o ran achos JBH ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. Gofynnodd Mr
Warren, cyfreithiwr, gwestiwn i'r Swyddog, a ymatebodd yn briodol. Amlinellodd JBH, ar
y cyd â Mr Warren, cyfreithiwr, amgylchiadau'r honiad ac atebodd gwestiynau'r
aelodau. PENDERFYNWYD y dylid ADNEWYDDU Trwydded Yrru
Cerbyd Hacni a Hurio Preifat JBH o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau
Amrywiol) 1976 a chyflwyno llythyr rhybudd cryf i JBH. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - LJP. Cofnodion: Rhoddodd yr
Uwch-swyddog Trwyddedu y manylion cefndir o ran achos LJP ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. Esboniodd LJP
amgylchiadau'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Darllenodd y
cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor lythyr lliniaru a ysgrifennwyd gan
LJP. PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO cais JP am Drwydded Yrru
Cerbyd Hacni a Hurio Preifat o dan Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol
(Darpariaethau Amrywiol) 1976 a chyflwyno llythyr rhybudd cryf i LJP ynghylch
ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - DP. Cofnodion: Rhoddodd yr
Uwch-swyddog Trwyddedu y manylion cefndir o ran achos DP ac atebodd gwestiynau'r
aelodau. Amlinellodd DP
amgylchiadau'r gollfarn/ardystiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO cais DP am
Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat o dan Adrannau 51 a 59 Deddf
Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - DAH. Cofnodion: Rhoddodd yr
Uwch-swyddog Trwyddedu y manylion cefndir o ran achos DAH ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. Gofynnwyd
cwestiynau i'r cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor ac atebodd yn briodol.
Esboniodd DAH
amgylchiadau'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD y dylid: 1. CYMERADWYO cais DAH am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio
Preifat o dan Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976
ar yr amod bod DAH yn ymgymryd â dau asesiad meddygol Grŵp Dau; 2. Cyflwyno llythyr rhybudd i DAH ynghylch
ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - SH. Cofnodion: Rhoddodd yr
Uwch-swyddog Trwyddedu y manylion cefndir o ran achos SH. Esboniodd SH
amgylchiadau'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau a'r swyddogion. PENDERFYNWYD y dylid cyflwyno llythyr rhybudd cryf
ynghylch ymddygiad yn y dyfodol. |