Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r côd ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
To approve
& sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD y dylid cytuno bod cofnodion cyfarfodydd y
Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol Arbennig a gynhaliwyd ar 27 Mai, 2016, y
Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol Arbennig a gynhaliwyd ar 3 Mehefin, 2016 a'r
Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 10 Mehefin, 2016, yn gofnodion
cywir. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - MGRL. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas
ag MGRL. Amlinellodd MGRL y
manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r collfarnau ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO cais MGRL am
Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat gyda
llythyr cynghori ynghylch ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - PJCT. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
PJCT. Amlinellodd PJCT y
manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r collfarnau ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO cais PJCT am
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Rhaid i PJCT hefyd gael archwiliad meddygol
bob 6 mis gan ei feddyg teulu, yn unol â safonau meddygol Grŵp 2 y DVLA, a
chael archwiliad meddygol bob tri mis gan nyrs y meddyg teulu o ran y cyflwr
meddygol. Dylid darparu adroddiadau'r holl archwiliadau meddygol i'r Is-adran
Trwyddedu o fewn 5 niwrnod o'u cyflwyno. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - SH. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas
ag SH. Amlinellodd SH y
manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r collfarnau ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO cais SH am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat gyda llythyr cynghori ynghylch ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - SMC. Cofnodion: Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag SMC. Amlinellodd SMC, ar y cyd ag aelod o'r teulu, NC, y manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Yna siaradodd NC i gefnogi SMC. PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO cais SMC am
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Torrodd y cyfarfod am 11.25am ac ailgynnull am
11.30am. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 - Atodlen 4 - GS. Cofnodion: Manylodd y Swyddog Trwyddedu Adrannol, Safonau Masnach, yr wybodaeth
gefndir mewn perthynas â GS. Cadarnhaodd y byddai llinell olaf paragraff 4.1 yn
cael ei dileu ac y byddai aelodau'n ystyried y cais ar y sail honno. Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Amlinellodd GS y manylion a'r amgylchiadau cefndir a nodwyd yn yr adroddiad
ac atebodd gwestiynau'r Aelodau. PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO Caniatâd Masnachu ar y Stryd GS gyda llythyr cynghori. |