Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

40.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

41.

Cofnodion: pdf eicon PDF 110 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2024 yn gofnod cywir, yn destun cofnodi ymddiheuriadau'r Cynghorydd J P Curtice.

 

42.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

43             Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 a Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am ganiatáu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat - KM.

 

Manylodd y Rheolwr Gwasanaeth ar y cefndir mewn perthynas â KM.

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr Arweiniol at adran 4.41 y Polisi.

 

Esboniodd KM yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r mater ac atebodd gwestiynau’r aelodau.

 

Penderfynwyd gwrthod cais KM am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Gofynnodd y Pwyllgor ynghylch diogelwch yr ymgeisydd ac a yw'n addas ei fod yn berchen ar drwydded, a nododd fod dwy drosedd wedi bod yn gyflym ar ôl ei gilydd.

 

Ni roddodd yr ymgeisydd unrhyw amgylchiadau eithriadol neu resymau cyfiawnadwy iddo beidio â glynu wrth yr arweiniad.

 

Mae'r Pwyllgor felly'n gwrthod rhoi trwydded.

 

43.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - KM.

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Gwasanaeth ar y cefndir mewn perthynas â KM.

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr Arweiniol at adran 4.41 y Polisi.

 

Esboniodd KM yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r mater ac atebodd gwestiynau’r aelodau.

 

Penderfynwyd gwrthod cais KM am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Gofynnodd y Pwyllgor ynghylch diogelwch yr ymgeisydd ac a yw'n addas ei fod yn berchen ar drwydded, a nododd fod dwy drosedd wedi bod yn gyflym ar ôl ei gilydd.

 

Ni roddodd yr ymgeisydd unrhyw amgylchiadau eithriadol neu resymau cyfiawnadwy iddo beidio â glynu wrth yr arweiniad.

 

Mae'r Pwyllgor felly'n gwrthod rhoi trwydded.

 

 

44.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - AMB.

Cofnodion:

Manylodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag AMB.

 

Esboniodd AMB, yng nghwmni JK, yr amgylchiadau mewn perthynas â'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd diddymu Trwydded Gyfyngedig i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat AMB.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Mae'r Pwyllgor yn ystyried y mater hwn yn ôl ei rinweddau ei hun o ran yr anghysonder yn y broses cyflwyno cais yn unig.