Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y cynghorydd C Anderson – Personol – Cofnod rhif. 66 – Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 – Gyrrwr Bathodyn Deuol – Perchennog Cerbyd Hacni – PMD – Rwy'n adnabod PMD. Gadawodd y Cynghorydd C Anderson y cyfarfod cyn ystyried yr eitem hon. |
|
Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Statudol a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2016 yn gofnod cywir. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad ynghylch goblygiadau
Deddf Mewnfudo 2016 (y Ddeddf) i awdurdodau trwyddedu, ymgeiswyr trwyddedau
gyrru cerbydau hacni a hurio preifat a cheisio
cymeradwyaeth am ffi ar gyfer trwydded yrru cerbyd hacni
a hurio preifat chwe misol. Nodwyd Deddf
Mewnfudo 2016; dyletswyddau newydd awdurdodau trwyddedu; goblygiadau a ffioedd
arfaethedig gan yr aelodau. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD CYMERADWYO'r lefelau ffioedd arfaethedig a amlinellwyd ym mharagraff 6 ar unwaith. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - AB. Cofnodion: Dywedodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fod AB wedi gofyn am ohiriad oherwydd
salwch. PENDERFYNWYD GOHIRIO ystyried cais AB ar gyfer trwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat tan gyfarfod yn y dyfodol. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - Perchennog Cerbyd Hacni - PMD. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas
ag PMD. Esboniodd PMD
amgylchiadau'r ardystiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD anfon llythyr o rybudd i PMD a pheidio â chymryd camau gweithredu pellach mewn perthynas â thrwydded cerbyd hacni HC6042 PMD. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - CTP. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
CTP. Esboniodd CTP,
ynghyd â JB, amgylchiadau'r ardystiad a'r gollfarn ac atebodd gwestiynau'r
aelodau. PENDERFYNWYD CYMERADWYO cais CTP am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - JMP. Cofnodion: Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â JMP. Esboniodd JMP, ynghyd â CE, amgylchiadau'r gollfarn ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Darllenodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor eiriau da mewn perthynas â JMP. Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD
PEIDIO AG ADNEWYDDU
trwyddedau cerbyd hacni a hurio preifat JMP. Rheswm dros y penderfyniad Cyfaddefodd JMP
ei fod wedi cyflawni trosedd goryrru arall yn 2012 ac o ganlyniad aeth ar gwrs
ymwybyddiaeth cyflymder. Cydnabu'r
pwyllgor nad oedd unrhyw ddyletswydd ar JMP i hysbysu'r Is-adran Drwyddedu ei
fod wedi mynd ar gwrs ymwybyddiaeth cyflymder. Serch hynny, cyflawnwyd troseddau goryrru
pellach ac roedd JMP wedi derbyn llythyrau rhybudd yn hyn o beth. Roedd JMP yn
ymwybodol bod yn rhaid hysbysu'r awdurdod am droseddau goryrru ond methodd
wneud hynny. Roedd y pwyllgor yn
pryderu am ddiogelwch y cyhoedd wrth deithio oherwydd roedd JMP yn cludo
aelodau o'r cyhoedd pan oedd yn goryrru.
Roedd yr aelodau yn ofidus ynghylch cyfaddefiad JMP ei fod wedi blino ac
a bod rhywbeth wedi tynnu'i sylw ar adeg un o'r troseddau goryrru a'i fod wedi
cyflawni trosedd goryrru ar achlysur arall er gwaethaf amodau gyrru gwael. Cydnabu'r pwyllgor ei fod yn gweithredu y tu allan i'r canllawiau ond roedd ganddynt bryderon difrifol nad oedd JMP yn gweithredu'n groes i'w gymeriad ac y byddai'r troseddau yn cael eu hailadrodd. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - APB. Cofnodion: Nododd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fod APB wedi peidio â dod i'r cyfarfod. Cadarnhawyd
nad oedd unrhyw gais am ohiriad wedi'i dderbyn gan APB. Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas
ag APB. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD: 1. Y dylid ymdrin â'r
mater yn absenoldeb APB; ac y 2. Dylid DIDDYMU'r
drwydded cerbyd hacni a hurio preifat. Rheswm dros y
penderfyniad Peidiodd APB â dod
i'r cyfarfod ac felly nid oedd yn gallu bodloni'r aelodau ei fod yn berson
addas a chymwys. Nid oedd y pwyllgor yn argyhoeddedig fod APB yn gweithredu'n groes i'w gymeriad ac na fyddai diogelwch y cyhoedd yn cael ei beryglu o gofio cynnwys yr adroddiad. |