Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

111.

Cydymdeimlad - Ei Uchelder Brenhinol, Y Tywysog Philip, Dug Caeredin.

Cofnodion:

Dechreuodd Arweinydd y Cyngor y Cyfarfodydd gyda munud o dawelwch er cof am Ei Uchelder Brenhinol, y Tywysog Philip, Dug Caeredin.

112.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, datganwyd y cysylltiad(au) canlynol:

 

1)            Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 117 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

 

2)            Datganodd y Cynghorwyr R C Stewart a A H Stevens fudd personol a rhagfarnol yng Nghofnod 123 "Consesiynau Rhentu Pellach i Gefnogi Tenantiaid Masnachol Cyngor Abertawe yn ystod cyfyngiadau symud Covid-19" a gadawon y cyfarfod cyn ei ystyried.

113.

Cofnodion. pdf eicon PDF 345 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)           Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2021.

114.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

115.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

116.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald nifer o gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 119 “FPR 7 - Cronfa Trafnidiaeth Leol, y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn a Grantiau’r Gronfa Teithio Llesol ar gyfer 2021/22”.

117.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gynradd Townhill

Y Cynghorydd Cyril Anderson

2)

Ysgol Gynradd y Trallwn

Sara Cook

John Williams

3)

YG Bryn Tawe

Richard Taylor

 

118.

Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Hamdden 2019/2020. pdf eicon PDF 377 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad gwybodaeth a oedd yn darparu gwybodaeth am weithdrefnau partneriaeth cyfleusterau allweddol ym mhortffolio'r Gwasanaethau Diwylliannol.

119.

RGA 7 – Cronfa Trafnidiaeth Leol, y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn a Grantiau'r Gronfa Teithio Llesol ar gyfer 2021/22. pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd ac Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyo'r cais am gyllid ar gyfer y Gronfa Trafnidiaeth Leol (CTL), y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEVTF) a Grantiau’r Gronfa Teithio Llesol (CTL). Roedd hefyd yn ceisio cymeradwyaeth ddirprwyedig ar ôl derbyn llythyr dyfarnu grant i Gyfarwyddwr ac Aelod y Cabinet ar gyfer gwariant ar y prosiectau cysylltiedig yn 2021/22.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i neilltuo ac awdurdodi cynlluniau i'r Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Caiff y ceisiadau am arian grant eu cymeradwyo a rhoddir awdurdod dirprwyedig i Aelodau'r Cabinet a'r Cyfarwyddwr Lleoedd i dderbyn yr arian grant ar ôl derbyn llythyr dyfarnu grant, a bod y cynlluniau LTF, ULEVTF a'r CTL, ynghyd â'u goblygiadau ariannol, yn cael eu cynnwys yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021/2022.

120.

Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Grant Cyfalaf Cronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol, 2020/21. pdf eicon PDF 471 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a nododd y gostyngiad yn y dyfarniad cyllid grant diwygiedig ar gyfer arian Cronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol 2020/21, a cheisiodd gymeradwyaeth ar gyfer gwariant ar y prosiectau cysylltiedig yn 2020/21.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Cymeradwyo cynllun y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Lleol, ynghyd â'r goblygiadau ariannol.

121.

Cynllun Ty Dylan Thomas. pdf eicon PDF 177 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf) er mwyn neilltuo ac awdurdodi ychwanegu cynlluniau newydd at y Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Cymeradwyo'r gwaith o gyflawni Cynllun Tŷ Dylan Thomas mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

 

2)            Cymeradwyo'r cynllun hwn, ei oblygiadau cyfreithiol ac ariannol ac ychwanegu'r cynllun at y rhaglen gyfalaf.

 

3)            Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyllid i ryddhau'r arian cyfalaf a amlinellir yn y tabl ym mharagraff 5.1 o'r adroddiad ac ar adegau perthnasol, fel rhan o'r rhaglen gyfalaf.

 

4)            Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, y Prif Swyddog Cyfreithiol a'r Swyddog Monitro i ymrwymo i unrhyw gytundebau cyfreithiol sy'n angenrheidiol i ddatblygu'r cynllun, gan gynnwys cytundeb gyda PCYDDS i dalu am unrhyw risgiau cysylltiedig o ran cydymffurfio â chyllid masnachol a chyllid grant.

 

5)            Cymeradwyo'r cais am grant i Raglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol Llywodraeth Cymru i sicrhau £900,000 o gyllid ar ran PCYDDS i gefnogi'r cynllun arfaethedig ac unrhyw geisiadau grant pellach a allai fod ar gael.

122.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

 

Y Cynghorydd A S Lewis (Cyd Ddirprwy Arweinydd y Cyngor) yn Llywyddu

123.

Consesiynau Rhentu Pellach i Gefnogi Tenantiaid Masnachol Cyngor Abertawe yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn ceisio rhoi cymorth ariannol pellach i denantiaid masnachol y cyngor oherwydd cyfnod estynedig o gyfyngiadau symud. Daw'r gefnogaeth ar ffurf consesiynau rhentu ychwanegol ac maent yn angenrheidiol i sicrhau bod tenantiaid yn goroesi, yn ogystal â lleihau'r effaith ar yr economi leol a'r perygl o golli swyddi.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.

 

 

Y Cynghorydd R C Stewart (Arweinydd y Cyngor) yn Llywyddu

124.

Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Grant Cyfalaf Cronfa Trafnidiaeth Leol, 2020/21.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelodau Cabinet Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhau canlyniad y llythyr dyfarnu cyllid diwygiedig ar gyfer arian y Gronfa Trafnidiaeth Leol (CTL), ac a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer gwariant ar y prosiectau cysylltiedig yn 2020/21.

 

Roedd hefyd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf" i neilltuo ac awdurdodi ychwanegu cynlluniau newydd at y Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.