Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

125.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddion canlynol:

 

1)            Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 130 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

 

2)            Datganodd y Cynghorwyr L S Gibbard a J A Raynor fudd personol a rhagfarnol yng Nghofnod 143 "Gwerthu Arfaethedig Tir Addysg Dros Ben yn Ysgol Olchfa”" a gadawon y cyfarfod cyn ei ystyried.

126.

Cofnodion. pdf eicon PDF 324 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2021.

127.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)            Etholiad Senedd Cymru ac Is-etholiadau Cyngor Abertawe – 6 Mai 2021

 

Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor aelodau lleol y Senedd ar gael eu hethol yn ddiweddar. Llongyfarchodd y Cynghorydd Hannah Lawson (ward etholiadol y Castell) a'r Cynghorydd Matthew Jones (ward etholiadol Llansamlet) hefyd ar gael eu hethol i Gyngor Abertawe.

 

2)            Y Cynghorwyr C E Lloyd a J A Raynor

 

Talodd Arweinydd y Cyngor deyrnged i'r Cynghorwyr Clive E Lloyd a Jennifer A Raynor am eu gwaith rhagorol fel Aelodau'r Cabinet. Dywedodd y byddai'r ddau ohonynt yn rhoi'r gorau i fod yn Aelodau Cabinet yn hwyrach y diwrnod hwnnw.

 

Diolchodd i'r Cynghorydd Raynor am ei gwaith rhagorol fel Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau a'i llongyfarch ar ei chyflawniadau niferus yn ystod ei chyfnod yn y swydd.

 

Diolchodd i'r Cynghorydd Lloyd am ei waith rhagorol fel Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Gofal i Oedolion ac Iechyd Cymunedol, a'i waith blaenorol fel Aelod y Cabinet ar gyfer portffolios eraill y Cabinet ac fel cyn Ddirprwy Arweinydd y cyngor. Llongyfarchodd ef ar ei gyflawniadau niferus yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

128.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

129.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley nifer o gwestiynau mewn perthynas â Chofnod Rhif 137, "Cynllun Gweithredu Adferiad Economaidd Abertawe".

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor.

130.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

Ysgol Gynradd Ystumllwynarth

Dr Martin Clift

 

131.

Cynllun Cyflawni Grant Plant a Chymunedau Llywodraeth Cymru 21/22. pdf eicon PDF 278 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau ac Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant adroddiad ar y cyd a oedd yn manylu ar y cynllun cyflawni a gwario ar gyfer y Grant Plant a Chymunedau 2021/22 ac yn amlinellu sut caiff gwasanaethau eu comisiynu i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn gynaliadwy, yn creu arbedion effeithlonrwydd ac yn gwella canlyniadau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Dylid nodi y derbyniwyd Grant Plant a Chymunedau Llywodraeth Cymru ar gyfer 21/22.

 

2)              Dylid cymeradwyo parhad ac ehangu prosiectau fel yr amlinellir yn y Cynllun Cyflawni y cytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru.

132.

Cynllun Cyflawni Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru 21/22. pdf eicon PDF 263 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Gofal i Oedolion ac Iechyd Cymunedol ac Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad ar y cyd a oedd yn manylu ar y cynllun cyflawni a gwario ar gyfer Grant Cymorth Tai 2021/22 ac yn amlinellu sut caiff gwasanaethau eu comisiynu i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn gynaliadwy, yn creu arbedion effeithlonrwydd ac yn gwella canlyniadau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Dylid nodi derbyn Grant Cymorth Tai 21/22 Llywodraeth Cymru.

 

2)              Dylid cymeradwyo parhad ac ehangiad prosiectau fel yr amlinellir yn y Cynllun Cyflawni y cytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru.

133.

Ardal Gyhoeddus Dros Dro Bae Copr Dewi Sant. pdf eicon PDF 361 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn gofyn am gytuno ar dymoroldeb ac amodau cysylltiedig y mannau cyhoeddus dros dro, gan gynnwys y parc bach, a fydd yn cael ei osod yn ardal Dewi Sant fel rhan o raglen Bae Copr.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cytuno ar osod yr ateb dros dro ar gyfer y man cyhoeddus yn ardal Dewi Sant i baratoi ar gyfer camau datblygu yn y dyfodol, yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad hwn.

 

2)              Cytuno ar osod parc bach dros dro ar safle hen unedau Dewi Sant 1-7, a'r amodau cysylltiedig:

 

a)              I’w leoli ar y safle adfywio tir llwyd dros dro uchod am gyfnod o ddwy flynedd ar y mwyaf, gyda'r opsiwn o ymestyn yn amodol ar adroddiad pellach i'r Cabinet os na chyflawnir yr amserlen ddatblygu.

 

b)              Gallu cau a symud y parc bach o'r safle cyn diwedd y tymor i baratoi ar gyfer gwaith datblygu a rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Lleoedd mewn ymgynghoriad ag Aelod Cabinet yr Economi, Cyllid a Strategaeth i benderfynu ar yr amseriad.

 

c)              Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, y Prif Swyddog Cyllid a'r Prif Swyddog Cyfreithiol i gytuno ar osod unedau o fewn y parc bach ar delerau hyblyg ac ymwneud ag unrhyw ddogfennaeth sy'n angenrheidiol i ddiogelu buddiannau'r cyngor.

134.

Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol -Grant Adnewyddu Priffyrdd 2021-22 pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhad ar gyfer y Rhaglen Waith Cyfalaf ar gyfer Grant Adnewyddu Priffyrdd Llywodraeth Cymru 2021 ac i gydymffurfio â Rheol Gweithdrefn Ariannol 7 i ymrwymo ac awdurdodi cynlluniau.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Caiff y dyraniadau dangosol arfaethedig eu cymeradwyo a'u cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.

 

2)              Dirprwyir awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Priffyrdd a Chludiant gyda chydsyniad Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i flaenoriaethu, cwblhau a chlustnodi'r arian i'r cynlluniau priodol yn unol â'r ymagwedd flaenoriaethu a nodwyd yn yr adroddiad.

135.

Diweddariad ar y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc. pdf eicon PDF 433 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant adroddiad a oedd yn amlinellu cynnydd Cynlluniau Hawliau Plant a Phobl Ifanc Abertawe ac yn ceisio cytundeb i gychwyn ymgynghoriad ar gynllun o dudalen o'r cynllun a gaiff ei gymeradwyo'n ffurfiol gan y cyngor.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Nodir cynnwys Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2019 yn Atodiad 3 yr adroddiad.

 

2)              Nodir cynnwys yr Adroddiad Pontio ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021 yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

3)              Cytunir ar ymgynghoriad ffurfiol ar gynllun tudalen o'r Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

4)              Cyd-gynhyrchir strwythur ffurfiol ar gyfer ymgysylltu mewn modd cynhwysol ac effeithiol â’r holl blant a phobl ifanc yn Abertawe.

136.

Adroddiad Cynnydd ar Gydbwyllgor Corfforaethol De Orllewin Cymru. pdf eicon PDF 267 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg ar y gofyniad i sefydlu Cydbwyllgorau Corfforaethol ac yn gofyn am awdurdod dirprwyedig er mwyn i swyddogion gynnal trafodaethau â'r awdurdodau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad i ddatblygu cynigion addas ar gyfer trefniadau Cydbwyllgorau Corfforaethol yn Ne-orllewin Cymru.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Nodir y gwaith sy'n cael ei wneud a'r camau nesaf y mae eu hangen mewn perthynas â'r trefniadau llywodraethu ar gyfer Cydbwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru.

 

2)              Dirprwyir awdurdod i'r Prif Weithredwr (mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor) i gytuno i gyflwyno cais am arian grant i Lywodraeth Cymru er mwyn sefydlu Cydbwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru ac i dderbyn unrhyw gynnig grant y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud (boed hynny i'r cyngor hwn neu i gyngor sy'n rhan o Gydbwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru).

 

3)              Dirprwyir awdurdod i'r Prif Weithredwr gynnal deialog â'r awdurdodau hynny a fydd yn rhan o Gydbwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru i ddatblygu cynigion ar gyfer sefydlu Cydbwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru.

 

4)              Dylid dod ag adroddiad pellach yn ôl i'w ddiweddaru mewn perthynas â chynnydd.

137.

Cynllun Gweithredu Adferiad Economaidd Abertawe. pdf eicon PDF 261 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd y Cyngor) adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer goblygiadau ariannol Cynllun Gweithredu Adferiad Economaidd Abertawe a'r camau y mae'r cyngor yn eu cymryd i gefnogi adferiad yr economi leol yn dilyn pandemig COVID-19.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyir clustnodi swm o hyd at £20m i ariannu mentrau o fewn Cynllun Gweithredu Adferiad Economaidd Abertawe ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22 a 2022/23.

 

2)              Dirprwyir awdurdod i Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, y Prif Swyddog Cyllid a'r Cyfarwyddwr Lleoedd weithredu Cynllun Adfer Economaidd Abertawe i gynnwys unrhyw fesurau neu fentrau pellach y gellir eu hychwanegu at y cynllun yn amodol ar y gyllideb gymeradwy fel y nodir yn yr adran goblygiadau ariannol. Mae'r Cabinet hefyd yn awdurdodi dirprwyo awdurdod wedi hynny i aelod y cabinet a phennaeth y gwasanaeth sy'n berthnasol i elfen benodol y Cynllun Gweithredu Adfer Economaidd sydd i'w gyflawni ac yn amodol ar y gyllideb gymeradwy.

138.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

139.

Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - Datblygu 71/72 Ffordd y Brenin a 69/70 Ffordd y Brenin - Achos Busnes (FPR7). (Llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd C A Holley yr adborth craffu cyn penderfynu.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Nodi cynnwys yr adborth ar graffu cyn penderfynu.

140.

Datblygu 71/72 Ffordd y Brenin a 69/70 Ffordd y Brenin - Achos Busnes (FPR7).*

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn darparu’r diweddaraf ar ddatblygu 71 a 72 a 69 a 70 Ffordd y Brenin. Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn am awdurdodiad cyllidebol i ychwanegu'r prosiect at y Rhaglen Gyfalaf yn unol â Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (FPR7) ac awdurdodiadau dirprwyedig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.

141.

Awdurdodi Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Prosiect Hwb Cymunedol Cefn Hengoed.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau ac Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y cynllun costau diweddaredig er mwyn parhau i'r cam tendro, a chyflwyno cynnig i'r Football Foundation i osod arwyneb chwarae 3G dan do fel rhan o'r datblygiad, yn amodol ar gymeradwyo ceisiadau cynllunio a chwblhau'r broses dendro.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.

142.

Cynllun Cyfnewidfa Priffordd Pont Baldwin, Fabian Way - Caffael tir ac adeilad.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer telerau y cytunwyd arnynt ar gyfer caffael eiddo mewn cysylltiad â'r cynllun. Caiff y tir ei brynu yn ôl cyfarwyddyd y cleient Priffyrdd fel rhan o'r rhaglen cydosodiad tir ar gyfer cynllun Ffordd Fabian.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.

143.

Gwerthu Arfaethedig Tir Addysg Dros Ben yn Ysgol Olchfa.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn ceisio caniatâd i gael gwared ar dir dros ben yn Ysgol yr Olchfa, am y pris gorau, am swm sy'n fwy na chyfyngiadau'r awdurdod dirprwyedig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.