Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd L S Gibbard gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 87 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdodau Lleol" a gadawsant y cyfarfod cyn ei ystyried. 2)
Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 87 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol" a dywedodd ei fod wedi cael goddefeb
gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion
yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. 3)
Datganodd y Cynghorwyr M C Child a A
H Stevens gysylltiad personol â Chofnod 90 "Cynllun Rheoli AoHNE Gŵyr 2021/22 – Cynnig Cyllid CNC”. 4)
Datganodd y Cynghorwyr L S Gibbard a R V Smith gysylltiad
personol â Chofnod 95 “Adborth ar Graffu
Cyn Penderfynu - Caffael ac ailddatblygu prydles FPR7 - 279 Stryd Rhydychen / 25-27 Princess Way” a Chofnod
96 “Caffael ac ailddatblygu
prydles FPR7 - 279 Stryd Rhydychen / 25-27 Princess Way”. |
|||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2021. |
|||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Mae’n rhaid i gwestiynau gael
eu cyflwyno’n ysgrifenedig, erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 216 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff
llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r
enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y
Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
|||||||||||||||||||
Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 2 2021/22. PDF 310 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Busnes a Pherfformiad adroddiad a
oedd yn amlinellu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2021-2022. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Caiff
canlyniadau perfformiad Chwarter 2 2021/22 eu cymeradwyo a'u defnyddio i lywio
penderfyniadau gweithredol ar ddyrannu adnoddau a, lle y bo'n berthnasol, dylid
cymeradwyo camau unioni i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth
gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. |
|||||||||||||||||||
Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2il 2021/22. PDF 489 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad
a oedd yn manylu ar fonitro cyllidebau refeniw a chyfalaf 2021/22 yn ariannol,
gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi'r
sylwadau a'r amrywiadau, gan gynnwys yr ansicrwydd materol, a nodwyd yn yr
adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r
rhain 2)
Cymeradwyo'r
trosglwyddiadau a nodir ym mharagraff 2.7 o'r adroddiad a'r defnydd o'r gronfa
wrth gefn fel a nodir ym mharagraff 3.2 o'r adroddiad yn amodol ar unrhyw
gyngor pellach i'r Swyddog Adran 151 yn ystod y flwyddyn. 3)
Atgyfnerthir
yr angen i bob Cyfarwyddwr barhau i leihau gorwario ar wasanaethau yn ystod y
flwyddyn, gan gydnabod mai dim ond drwy ddibynnu'n drwm ar ad-daliad tebygol
(sydd ymhell o fod yn sicr), cyllidebau wrth gefn a chronfeydd wrth gefn a
ddelir yn ganolog gan Lywodraeth Cymru y mae'r gyllideb gyffredinol yn cael ei
chydbwyso ar hyn o bryd, a hefyd i gydnabod bod y gorwariant bron yn gyfan gwbl
oherwydd pwysau COVID parhaus a ragwelir yn fras. 4) Dylid ystyried yr opsiynau ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad mewn perthynas â thanwariant posib ar gyfer y flwyddyn gyda chamau terfynol i'w cadarnhau yn adroddiad y trydydd chwarter ym mis Chwefror 2022. |
|||||||||||||||||||
Cynllun Rheoli AoHNE Gwyr 2021/22 - cynnig cyllid CNC. PDF 320 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd
yn ceisio cymeradwyaeth ôl-weithredol i dderbyn cynnig o gyllid gan Cyfoeth
Naturiol Cymru (CNC), i gefnogi'r gwaith o weithredu Cynllun Rheoli Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Gŵyr. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Dylid
nodi'r amserlenni byr ar gyfer cyflwyno ceisiadau fel yr amlinellir ym
mharagraff 2 o'r adroddiad, a derbyn y cynnig o gyllid (cyfanswm o £108,250)
gan CNC, er mwyn gallu cymeradwyo Cynllun Rheoli AoHNE
Gŵyr. |
|||||||||||||||||||
Diweddariad ar Gyd-bwyllgorau Corfforaethol Rhanbarthol De-orllewin Cymru. PDF 448 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am
weithredu Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru yn unol â Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a gofynnodd am gymeradwyaeth lle bo
hynny'n berthnasol ar gyfer cyfranogiad Cyngor Dinas a Sir Abertawe ("y
cyngor). Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi'r
ffrydiau gwaith presennol sy'n gysylltiedig â Chyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin
Cymru a'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Swyddogion i hwyluso
gwaith o'r fath. 2)
Dylid
nodi'r dyraniad o gyfrifoldebau gweithredol a'r cynigion a nodir ym mharagraff
3.2 o'r adroddiad. 3)
Dylid
nodi'r cynnig o ran sut y bydd Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru a'r
gwahanol is-bwyllgorau'n cael eu sefydlu. 4)
Dylid
nodi'r cynigion ar gyfer y Cynghorwyr y cyfeirir atynt felly ym mharagraffau
4.4 a 4.5 o'r adroddiad i eistedd ar y Cyd-bwyllgor Corfforaethol a'r
is-bwyllgorau a enwyd. 5)
Awdurdod
yn cael ei ddirprwyo i'r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y
Cyngor i gytuno ar unrhyw ddogfennau sy'n angenrheidiol i weithredu gofynion yr
adroddiad hwn. |
|||||||||||||||||||
Adfywio Sgwâr y Castell FPR7. PDF 843 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad
a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol Gweithdrefn Ariannol 7 (Rhaglennu ac
Arfarniadau Cyfalaf) er mwyn neilltuo ac awdurdodi ychwanegu Cynllun Sgwâr y
Castell at y Rhaglen Gyfalaf ac adrodd yn ôl ar ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Ychwanegir
cynllun Adfywio Sgwâr y Castell at y Rhaglen Gyfalaf yn unol â Rheol
Gweithdrefn Ariannol 7 i symud ymlaen i gyflwyno yn ystod 2022/23. 2)
Yn
amodol ar gadarnhad ffurfiol o gynnig grant, bydd y cyngor yn derbyn y cynnig o
gyllid grant ac yn lleihau'r alwad yn erbyn y cyfalaf wrth gefn. 3)
Caiff
incwm refeniw o'r cynllun ei neilltuo ar gyfer gwaith cynnal a chadw parhaus ac
ar gyfer cronfa ad-dalu ar gyfer Sgwâr y Castell. |
|||||||||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 236 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau
busnes y nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au)
f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|||||||||||||||||||
Adfywio Sgwâr y Castell FPR7. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad
a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol Gweithdrefn Ariannol 7 (Rhaglennu ac
Arfarniadau Cyfalaf) er mwyn neilltuo ac awdurdodi ychwanegu Cynllun Sgwâr y
Castell at y Rhaglen Gyfalaf ac adrodd yn ôl ar ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||
Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - Caffael ac ailddatblygu prydles FPR7 - 279 Stryd Rhydychen/25-27 Princess Way. (Llafar) Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
P M Black yr Adborth Craffu Cyn Penderfynu. |
|||||||||||||||||||
Caffael ac ailddatblygu prydles FPR7 - 279 Stryd Rhydychen/25-27 Princess Way.* Cofnodion: Gweithdrefn
Galw i Mewn - yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod
gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu
unrhyw newid pwysig i'r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynwyd
adroddiad ar y cyd gan Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth
ac Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau a oedd yn ceisio cydymffurfio
â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf) er mwyn
neilltuo ac awdurdodi ychwanegu cynlluniau newydd at y Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |