Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

13.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

14.

Cofnodion: pdf eicon PDF 211 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2023 yn gofnod cywir.

 

15.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

16.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - AJ.

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth fod AJ wedi gwneud cais am ohirio'r mater a manylodd ar y rhesymau dros y cais.

Penderfynwyd:

1) Caniatáu cais AJ am ohiriad.

 

17.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Gyfyngedig - MRD.

Cofnodion:

Ymatebodd y Cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor i gwestiwn gan aelod.

Ymatebodd y Cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor i gwestiwn gan Mr W.

Esboniodd MRD, yng nghwmni Mr W, yr amgylchiadau mewn perthynas â'r mater ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

Yn dilyn cais gan Mr W, darllenodd y Cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor eirdaon mewn perthynas ag MRD.

Penderfynwyd:

1)    Rhoi rhybudd i MRD ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

18.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - JLC.

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Gwasanaeth ar y cefndir mewn perthynas â JLC.

Dywedodd fod JLC wedi gofyn i'r mater gael ei drafod yn ei absenoldeb.  Ar ben hynny, cyfeiriodd at lythyr a gyflwynwyd gan JLC yr oedd wedi gofyn i'r pwyllgor ei ystyried.

Darllenodd y Cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor fersiwn wedi'i golygu o'r llythyr.

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

Penderfynwyd:

1)    Caniatáu cais JLC i'r mater gael ei drafod yn ei absenoldeb.

2)    Gwrthod cais JLC am ganiatáu trwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

Rheswm dros y Penderfyniad

Roedd y Pwyllgor yn ystyried nad oedd JLC yn berson addas a phriodol na diogel ac addas.