Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd C
Anderson – Personol a Rhagfarnol – Cofnod rhif 82 -
Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn cadeiriau olwyn - Cais am dystysgrif
eithrio - WCS - Rwy'n adnabod y person.
Gadawodd y Cynghorydd C Anderson y cyfarfod cyn ystyried yr eitem hon. Y Cynghorydd C
Anderson – Personol a Rhagfarnol – Cofnod rhif 84 -
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 – Gyrrwr Bathodyn Deuol -
DJM - Rwy'n adnabod y person. Gadawodd y
Cynghorydd C Anderson y cyfarfod cyn ystyried yr eitem hon. Y Cynghorydd V M
Evans – Personol a Rhagfarnol – Cofnod rhif 84 -
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol -
DJM - Rwy'n ymwybodol o'r ymgeisydd.
Gadawodd y Cynghorydd V M Evans y cyfarfod cyn ystyried yr eitem hon. |
|
Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir
gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2017 yn gofnod cywir. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Apêl yn erbyn y penderfyniad i beidio â chymeradwyo fel gyrrwr cludiant o'r cartref i'r ysgol - MJW. Cofnodion: Rhoddodd yr
Uwch-swyddog Trafnidiaeth y manylion cefndir o ran achos MJW ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. Esboniodd MJW
amgylchiadau'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD
GWRTHOD apêl MJW. Rheswm dros y
penderfyniad Ystyriodd y pwyllgor fesur 2008 o ran y gofyniad i ddarparu trefniadau
cludiant addas. Nododd y pwyllgor e-bost MJW ond gallai ymdrin ag ef ar rinweddau ei apêl
yn unig ac ni allai ystyried amgylchiadau'r bobl eraill. Nid ymhelaethodd MJW ar gollfarnau 2013 i liniaru. Roedd patrwm clir o droseddu ac aildroseddu ar ôl 3/4 blynedd. Dim ond 3
blynedd a 6 mis ers y drosedd ddiwethaf ac mae'r patrwm yn dangos aildroseddu ar
ôl 4 blynedd. Penderfynodd y pwyllgor i beidio â rhoi canllawiau ar waith a
cheisio cyfnod hwy o ddim troseddu na 3 blynedd i sicrhau na fydd MJW yn
aildroseddu yn y dyfodol. Nododd MJW hefyd mai am 3 blynedd yn unig mae wedi ymwrthod ag alcohol ac
felly roedd y pwyllgor am weld cyfnod hwy i fod yn sicr y byddai'n bodloni'r
meini prawf gofynnol. Gallai'r gymeradwyaeth a geisiwyd roi MJW mewn amgylchiadau anodd ac, er y
nodwyd bod MJW wedi dilyn cwrs rheoli dicter, nid oedd y pwyllgor yn fodlon ar
ôl clywed y manylion y byddai MJW yn gallu ymdopi â phroblemau yn briodol er y
nodwyd bod MJW yn gyrru i Ben-y-bont ar Ogwr heb unrhyw broblemau, yn ôl MJW. |
|
Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - WCS. Cofnodion: Rhoddodd yr
Uwch-swyddog Trwyddedu y manylion cefndir o ran achos WCS ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. Amlinellodd WCS
amgylchiadau'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD
CYMERADWYO cais WCS. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - HF. Cofnodion: Ni ddaeth HF i'r
cyfarfod a phenderfynodd y pwyllgor ymdrin â'r achos yn ei absenoldeb. Rhoddodd yr
Uwch-swyddog Trwyddedu y manylion cefndir o ran achos HF ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD: 1. Y dylid ymdrin â'r mater yn absenoldeb HF; 2. CYMERADWYO cais HF am drwydded yrru gyfyngedig ar gyfer cerbyd
hacni a hurio preifat, yn amodol ar gyflwyno
rhybudd ysgrifenedig o ran y safonau a ddisgwylir gan yrwyr trwyddedig. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - DJM. Cofnodion: Hysbysodd yr
Uwch-swyddog Trwyddedu y pwyllgor fod DJM wedi ysgrifennu llythyr yn nodi nad
oedd yn gallu dod i'r cyfarfod a chynigiodd resymau
lliniaru i'r aelodau eu hystyried. Rhoddodd yr
Uwch-swyddog Trwyddedu y manylion cefndir o ran achos DJM ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD: 1.
Y
dylid ymdrin â'r mater yn absenoldeb DJM; 2.
GWRTHOD
cais DJM i adnewyddu ei drwydded
yrru cerbyd hacni a hurio preifat o dan Adran 61
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976; 3.
Na
ddylid cymryd unrhyw gamau gweithredu pellach o ran y cerbydau hurio preifat
cyfyngedig, y cerbydau hacni a'r cerbydau hurio
preifat sydd gan DJM. Rheswm dros y
penderfyniad Teimlai'r pwyllgor
fod DJM wedi meddu ar drwydded gyda'r awdurdod am beth amser ac felly dylai
wybod yr amodau a'r is-ddeddfau sy'n berthnasol. Hefyd, ym mis Ionawr 2016, derbyniodd DJM
lythyr rhybudd o ran ei fethiant i roi gwybod i'r awdurdod am ei gollfarnau ym
mis Mehefin, mis Gorffennaf a mis Awst.
Er i DJM dderbyn y llythyr rhybudd hwnnw, methodd roi gwybod i'r
awdurdod am ei gollfarn ym mis Mawrth 2016 a oedd yn dangos difaterwch llwyr
ynglŷn â'r gweithdrefnau. Gan ei fod wedi cyflawni pedair trosedd goryrru mewn pedwar mis, nid oedd y
pwyllgor yn fodlon bod DJM yn gweithredu'n groes i'w gymeriad ac y byddai'n
peri perygl i ddiogelwch y cyhoedd sy'n teithio. Nododd y pwyllgor fod yr
Ynadon wedi ystyried amgylchiadau personol DJM pan benderfynwyd peidio â thynnu
ei drwydded oddi arno wedi iddo gronni 12 o bwyntiau cosb, ond ni allai'r
pwyllgor ystyried hyn wrth benderfynu a oedd yn addas i feddu ar drwydded. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - CTH. Cofnodion: Rhoddodd yr
Uwch-swyddog Trwyddedu y manylion cefndir o ran achos CTH ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. Amlinellodd CTH, ar
y cyd â Mr Warren, Cyfreithiwr, amgylchiadau'r ardystiadau/collfarnau ac
atebodd gwestiynau'r aelodau. Darllenodd y
Cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor eirdaon yn cefnogi cais CTH a thystysgrif
a gyflwynwyd gan Mr Warren. PENDERFYNWYD
GWRTHOD cais CTH am
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat o dan
Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. Rheswm dros y
penderfyniad Nid oedd y pwyllgor yn fodlon bod CTH yn berson addas a phriodol gan mai 16 mis yn unig oedd wedi mynd heibio ers i'w drwydded gael ei hadnewyddu ac roedd y pwyllgor o'r farn na chafwyd unrhyw newid sylweddol ers 2016. Methodd CTH ddatgelu natur y gollfarn a gyflawnwyd ym mis Mawrth 2015 a arweiniodd at y drosedd gyfansymio ddiwethaf. Gan na chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth gerbron y pwyllgor o ran natur y drosedd ddiwethaf a ph'un a oedd yn drosedd fach neu fawr, ni allai'r pwyllgor ystyried pa arweiniad a ddylid ei ddilyn er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd sy'n teithio. |