Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

70.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

71.

Cofnodion: pdf eicon PDF 64 KB

Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2016 yn gofnod cywir.

72.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes perthnasol a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

73.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - AGB.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag AGB.

 

Cyfeiriodd GJ, Swyddog Trwyddedu, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, at ei ddatganiad ysgrifenedig ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Esboniodd AGB amgylchiadau'r rhybudd, ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

PENDERFYNWYD GWRTHOD cais AGB am drwydded yrru gyfyngedig ar gyfer cerbyd hacni a hurio preifat o dan Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

1.     Cyfrifoldeb yr ymgeisydd oedd arddangos ei fod yn ymgeisydd addas a chymwys i gael trwydded. Nid oedd yr ymgeisydd wedi llwyddo i ddangos i'r pwyllgor ei fod yn addas ac yn gymwys i gael trwydded.

 

2.     Yn ôl cydbwysedd tebygolrwydd, roedd angen gwrthod y cais er mwyn diogelu pobl ddiamddiffyn gan fod y pwyllgor yn cytuno bod ymddygiad yr ymgeisydd wedi bod yn esgeulus ac yn anghyfrifol.

 

3.     Ni lwyddodd yr ymgeisydd i ddangos i'r pwyllgor na fyddai'n fygythiad i'r cyhoedd pe bai trwydded yn cael ei chaniatáu.

 

4.     Ar adegau, roedd tystiolaeth yr ymgeisydd yn y gwrandawiad yn groes i'r dystiolaeth a roddwyd gynt. Nid ystyriwyd bod yr esboniadau ynglŷn â'r cais yn ddigonol.

74.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - Rhif Bathodyn 2327 - ALD.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch, ar y cefndir mewn perthynas ag ALD, ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Esboniodd ALD amgylchiadau'r arnodiadau, ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

PENDERFYNWYD y dylid cyflwyno llythyr rhybuddio cryf i ALD, ac y dylid GOHIRIO trwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat ALD am UN MIS o dan Adran 61 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

 

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

1.     Teimlodd y pwyllgor y dylai'r ymgeisydd ganolbwyntio ar ei yrru.

 

2.     Roedd y pwyllgor yn pryderu am agwedd yr ymgeisydd at yrru gan ei fod wedi ymddwyn yn esgeulus yn y gorffennol. Mae gyrwyr tacsi'n cyflawni rôl gyfrifol iawn gan sicrhau bod y cyhoedd yn gallu teithio'n ddiogel.

 

3.     Mewn cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol, penderfynodd y pwyllgor adnewyddu trwydded ddeuol yr ymgeisydd, gan roi cyfle i'r ymgeisydd brofi ei hun yn sgîl ei droseddau traffig. Nid oedd yr ymgeisydd wedi dangos i'r pwyllgor ei fod wedi gwella'i agwedd at droseddau traffig, yn enwedig gan fod teithwyr yn y car.

 

75.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - ELL.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas ag ELL, ac atebodd gwestiynau'r aelodau. 

 

Esboniodd ELL amgylchiadau'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

PENDERFYNWYD;

 

a)    CYMERADWYO cais ELL am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat o dan Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976;

b)    Rhoi llythyr rhybuddio cryf i ELL ynghylch ymddygiad yn y dyfodol.

76.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - KMH.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â KMH.

 

Esboniodd KMH amgylchiadau'r arnodiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

PENDERFYNWYD y dylid

 

a)    CYMERADWYO cais KMH am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat o dan Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976;

b)    Rhoi llythyr rhybuddio cryf i KMH ynghylch ymddygiad yn y dyfodol.

 

77.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - MT.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag MT.

 

Esboniodd MT amgylchiadau'r rhybudd ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

PENDERFYNWYD y dylid

 

a)    CYMERADWYO cais MT am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat o dan Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol)  1976; a

b)    rhoi llythyr rhybuddio cryf i MT ynghylch ymddygiad yn y dyfodol.