Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

20.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd D H Hopkins fudd personol a rhagfarnol yng Nghofnod rhif 25 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a gadawodd cyn y drafodaeth.

 

Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol â Chofnod 25 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a nododd ei fod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad ond i beidio â phleidleisio ar faterion sy'n ymwneud â phenodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol.

 

21.

Cofnodion. pdf eicon PDF 329 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)    Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2021.

 

22.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y penderfyniad adolygiad barnwrol diweddar ynghylch y parc sglefrio yn ardal Blackpill. Amlinellodd fod yr awdurdod wedi ildio'r cynnig er mwyn osgoi proses gyfreithiol hir a chostus.

 

Nododd fod yr awdurdod yn parhau i fod yn llwyr ymroddedig i ddarparu cyfleuster parc sglefrio i breswylwyr Abertawe wrth symud ymlaen, a nododd y bydd swyddogion yn edrych yn awr ar gyflwyno adroddiad newydd i'r Cabinet ei ystyried.

 

23.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

24.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

25.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe: - Achos Busnes Rhaglen Sgiliau a Thalent pdf eicon PDF 462 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i achos busnes Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe ac i awdurdodi ei gyflwyniad ffurfiol yn unol â Chynllun Gweithredu'r Fargen Ddinesig i sicrhau cymeradwyaeth ariannol y Fargen Ddinesig.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)    cymeradwyo achos busnes Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe (Atodiad 1) a'i gyflwyniad ffurfiol yn unol â Chynllun Gweithredu'r Fargen Ddinesig i sicrhau cyllid y Fargen Ddinesig.

2)    Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Lleoedd mewn ymgynghoriad ag Aelod o'r Cabinet i gymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i'r achos busnes y gallai fod yn ofynnol iddynt gael cymeradwyaeth ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

 

26.

Adfywio Abertawe - Penodi Partner Datblygu pdf eicon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i benodi'r Partner Datblygu a Ffefrir yn dilyn proses gaffael deialog gystadleuol Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

 

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 gyngor a chyfeiriodd at yr wybodaeth gyfrinachol a masnachol sensitif a gynhwysir yn yr adroddiad eithriedig yn Eitem 16 yr Agenda..

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)    cymeradwyo penodi'r cynigydd a ffefrir fel y Partner Datblygu Safleoedd Strategol.

2)    cymeradwyo cychwyn trafodaethau cyfreithiol gyda'r cynigydd a ffefrir i ddatblygu telerau terfynol y Cytundeb Partneriaeth Strategol (CPS), yn seiliedig ar y Penawdau Telerau manwl a ddaeth i ben yn ystod y broses gaffael.

3)    Rhoir awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyfreithiol i gymeradwyo telerau terfynol y Cytundeb Partneriaeth Strategol ac unrhyw ddeunydd ategol ac i ymrwymo i'r Cytundeb Partneriaeth Strategol, yn amodol ar gymeradwyaeth o'r fath.

4)    Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Cyfreithiol a'r Prif Swyddog Cyllid i gymeradwyo cwblhau proses Cyfnod 1.  Cymeradwyo rhoi cyfnod o 6 mis o ddethol i'r cynigydd a ffefrir ar ôl cwblhau Cyfnod 1 ar y ddealltwriaeth y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet i gymeradwyo Cyfnod 2. Bydd yr adroddiad hwn yn nodi sefyllfa ariannol ddiweddaraf y cynigydd a ffefrir.

 

 

27.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 220 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)             Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

1.    Ysgol Gynradd Casllwchwr

Mr John Butler

2.    Ysgol Gynradd Clwyd

Y Cynghorydd Terence Hennegan

3.    Ysgol Gynradd Danygraig

Mrs Bryony Kamratov-Jones

4.    Ysgol Gynradd Hendrefoelan

Mrs Kathryn Novis

5.    Ysgol Gynradd Newton

Mrs Sally Harris

6.    Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant

Mr Chris Law

7.    Ysgol Gynradd Townhill

Mrs Joanne Lewis

Y Cynghorydd David Hopkins

8.    YGG Bryn-y-môr

Mrs Saran Thomas

9.    Ysgol Gymunedol Dylan Thomas

Mr Dereck Roberts

10. YG Gŵyr

Mrs Aldyth Williams

 

28.

Monitro Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2020/21. pdf eicon PDF 384 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn manylu ar ganlyniadau perfformiad 2020/21 wrth gyflawni Amcanion Lles (blaenoriaethau) y cyngor a ddisgrifir yng Nghynllun Corfforaethol 2020/22, Cyflwyno Abertawe Lwyddiannus a Chynaliadwy.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)    Nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywirol i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

 

29.

Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg. pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal i Oedolion ac Iechyd Cymunedol adroddiad a oedd yn manylu ar strategaeth 5 mlynedd Gofalwyr Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg ac i Gyngor Abertawe ei chymeradwyo fel rhan o drefniadau Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)    cymeradwyo strategaeth 5 mlynedd Gofalwyr Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg a’r ddogfen Canllaw Cyfeirio Cyflym ategol (Atodiad 1 a 2).

 

30.

Fframwaith Cydgynhyrchu Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal i Oedolion ac Iechyd Cymunedol adroddiad a oedd yn manylu ar Fframwaith Cyd-gynhyrchu Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg ac i Gyngor Abertawe ei gymeradwyo fel rhan o drefniadau Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)    Cymeradwyo Fframwaith Cyd-gynhyrchu Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg a'r Siarter a'r Pecyn Cymorth ategol (Atodiad 1, 2 a 3).

 

 

31.

Cytundeb Fframwaith ar gyfer Darparu Gwasanaethau Arolygu/Archwilio, Profi/Dadansoddi Asbestos a Chael Gwared Arno. pdf eicon PDF 333 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth Fframweithiau Cymru Gyfan ar gyfer: Gwasanaethau Arolygu/Archwilio Asbestos; Gwasanaethau Profi/Dadansoddi a Gwaredu Asbestos.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)      penodi'r Contractwyr a restrir yn Atodiad 1 ar gyfer pob rhan yn y Fframweithiau ar gyfer: cymeradwyo Gwasanaethau Arolygu/Archwilio Asbestos; Gwasanaethau Profi/Dadansoddi a Gwaredu Asbestos.

2)      Rhoddir awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau Adeiladau i gymeradwyo telerau unrhyw gontractau yn ôl y gofyn yn y dyfodol o dan y Cytundeb Fframwaith mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Cyfreithiol.

3)      Awdurdodir y Prif Swyddog Cyfreithiol i ymrwymo i'r Cytundebau Fframwaith a’r contractau perthnasol a’u gweithredu yn ôl yr angen i ddiogelu buddiannau'r cyngor.

 

 

32.

Prosiect Cyflymiad ac Adfywio Economaidd drwy Arloesedd (EARTh) pdf eicon PDF 281 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo a gweithredu'r Prosiect EARTh.  Bydd y prosiect yn rhoi'r strwythur gweinyddol a'r trefniadau i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe i feithrin y gallu i ganiatáu i nifer o swyddogaethau strategol gael eu cyflawni ar lefel ranbarthol ym meysydd allweddol trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir, datblygu economaidd ac ynni.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)    Cymeradwyo cyllid grant CGE a gweithredu'r prosiect ynghyd â'r goblygiadau ariannol.

2)    Rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Lleoedd ar y cyd â'r Prif Swyddog Cyfreithiol i drafod ac ymrwymo i unrhyw gytundebau cydweithredu neu ariannu sy'n angenrheidiol i reoleiddio'r berthynas rhwng partneriaid yr Awdurdod Lleol wrth gyflawni'r prosiect.

3)    Cymeradwyo'r broses o recriwtio staff i sefydlu'r tîm cyflenwi lleol.

 

33.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

34.

Adfywio Abertawe - Penodi Partner Datblygu.

Cofnodion:

 

 

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad "er gwybodaeth" ynghylch penodi Partner Datblygu a Ffefrir yn dilyn proses caffael deialog gystadleuol Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

 

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 gyngor a gwybodaeth am y cynigiwr a ffefrir.

 

35.

Bwriad i Feddiannu Brondeg House gynt, St. Johns Road, Trefansel, Abertawe

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ynghylch a ddylai hen Dŷ Brondeg, St. John's Road, Manselton, Abertawe gael ei adfeddu o dan adran 122(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 at ddibenion Tai. 

 

Mae'r tir y cynigir ei adfeddu ar hyn o bryd yn dir Addysg y cyngor ac ystyrir nad oes ei angen mwyach at y dibenion hyn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhelliad fel y'i nodwyd yn yr adroddiad.