Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorydd C A Anderson - Personol - Rhif Cofnod. 37 - Yn adnabod rhieni MJW. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu Statudol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir. |
|
Cais i gael gwared ar amod o ran maint/cynhwysedd isaf peiriannau. PDF 53 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog
Adranno-Trwyddedu Bwyd a Diogelwch adroddiad a oedd yn ceisio diddymu’r amod o
ran lleiafswm maint/cynhwysedd yr injan, fel a nodir yn amodau cerbydau hacni,
hurio preifat a hurio preifat cyfyngedig. Manylodd ar y cefndir; y sefyllfa bresennol; y cynnig; ystyriaethau ac
argymhellion. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD y dylid CADW’R amod sy’n mynnu bod rhaid i gynhwysedd injan cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat a cherbydau hurio preifat cyfyngedig fod yn llai na 1500cc. |
|
Canlyniadau Apeliadau. PDF 49 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu Bwyd a Diogelwch adroddiad 'er
gwybodaeth' yn manylu ar ganlyniadau apeliadau. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei NODI. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth)
(Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Apêl yn erbyn y penderfyniad i beidio â chymeradwyo fel gyrrwr cludiant o'r cartref i'r ysgol - MJW. Cofnodion: Esboniodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r
pwyllgor fod MJW wedi gofyn am ohiriad am fod gwallau gyda gwiriad GDG
MJW. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD GOHIRIO'R mater nes cyfarfod arall yn y dyfodol. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - RBP. Cofnodion: Manylodd yr
Uwch-swyddog Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir ynglŷn â RBP. Amlinellodd RBP y
manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r collfarnau ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD adnewyddu trwydded hurio preifat a cherbyd hacni RBP ac anfon llythyr rhybuddio o ran ei ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - MAC. Cofnodion: Manylodd y Swyddog Adrannol – Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth
gefndir ynglŷn â chais MAC. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Gwnaeth MAC, yng
nghwmni ei wraig, ddarparu manylion i gefnogi ei gais ac atebodd gwestiynau'r
aelodau. PENDERFYNWYD caniatáu tystysgrif eithrio i MAC am gyfnod o flwyddyn. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - NM. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch manylu
ar yr wybodaeth gefndir ynglŷn ag NM. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Eglurodd NM yr
amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r collfarnau ac
atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU cais NM am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - Perchennog Cerbyd Hurio Preifat Cyfyngedig - Gweithredwr Cerbyd Hurio Preifat Cyfyngedig - MCB. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir ynglŷn ag
MCB. Amlinellodd MCB,
gyda chymorth Ms Hill, bargyfreithiwr, yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD AR
Y CANLYNOL: 1) Y dylid DIDDYMU trwyddedau gyrru hurio preifat
a cherbyd hacni dan Adran 61 Deddf Llywodraeth
Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976; 2) Y dylid
cyflwyno llythyr rhybudd terfynol i MCB (ynghylch cyfrifoldebau a chydymffurfio
â gofynion statudol) ynglŷn â'r 9 trwydded yrru
cerbyd hurio preifat cyfyngedig a'r drwydded cerbyd hurio preifat; a 3) Y Dylid DIDDYMU trwydded gweithredwr hurio
preifat MCB ar gyfer MCB Travel dan Adran 62 Deddf
Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. Rhesymau dros
y Penderfyniadau Penderfyniad
1 Nid oedd aelodau'n ystyried bod MCB yn berson addas a phriodol i feddu ar
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat mwyach o
ganlyniad i’r collfarnau a adroddwyd. O ran y drosedd dyddiedig 21 Ionawr 2016, cynghorwyd MCB ar 13 Ionawr 2016
nad oedd yn gallu gweithredu'r cerbyd dan sylw yn ei drwydded gweithredwr PSV.
Gwnaeth MCB anwybyddu'r cyngor hwn a defnyddiodd y cerbyd fel cerbyd hurio
preifat ar 21 Ionawr 2016 heb drwydded cerbyd dilys ac o ganlyniad cafodd
gollfarn. Nid oedd yr aelodau yn fodlon bod MCB wedi ymddwyn yn groes i’w gymeriad ac
na fyddai'n ailadrodd y drosedd. Rhoddwyd llythyr rhybudd i MCB yn flaenorol,
ond eto caniataodd i yrrwr didrwydded yrru cerbyd trwyddedig er ei fod yn
ymwybodol fod angen trwydded i wneud hyn.
Felly ystyriodd yr aelodau na fyddai rhybudd yn ddigonol i ddiogelu'r
cyhoedd teithiol, sef plant yn bennaf. MCB oedd yn gyfrifol yn y pen draw am sicrhau fod gofynion trwyddedig yn
cael eu bodloni ac na chymerodd unrhyw gamau i sicrhau cydymffurfiaeth â'r holl ofynion trwyddedu.
Nid oedd yr aelodau wedi'u darbwyllo y byddai'r trefniadau cyfredol yn
ddigonol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r holl ofynion
trwyddedu. Penderfyniad
2 Ystyriodd yr
aelodau fod y troseddau a gyflawnwyd gan MCB, sef unig-gyfarwyddwr unigol y
cwmni, a'r materion a adroddwyd a'r sylwadau a wnaed, yn newid materol mewn amgylchiadau,
ac o ganlyniad, nid oedd aelodau'n fodlon bellach fod MCB yn berson addas a
phriodol i feddu ar drwydded gweithredwr. Er mai’r
drosedd hon yw trosedd gyntaf y cwmni, gan mai MCB yw unig-gyfarwyddwr y cwmni,
ef sydd yn gyfrifol am gydymffurfio â'r gofynion
trwyddedu ac ystyriodd yr aelodau na chymerodd gamau digonol i ddiogelu'r
cyhoedd teithiol, yn enwedig plant, drwy fonitro'n ddigonol y cerbydau a'r
gyrwyr a ddefnyddiwyd.. O ran y drosedd dyddiedig 21 Ionawr 2016, cynghorwyd MCB ar 13 Ionawr 2016
nad oedd yn gallu gweithredu'r cerbyd dan sylw yn ei drwydded gweithredwr PSV.
Gwnaeth MCB anwybyddu'r cyngor hwn a defnyddiodd y cerbyd fel cerbyd hurio
preifat ar 21 Ionawr 2016 heb drwydded cerbyd dilys ac o ganlyniad cafodd
gollfarn. Nid oedd yr
aelodau wedi'u bodloni bod y cam gweithredu a gymerwyd gan MCB yn erbyn
gweithiwr yn ddigonol i ddiogelu'r cyhoedd teithiol. Nid oedd yr aelodau'n ystyried y byddai llythyr rhybudd arall yn ddigonol i ddiogelu'r cyhoedd teithiol, sef plant yn bennaf, gan fod MCB wedi cyflawni trosedd debyg yn dilyn rhybudd blaenorol, lle cyflogwyd gyrrwr heb drwydded i ddefnyddio cerbyd trwyddedig i hurio, a gweithredwyd cerbydau hurio preifat heb y drwydded yrru cerbyd gofynnol. |