Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

55.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

56.

Cofnodion: pdf eicon PDF 57 KB

Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2016 yn gofnod cywir.

57.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

58.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - MC.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch, ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag MC.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd MC amgylchiadau'r euogfarnau ac atebodd gwestiynau'r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD cais MC am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Nid oedd y pwyllgor o'r farn bod MC yn berson addas a chymwys oherwydd nid oedd o’r farn bod camddeall y broses yn lliniariad dilys.  Yn ogystal ag osgoi ateb cwestiynau wrth gael ei holi, roedd MC hefyd wedi methu datgelu'r ardystiadau.

59.

Apêl yn Erbyn Penderfyniad i beidio â Chymeradwyo Cynorthwy-ydd Teithwyr ar gyfer Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol - MOP.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Trafnidiaeth ar gefndir MOP.

 

Esboniodd MOP amgylchiadau'r euogfarn ac atebodd gwestiynau'r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD bod apêl MOP yn erbyn y penderfyniad i gael ei gymeradwyo fel Cynorthwy-ydd Teithwyr yn cael ei GYNNAL.

60.

Apêl yn erbyn y penderfyniad i beidio â chymeradwyo fel gyrrwr cludiant o'r cartref i'r ysgol - DLL.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Trafnidiaeth ar y cefndir mewn perthynas â DLL.

 

Esboniodd DLL, yr oedd ei wraig yn gwmni iddo, amgylchiadau’r euogfarn ac atebodd gwestiynau'r Aelodau.

 

Darllenodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor lythyr cefnogi mewn perthynas ag apêl DLL.

 

PENDERFYNWYD bod apêl DLL yn erbyn y penderfyniad i beidio â'i gymeradwyo fel Cynorthwy-ydd Teithwyr yn cael ei GYNNAL a bod DLL yn cael llythyr rhybudd cryf ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.