Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

42.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

43.

Cofnodion: pdf eicon PDF 71 KB

To approve & sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Awst 2016 yn gofnod cywir.

44.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

45.

Apêl yn erbyn y penderfyniad i beidio â chymeradwyo fel gyrrwr cludiant o'r cartref i'r ysgol - PASG.

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Cludiant wybodaeth gefndir o ran PASG.

 

Nododd PASG yr amgylchiadau sy'n gefndir i'r euogfarnau ac atebodd gwestiynau'r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD GWRTHOD apêl PASG yn erbyn y penderfyniad i beidio â chymeradwyo fel gyrrwr ar gyfer cludiant o'r cartref i'r ysgol.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Nid oedd y pwyllgor yn credu y byddai PASG yn gallu cefnogi ei hun yn emosiynol mewn sefyllfaoedd anodd wrth gludo plant.

 

Roedd y pwyllgor hefyd o'r farn nad oedd y swyddog a wrthododd cymeradwyo cludiant o'r cartref i'r ysgol wedi defnyddio'r canllawiau a fabwysiadwyd ar gyfer trais fel rhan o bolisi cludiant ysgolion y cyngor yn anghywir.

46.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - BJH.

Cofnodion:

Rhoddwyd cefndir BJH gan y Swyddog Trwyddedu Adrannol, Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch.

 

Nododd BJH yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r euogfarnau ac atebodd gwestiynau'r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD GWRTHOD cais BJH i gael trwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat o dan Adran 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Defnyddiodd Aelodau eu harweiniad mabwysiedig sef rhaid cael o leiaf dair blynedd heb gollfarnau cyn ystyried cais.

47.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - SMW.

Cofnodion:

Rhoddwyd cefndir SMW gan y Swyddog Trwyddedu Adrannol, Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch.

 

Nododd SMW yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r euogfarnau ac atebodd gwestiynau'r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD rhoi llythyr rhybuddio cryf i SMW ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

48.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hurio Preifat Cyfyngedig - TBC.

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu Adrannol fod TBC wedi methu dod i'r cyfarfod ac ni dderbyniwyd cais am ohiriad er mwyn ystyried y mater.

 

Rhoddwyd cefndir TBC gan y Swyddog Trwyddedu Adrannol, Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch.

 

PENDERFYNWYD:

 

a)    Y dylid ymdrin â'r mater yn absenoldeb TBC;

b)    GWRTHOD cais TBC am drwydded yrru gyfyngedig i gerbyd hacni a hurio preifat o dan Adran 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol  (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Glynodd Aelodau wrth eu harweiniad mabwysiedig sef rhaid cael rhwng 3 a 5 mlynedd heb gollfarnau cyn ystyried dyfarnu cais.