Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorydd C Anderson – Cofnod Rhif 54 – APH – Personol – Rwy'n adnabod 2 o'r bobl sy'n cynrychioli APH a gadewais cyn y drafodaeth. |
|
Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 9 Medi 2016 yn gofnod cywir. |
|
Canlyniadau Apeliadau (er gwybodaeth). PDF 48 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn manylu ar ganlyniadau'r apeliadau. PENDERFYNWYD NODI'R adroddiad ac i longyfarchiadau'r pwyllgor gael eu trosglwyddo i'r swyddogion a fu'n gweithio ar amddiffyn yr apeliadau. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - AJT. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas
ag AJT. Esboniodd AJT
amgylchiadau ei rybuddiadau ac atebodd gwestiynau'r
aelodau mewn perthynas â'r digwyddiadau. PENDERFYNWYD CYMERADWYO cais AJT am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - APH. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas
ag APH. Esboniodd APH
amgylchiadau'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau mewn perthynas â'r digwyddiadau. Cyflwynwyd saith
llythyr cefnogi ar ran APH. Darllenodd y Swyddog Cyfreithiol y llythyrau i'r
pwyllgor. PENDERFYNWYD CYMERADWYO cais APH am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. |