Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

30.

Cofnodion: pdf eicon PDF 215 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2023 yn gofnod cywir.

 

31.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2023 yn gofnod cywir.

 

32.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - HG.

Cofnodion:

32             Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 a Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 – Cais am gymeradwyo Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Hurio Preifat - HG.

 

Manylodd y Rheolwr Gwasanaeth ar y cefndir mewn perthynas â HG.

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd HG yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r mater ac atebodd gwestiynau’r Aelodau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais HG am drwydded i yrru cerbydau hacni a hurio preifat.

 

33.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Adnewyddu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - AMB.

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Gwasanaeth ar y cefndir mewn perthynas ag AMB.

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd AMB yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r mater ac atebodd gwestiynau’r Aelodau.

 

Darllenodd y Cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor ddau eirda i gefnogi cais AMB.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Rhoi llythyr rhybuddio i AMB ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

2)    Cymeradwyo cais AMB i adnewyddu trwydded gyfyngedig i yrru cerbydau hacni a hurio preifat.