Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

Datganodd y Cynghorwyr E J King ac R V Smith gysylltiad personol â Chofnod 10 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol".

 

Datganodd y Cynghorwyr M C Child, A H Stevens ac M Thomas gysylltiad personol â Chofnod 13 "Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy a Chronfa Datblygu Cynaliadwy - AoHNE Gŵyr - Cynnig Cyllid Ychwanegol gan Lywodraeth Cymru".

 

Datganodd y Cynghorwyr M C Child, R Francis-Davies ac R V Smith gysylltiad personol â Chofnod 14 ac 16 "Partneriaethau Hamdden - Cymorth Ariannol 2021/2022" a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried.

 

Datganodd y Cynghorwyr D H Hopkins ac E J King gysylltiad personol â Chofnod 19 "Awdurdodi rhaglen Gyfalaf ar gyfer Grant Cyfalaf Dechrau'n Deg 2021/22".

 

 

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 337 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir, yn amodol ar ddiwygio'r dyddiad yng Nghofnod 127 o 2020 i 2021.

 

1)           Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Mai 2021.

 

3.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

6.

Cefnogi Adferiad Addysg. pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

Cyflwynodd y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer eu hargymhellion mewn perthynas â Chefnogi Adferiad Addysg.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Caiff pob ysgol ei chefnogi a'i monitro i gynnal a gwella'r dulliau dysgu cyfunol a ddatblygwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

2)             Datblygu ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a lles emosiynol.

 

3)             Bydd y broses o ledaenu arfer da'n systematig mewn dysgu cyfunol a chefnogi iechyd a lles emosiynol yn cael ei chyflymu.

 

 

 

 

 

 

7.

Canlyniad Ariannol Refeniw 2020/2021. pdf eicon PDF 370 KB

Cofnodion:

.

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnwys manylion yr alldro refeniw ar gyfer 2020-21.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad.

 

2)             Cymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn arfaethedig a nodir yn Adran 7.3 ac Adran 7.4 yr adroddiad.

 

8.

Alldro Refeniw 2020/21 - Cyfrif Refeniw Tai (CRT). pdf eicon PDF 334 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn manylu ar alldro Cyfrif Refeniw Tai (CRT) Dinas a Sir Abertawe o'i gymharu â'r gyllideb refeniw gymeradwy ar gyfer 2020-2021.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad.

 

2)             Cymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn arfaethedig gwerth £903,000 a nodir yn Adran 2.1 yr adroddiad.

 

 

9.

Alldro a Chyllido Cyfalaf 2020/21. pdf eicon PDF 312 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn manylu ar yr alldro cyfalaf a'r arian ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Nodi'r gyllideb gyfalaf fwyaf erioed o £251m.

 

2)             Cario tanwariant net y gyllideb gyfalaf gynyddol gwerth £46.954m ymlaen i 2021-22.

 

10.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)             Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

Ysgol Gynradd y Gors

Patricia Ann Morgan

Ysgol Gynradd St Thomas

Y Cyng. Clive Lloyd

Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan

Y Cyng. Sam Pritchard

Ysgol Gymunedol Dylan Thomas

Adrian Rees

Ysgol Gyfun Gŵyr

Ian Morris

 

11.

Awdurdodi'r rhaglen gyfalaf ar gyfer ailfodelu ardal llawr caled a gosod maes 2G ar dir yn Ysgol Gyfun Pontarddulais. pdf eicon PDF 554 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i neilltuo £254,000 i'r rhaglen gyfalaf a oedd yn cynnwys cyllid fel a ganlyn:

 

£200,000 gan Gyngor Abertawe.

£30,000 gan Gronfa Chwarae Cyngor Abertawe.

£15,000 gan Gronfa Gyfalaf Aelodau Cyngor Abertawe.

£9,000 gan Gyllideb Gymunedol Aelodau Ward.

 

Y cynllun yw ailfodelu ardal o lawr caled a gosod cyfleuster arwyneb 2G sy'n addas ym mhob tywydd ar y tir presennol yn Ysgol Gyfun Pontarddulais.

 

Penderfynwyd:

 

Neilltuo £254,000 i'r rhaglen gyfalaf ar gyfer ailfodelu ardal chwarae arwyneb caled (hen gyrtiau tenis) a gosod cyfleuster arwyneb sy'n addas ym mhob tywydd 2G yn dilyn cadarnhad o gyllid gwerth cyfanswm o £254,000 gan Gyngor Abertawe fel y nodir uchod.

12.

Cynyddu nifer y lleoedd a gynlluniwyd ar gyfer Ysgol Pen-y-bryn. pdf eicon PDF 259 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymgynghoriad ac yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig i gynyddu'r lleoedd cynlluniedig yn Ysgol Arbennig Pen-y-bryn o fis Ionawr 2022.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cyhoeddi hysbysiad statudol i gynyddu'r lleoedd arfaethedig yn Ysgol Pen-y-bryn o fis Ionawr 2022.

 

2)             Mae'r Cabinet yn ystyried unrhyw wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnod yr hysbysiad statudol ac yn penderfynu ar ganlyniadau'r cynnig yn eu cyfarfod ym mis Medi 2021.

 

13.

Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy a Cronfa Datblygiad Cynaliadwy - AoHNE Gwyr - Cynnig Cyllid Ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. pdf eicon PDF 354 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i dderbyn dau gynnig ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau penodol sy'n dod i gyfanswm o £325,000 yn unol â Rheol 5.7 y Weithdrefn Ariannol. Cynigir y cyllid ar 100% o gostau'r prosiect ac nid oes angen arian cyfatebol.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Derbyn y ddau gynnig ariannu (cyfanswm o £325,000) gan Lywodraeth Cymru, er mwyn galluogi datblygu a chyflawni'r prosiectau yn 2021/22.

 

14.

Cymorth ariannol i bartneriaethau hamdden 2021/2022. pdf eicon PDF 371 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y lefelau cymorth ariannol yr oedd eu hangen ar gyfer y cyfnod Ebrill 2021 i Fawrth 2022 ar gyfer y Bartneriaethau Hamdden (Freedom Leisure, Parkwood Leisure a Phwll Cenedlaethol Cymru Abertawe Cyf) oherwydd colledion a gafwyd a chynllun adfer ariannol cysylltiedig yn ymwneud â phandemig COVID-19.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo estyniad i ryddhad ariannol Freedom Leisure tan 31 Mawrth 2022 i gynnwys y cyngor yn gwarantu diffyg gweithredol o hyd at £2m, yn ogystal â thalu'r ffi reoli fisol gontractiol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/2022, yr holl daliadau rhyddhad i'w cysoni dan ymagwedd agored.

 

2)             Cymeradwyo estyniad i ryddhad ariannol Parkwood Leisure tan 31 Mawrth 2022 i gynnwys y cyngor yn gwarantu diffyg gweithredol o hyd at £44,000, yn ogystal â thalu'r ffi reoli fisol gontractiol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/2022, yr holl daliadau rhyddhad i'w cysoni dan ymagwedd agored.

 

3)             Cymeradwyo estyniad i ryddhad ariannol Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe (PCCA) i gynnwys y cyngor yn gwarantu diffyg ychwanegol o hyd at £300,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/2022.

 

4)             Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Lleoedd gytuno ar unrhyw newidiadau i fanyleb gwasanaeth, yr amodau a thelerau sydd ynghlwm wrth unrhyw gynnig o warantu neu fesurau cymorth eraill gan gynnwys awdurdod i amrywio lefel a chyfnod y rhyddhad ariannol ar yr amod bod cyfanswm yr holl amrywiadau o'r fath o fewn cwmpas y cymeradwyaethau cyllideb gyfunol ar gyfer rhyddhad ariannol yn argymhellion 1-3.

 

5)             Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol i lunio unrhyw ddogfennaeth sy’n angenrheidiol i roi unrhyw un o'r argymhellion yn yr adroddiad hwn ar waith ac i ddiogelu buddiant y cyngor.

 

15.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

 

16.

Cymorth ariannol i bartneriaethau hamdden 2021/2022.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y lefelau cymorth ariannol yr oedd eu hangen ar gyfer y cyfnod Ebrill 2021 i Fawrth 2022 ar gyfer y Bartneriaeth Hamdden (JR Events & Catering) oherwydd colledion a gafwyd a chynllun adfer ariannol cysylltiedig yn ymwneud â phandemig COVID-19. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.

 

 

17.

Gwaredu tir ym Mro Tawe, Llansamlet, Abertawe.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i waredu tir ym Mro Tawe i hwyluso datblygiad ystafell arddangos ceir newydd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor ar gyfer gwaredu.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.

 

18.

Gosod Theatr y Palace, Prince of Wales Rd, Abertawe.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i roi prydles newydd ar gyfer Theatr y Palace gan fod y rhent blynyddol arfaethedig yn uwch na chyfyngiadau'r awdurdod dirprwyedig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad

19.

Cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Grant Cyfalaf Dechrau'n Deg 2021/22.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn amlinellu'r cynnig cyfalaf a geir yn y Cais Cyllido Cyfalaf a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Rhaglen Dechrau'n Deg 2021/22 ac i ymrwymo'r cynllun i'r rhaglen gyfalaf yn unol â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.