Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

52.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir  Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)            Datganodd y Cynghorwyr E J King, A S Lewis a R C Stewart gysylltiad personol â chofnod 58 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol".

 

2)            Datganodd y Cynghorwyr R Francis-Davies a A H Stevens gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 58 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a thynnodd yn ôl o'r cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried.

 

3)            Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 58 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

53.

Cofnodion. pdf eicon PDF 102 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)           Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Medi 2021.

54.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)            Munud o Ddistawrwydd

 

a)            Trychineb Aberfan

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor 55 o flynyddoedd yn ôl i heddiw y bu farw 116 o blant a 28 o oedolion yn ystod trychineb Aberfan pan lithrodd tomen gwastraff glo i lawr ar Ysgol Iau Pantglas a'r tai amgylchynol.

 

b)           Syr David Amess (AS)

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at lofruddiaeth drasig Syr David Amess AS ar 15 Hydref 2021.

 

Fel arwydd o gydymdeimlad a pharch cafwyd munud o ddistawrwydd.

 

2)            Cyfarfodydd Aml-leoliad - Diolch

 

Dywedodd Arweinydd y cyngor fod y cyfarfod yn un o'r cyfarfodydd aml-leoliad cyntaf i’w gynnal yng Nghymru yn dilyn newid deddfwriaethol.  Diolchodd i'r Cynghorydd Andrew Stevens, Huw Evans, Darren Richards a Nerys Williams am weithio i wneud y cyfan yn bosib. Diolchodd hefyd i Lywodraeth Cymru am ei grant i'w wneud yn bosib.

55.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig, erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Nortridge Perrott 4 cwestiwn mewn perthynas â Chofnod 59 "Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Amddiffyniad Arfordirol y Mwmbwls - Grant Rheoli Risgiau Llifogydd ac Erydu Arfordirol 2018-22".

 

Ymatebodd y Cynghorwr Mark Thomas.

56.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

57.

Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2020/21 pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i gyhoeddi Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2020/21, a oedd yn adrodd am y cynnydd a wnaed i fodloni amcanion lles y cyngor a ddisgrifiwyd yn y Cynllun Corfforaethol ac i fodloni gofynion eraill a nodir yn y canllawiau statudol sy'n ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad i'w gyhoeddi.

58.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 218 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1.

Ysgol Gynradd Gellifedw

Helen Thomas

2.

Ysgol Gynradd Clwyd

Douglas Thomas

3.

Ysgol Gynradd Gorseinon

Deborah Rowberry

4.

Ysgol Gynradd Mayals

Brian Arthur

5.

Ysgol Gynradd Penyrheol

Y Cynghorydd Andrew Stevens

6.

Ysgol Gynradd Pontarddulais

Jane Harris

7.

Ysgol Gynradd Waun Wen

Lynwen Barnsley

8.

YGG y Login Fach

Y Cyng. Wendy Lewis

9.

Ysgol Gymunedol Dylan Thomas

Y Cyng. Michael Durke

10.

Ysgol Gyfun Treforys

Y Cyng. Robert Francis-Davies

11.

Ysgol Gyfun yr Olchfa

Y Cyng. Mike Day

 

59.

Rheol 7 y weithdrefn ariannol, amddiffyniad arfordirol y Mwmbwls - grant rheoli risgiau llifogydd ac erydu arfordirol 2018-22. pdf eicon PDF 671 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn gofyn am gadarnhau'r grant Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordirol (Cyfalaf) diweddaredig gan Lywodraeth Cymru a chynnwys y gwariant yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021/22 i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol – neilltuo ac awdurdodi cynllun i'r Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Y cadarnheir y grant Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd (Cyfalaf) o £1,735,130.19, sef cyfanswm cyllid o 100% ar gyfer cam dylunio'r cynllun hwn a bod hyn wedi'i gynnwys yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer blynyddoedd 2021/22 hyd at 2022/23. Cyfanswm cost cam cychwynnol y cynllun yw £1,735,130.19.

60.

Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Grantiau Ychwanegol Cronfa Teithio Llesol 2021/22 pdf eicon PDF 350 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn gofyn am:

 

i)             Gymeradwyo'r cais am gyllid ar gyfer Cyllid Ychwanegol y Gronfa Teithio Llesol (CTLl), a chadarnhau canlyniad y cais, a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer gwariant ar y prosiectau cysylltiedig yn 2021/22.

 

ii)            Cymeradwyo dirprwyo unrhyw fanylion sy'n weddill sy'n gysylltiedig â'r cynlluniau, yn unol â'r gymeradwyaeth ar gyfer y grant, i alluogi'r cynllun i gael ei gyflawni o fewn tymor y grant, i Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd a'r Cyfarwyddwr Lleoedd.

 

iii)           Cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol  (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf): ymrwymo ac awdurdodi cynlluniau yn y Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Y caiff cynlluniau ychwanegol Cronfa Teithio Llesol 2021/22, ynghyd â'u goblygiadau ariannol, eu cymeradwyo.

61.

Cynnig i adfeddu safleoedd y Gronfa Gyffredinol i'r Cyfrif Refeniw Tai. pdf eicon PDF 516 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau ac Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio ystyried y posibilrwydd o adfeddu safleoedd datblygu preswyl y Gronfa Gyffredinol a nodwyd i'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) er mwyn cefnogi darpariaeth tai fforddiadwy trwy'r fenter Rhagor o Gartrefi.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Adfeddu safleoedd y Gronfa Gyffredinol a enwir yn y tabl yn Adran 4.3 yr adroddiad i'r Cyfrif Refeniw Tai ar werth y farchnad awgrymedig, gan nodi lleihad posib yn y derbyniad cyfalaf.

 

2)            Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Cyllid, Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau ac Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a Gweithrediadau gytuno ar werth terfynol safle Midland Place yn unol â phroses dichonoldeb y cynllun.

62.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

63.

Prosiect Isadeiledd Ffordd y Brenin FPR7

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth ac Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu a Gwerthusiadau Cyfalaf) - i awdurdodi amrywiad ar y cynllun cyfalaf presennol yn y Rhaglen Gyfalaf, sy'n deillio o effaith estyniad sy'n deillio o'r contractwr gwreiddiol yn mynd i ddwylo'r gweinyddwr, ac effaith pandemig COVID-19.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.