Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr A Pugh a Mark Thomas gysylltiad personol â Chofnod 72 “Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”. 2)
Datganodd y Cynghorwyr R Francis-Davies a D H Hopkins gysylltiad personol a rhagfarnol
â chofnod 72 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a gadawsant y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried. 3)
Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 72 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol" a dywedodd ei fod wedi cael goddefeb
gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion
yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. 4)
Datganodd y Cynghorwyr M C Child, R Francis-Davies, A S
Lewis a R C Stewart gysylltiad personol a rhagfarnol
â Chofnod 73 "Prydles arfaethedig i Gyngor Cymuned y Mwmbwls dan y Polisi
Trosglwyddo Asedau Cymunedol" a gadawsant y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei
hystyried. 5)
Datganodd y Cynghorydd Mark Thomas gysylltiad personol â Chofnod
79 “Adborth ar Graffu Cyn
Penderfynu – Adroddiad Rheoli i roi’r diweddaraf ar Faes
Awyr Abertawe” a Chofnod 80
“Adroddiad Rheoli i roi’r diweddaraf ar Faes Awyr
Abertawe”. 6)
Datganodd y Cynghorydd A H Stevens gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 79 “Adborth
ar Graffu Cyn Penderfynu – Adroddiad Rheoli i roi’r diweddaraf ar Faes Awyr
Abertawe” a chofnod 80 “Adroddiad
Rheoli i roi’r diweddaraf ar Faes
Awyr Abertawe” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei
hystyried. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: a)
Parc Sglefrio. Datganiad o Gysylltiadau Dywedodd Arweinydd y
Cyngor na fyddai'n cymryd rhan yn yr eitem oedd ar ddod yn ymwneud â Pharc
Sglefrio'r Mwmbwls, yn dilyn cyngor gan y Swyddog Monitro. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Mae’n rhaid i gwestiynau gael
eu cyflwyno’n ysgrifenedig, erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Cyflwynodd Jason
Williams cwestiwn mewn perthynas â Chofnod 73 "Prydles Arfaethedig i
Gyngor Cymuned y Mwmbwls dan y Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol". Ymatebodd y Cynghorydd David
Hopkins. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorwyr
L R Tyler-Lloyd a Will Thomas cwestiwn mewn perthynas â Chofnod 73
"Prydles Arfaethedig i Gyngor Cymuned y Mwmbwls dan y Polisi Trosglwyddo
Asedau Cymunedol". Ymatebodd y Cynghorydd David Hopkins. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Newid yn yr Hinsawdd - Y Diweddaraf am Gynnydd PDF 675 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid
Gwasanaethau adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn
dilyn yr Adroddiad "Datganiad Argyfwng Hinsawdd – Adolygiad Polisi a
Chamau Gweithredu Arfaethedig" i'r Cabinet ym mis Tachwedd 2020. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo’r cynnig i ehangu'r gwaith i gynnwys Newid yn
yr Hinsawdd a Natur a newidiadau dilynol i lywodraethu. 2)
Cymeradwyo’r Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd a Natur
2021-2030 (Atodiad 2 yr adroddiad) a dylid dirprwyo awdurdod i Ddirprwy
Arweinydd y Cyngor (Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid
Gwasanaethau) ynghyd â'r Cyfarwyddwr Lleoedd i wneud newidiadau pellach. 3)
Cymeradwyo’r gwaith cefnogi pellach sydd ei angen i
ddatblygu'r Strategaeth tymor hwy ac ymdrechu tuag at garbon sero-net erbyn
2050 ar gyfer Abertawe. 4)
Datblygu’r gwaith i barhau i adrodd am allyriadau drwy'r
cyngor Cymeradwyo’r fethodoleg cyfrifo allyriadau carbon
gyda'r goblygiadau cysylltiedig a nodir yn yr adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Strategaeth Toiledau Cyhoeddus Abertawe: Adroddiad cynnydd. PDF 267 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd
adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer Strategaeth Toiledau
Cyhoeddus Abertawe a'r cynnydd ar y cynllun gweithredu. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo Strategaeth Toiledau Cyhoeddus Abertawe. 2)
Nodi'r cynnydd hyd yma a chymeradwyo'r camau gweithredu
ar gyfer cyflawni yn y dyfodol a dirprwyir awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd ac
Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i ddiwygio neu
newid y cynllun cyflawni. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo'r cytundeb cyfreithiol ar gyfer y bartneriaeth addysg ranbarthol newydd PDF 258 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a
oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y cytundeb cyfreithiol i sefydlu
partneriaeth addysg ranbarthol newydd. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r cytundeb cyfreithiol drafft (sydd wedi'i
atodi yn Atodiad A yr adroddiad) i sefydlu cyd-bwyllgor ar gyfer partneriaeth
addysg ranbarthol newydd a adwaenir fel y Bartneriaeth i gefnogi'r gwaith o
gyflawni gwelliannau i ysgolion. 2)
Cymeradwyo penodiad Arweinydd y Cyngor fel aelod o'r
cyd-bwyllgor. 3)
Dirprwyo'r swyddogaethau hynny sy'n angenrheidiol i
gefnogi'r gwaith i wella ysgolion yn ardal y cyngor a'r rhanbarth, gan gydnabod
a derbyn y bydd y cyngor a'r awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth yn cadw
cyfrifoldeb statudol am berfformiad ysgolion, ynghyd â'r cyfrifoldeb dros arfer
pwerau statudol, ymyrryd a threfnu ysgolion yn eu priod feysydd i'r
cyd-bwyllgor. 4)
Cymeradwyo sefydlu Grŵp Cynghorwyr Cyd-bwyllgor
Craffu ar sail y cylch gorchwyl a nodir yn y cytundeb cyfreithiol fel y'i
diwygiwyd o bryd i'w gilydd. 5)
Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Addysg mewn
ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Cyfreithiol ac Aelod y Cabinet dros Wella Addysg,
Dysgu a Sgiliau i wneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol pellach i'r cytundeb
cyfreithiol ac awdurdodi'r Prif Swyddog Cyfreithiol i ymrwymo i'r cytundeb ar
ran y cyngor ynghyd ag unrhyw ddogfennau cyfreithiol ategol sy'n angenrheidiol
i hwyluso'r gwaith o greu a gweithredu'r bartneriaeth newydd. 6)
Cymeradwyo'r ddarpariaeth gwasanaethau gan y Bartneriaeth
i gynghorau nad ydynt yn bartïon i'r cytundeb cyfreithiol, sef Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir
Powys yn unol â chymal 14 y cytundeb cyfreithiol gydag awdurdod wedi'i
ddirprwyo i Gyd-bwyllgor y Bartneriaeth i gytuno ar y telerau y mae
gwasanaethau o'r fath i'w darparu’n unol â hwy. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 315 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a
oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi
swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu
ysgolion. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau
canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet
dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Prydles arfaethedig i Gyngor Cymuned y Mwmbwls dan y Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol. PDF 496 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd
yn gofyn am gymeradwyaeth i gyd-drafod Penawdau Telerau a chytuno arnynt ac
ymrwymo i brydles gyda Chyngor Cymuned y Mwmbwls ar gyfer tir yn Llwynderw at
ddiben adeiladu a rheoli parc sglefrio newydd ar y safle. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi'r ymatebion i ganlyniadau'r broses ymgynghori o dan
ddeddfwriaeth mannau agored cyhoeddus a gynhaliwyd mewn perthynas â'r tir a
nodwyd yn Atodiad A (cynllun safle) yr adroddiad. Darparu copi llawn o'r
ymatebion a gafwyd, a phob un o'r rhai sy'n gwrthwynebu, yn cefnogi neu'n
darparu sylw niwtral fel Atodiad F o'r adroddiad, a darparu crynodeb
cyffredinol yng nghorff yr adroddiad. 2)
Cymeradwyo'r bwriad i werthu'r tir i Gyngor Cymuned y
Mwmbwls ar lefel o danbrisio sy'n dderbyniol i'r Cabinet ac yn seiliedig ar
gyngor Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo. Dirprwyo awdurdod i Bennaeth y
Gwasanaethau Eiddo gyd-drafod a phenderfynu ar delerau'r brydles arfaethedig y
tir a nodir yn Atodiad A (cynllun safle) yr adroddiad a dirprwyo awdurdod i'r
Prif Swyddog Cyfreithiol er mwyn cwblhau'r ddogfennaeth gyfreithiol. 3) Gwneud gwelliannau i'r safle yn unol â'r cyfeirnod caniatâd cynllunio cysylltiedig 2019/2345/FUL a roddwyd ar 13 Chwefror 2020 ar gyfer gosod Parc Sglefrio newydd ym Mharc Sglefrio West Cross, Mumbles Road, Blackpill, Abertawe. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'r Grant Gwella 2020/21 - trosglwyddo'r gyllideb. PDF 162 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid
Gwasanaethau adroddiad a oedd yn darparu manylion y Rhaglen Grant Cyfleusterau
i'r Anabl a'r Grant Gwella yn 2021-22 a gofynnodd am gymeradwyaeth i
drosglwyddo'r gyllideb o'r Grant Cyfleusterau i'r Anabl (GCA) i Gronfa
Gyffredinol Cyfalaf y Cyngor a'r Grant Mân Addasiadau ac o gyllideb Grant
Tasglu'r Cymoedd i gyllideb Grant Cymoedd y Gorllewin. Cydymffurfio â Rheol 7 y
Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf), i ymrwymo ac awdurdodi
cynlluniau yn ôl y Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd : 1)
Cymeradwyo trosglwyddo £1,210,000 o gyllideb y Grant
Cyfleusterau i'r Anabl i Gronfa Gyfalaf Gyffredinol y Cyngor. 2)
Cymeradwyo trosglwyddo £307,000 o'r Grant Cyfleusterau
i'r Anabl i gyllideb y Grant Mân Addasiadau. 3)
Cymeradwyo trosglwyddo £105,000 o gyllideb Grant Cartrefi
Gwag Tasglu'r Cymoedd i gyllideb Cartrefi Gwag Tasglu Cymoedd y Gorllewin. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020/21. PDF 254 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Busnes a Pherfformiad adroddiad
gwybodaeth a gyflwynodd adroddiad blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Grant Diogelwch Ffyrdd 2021/22 PDF 548 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd
adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhau’r dyraniad grant Diogelwch Ffyrdd gan
Lywodraeth Cymru a chynnwys y gwariant yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021/22. Penderfynwyd: 1)
Cadarnhau’r dyraniad grant Diogelwch Ffyrdd o £219,100 a
bydd y gwariant yn cael ei gynnwys yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021/22. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau 2021/22 PDF 631 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd
adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhau’r dyraniad grant Llwybrau Diogel mewn
Cymunedau gan Lywodraeth Cymru a chynnwys y gwariant yn y rhaglen gyfalaf ar
gyfer 2021/22. Penderfynwyd: 1)
Cadarnhau’r dyraniad grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau
o £283,200 a bydd y gwariant yn cael ei gynnwys yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer
2021/22. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei
bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd
gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007
mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes
canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - Update Management Report on Swansea Airport. (Llafar) Cofnodion: Darparodd
y Cynghorydd C A Holley yr adborth cyn penderfynu mewn perthynas â'r Adroddiad
Rheoli ar Faes Awyr Abertawe. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Rheoli i roi'r diweddaraf ar Faes Awyr Abertawe.* Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun
Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn
Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn
Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i
wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau rheoli ystadau presennol ym Maes Awyr
Abertawe. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel
y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyfarnu contract i drin/gael gwared ar wastraff anailgylchadwy. Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, adroddiad a oedd yn gofyn am
gymeradwyaeth i ddyfarnu contract tymor canolig ar gyfer trin a gwaredu
gwastraff na ellir ei ailgylchu (mewn sachau du). Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel
y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |