Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad(au)
canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd C E
Lloyd gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 97
"Adolygiad blynyddol o daliadau (gwasanaethau cymdeithasol) 2020/21” a
dywedodd ei bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor
Safonau i aros, siarad â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â Gwasanaethau
Cymdeithasol. 2)
Datganodd y Cynghorydd J A
Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 98
"Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi
cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad,
ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi Llywodraethwyr
Awdurdod Lleol. 3)
Datganodd y Cynghorydd A S
Lewis gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 98
"Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a thynnodd yn ôl o'r
cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried. 4)
Datganodd y Cynghorydd E J King gysylltiad personol â chofnod 100 “Trosglwyddo Asedau Cymunedol – Fferm Gymunedol
Abertawe”. |
||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2021. |
||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn
hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau
ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10
munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||||||||||||||
Eitem Frys Cofnodion: Nododd Arweinydd y Cyngor, yn unol â pharagraff 100B (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ei fod yn meddwl y dylid trafod "Ardrethi Busnes (£500,000 ac o dan) - Cynllun Cymorth Ardrethi Dros Dro (Cymru) 2021/2022” yn y cyfarfod fel mater brys. |
||||||||||||||||||||||||||||
Ardrethi Busnes (£500,000 ac o dan) - Cynllun Cymorth Ardrethi Dros Dro (Cymru) 2021/2022 Cofnodion: Rhesymau dros y mater brys: Cyflwynodd
Lywodraeth Cymru'r Cynllun Cymorth Ardrethi Dros Dro hwn yn ddiweddar ac mae
angen ei fabwysiadu cyn dechrau Blwyddyn Ariannol 2021/22 er mwyn rhoi amser i'r
swyddogion wneud y trefniadau bilio angenrheidiol fel y gellir cyflwyno biliau
net yn brydlon cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid (Swyddog Adran 151) adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth ac yn ceisio ystyriaeth i fabwysiadu'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch dros dro sy'n ymwneud ag Ardrethi Busnes, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22. Penderfynwyd ar y canlynol: 1) Nodi manylion y cynllun fel y'u nodir yn yr adroddiad. 2)
Mabwysiadu'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi a'r broses
ymgeisio fel y'u hamlinellwyd yn yr adroddiad, ar gyfer 2021/22. |
||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad blynyddol o daliadau (gwasanaethau cymdeithasol) 2020/21. PDF 282 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol
i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol adroddiad a oedd yn adolygu Polisi
Codi Tâl y Gwasanaethau Cymdeithasol. Penderfynwyd ar
y canlynol: 1)
Caiff canfyddiadau'r adolygiad blynyddol o newidiadau eu
derbyn, ac ni fydd unrhyw daliadau gwasanaeth newydd yn cael eu codi yn
2021/22. 2)
Bydd cynnydd chwyddiannol o 1.75% yn cael ei gymhwyso i'r
holl daliadau gwasanaethau cymdeithasol a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2021/22. 3)
Mae'r taliadau am wasanaethau larwm cymunedol yn aros yr
un fath, ac maent i'w hystyried fel rhan o adolygiad comisiynu corfforaethol. 4)
Bydd y rhestr o daliadau'r gwasanaethau cymdeithasol yn
berthnasol o 1 Ebrill 2021, ar gyfer y flwyddyn 2021/22. 5) Cytunir ar y rhestr newydd o daliadau ar gyfer 2021/22 fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad, a chânt eu hatodi wrth Bolisi Codi Tâl (Gwasanaethau Cymdeithasol) y cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 218 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff
llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r
enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y
Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
||||||||||||||||||||||||||||
Cynyddu nifer y lleoedd a gynlluniwyd ar gyfer Ysgol Pen-y-bryn PDF 253 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg,
Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ymgynghori ar gynnig
i gynyddu'r lleoedd arfaethedig yn Ysgol Pen-y-bryn o fis Ionawr 2022. Penderfynwyd ar
y canlynol: 1)
Rhoddir cymeradwyaeth i ymgynghori ar gynyddu'r lleoedd
arfaethedig yn Ysgol Pen-y-bryn o fis Ionawr 2022. 2)
Ystyried yr ymatebion yn dilyn y cyfnod ymgynghori. |
||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddo Asedau Cymunedol - Fferm Gymunedol Abertawe. PDF 247 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau
adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i roi prydles 35 mlynedd newydd i Fferm
Gymunedol Abertawe ar rent rhad sy'n llai na'r gwerth gorau. Penderfynwyd ar
y canlynol: 1) Caiff prydles 35 mlynedd newydd ei rhoi ar rent rhad i Fferm Gymunedol Abertawe a bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn cyd-drafod telerau manwl y brydles arfaethedig/ cytundeb priodol ac yn penderfynu arnynt, ac y cyfarwyddo'r Prif Swyddog Cyfreithiol i gwblhau'r dogfennau cyfreithiol. |
||||||||||||||||||||||||||||
Rhaglen Grant Cyfleusterau I'r Anabl A Grant Gwella 2021/22. PDF 340 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni a Thrawsnewid
Gwasanaethau adroddiad a oedd yn darparu manylion y Rhaglen Grant Cyfleusterau
i'r Anabl a'r Grant Gwella ac yn ceisio cymeradwyaeth i gynnwys cynlluniau yn
Rhaglen Gyfalaf 2021/22. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cydymffurfio â
Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i
neilltuo ac awdurdodi cynlluniau y unol â'r Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd ar
y canlynol: 1) Caiff y Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'r Grant Gwella, fel y'i nodwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys ei goblygiadau ariannol, ei chymeradwyo a'i chynnwys yng Nghyllideb Gyfalaf 2021/22. |
||||||||||||||||||||||||||||
Dyraniad Cyfalaf i Asedau Isadeiledd Priffyrdd 2021-22. PDF 263 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd
adroddiad a oedd yn cadarnhau'r Rhaglen Waith Gyfalaf ar gyfer asedau'r
isadeiledd priffyrdd. Penderfynwyd ar
y canlynol: 1)
Caiff y dyraniadau dangosol arfaethedig, ynghyd â'r
Goblygiadau Ariannol a nodir yn Atodiad A yr adroddiad, eu cymeradwyo a'u
cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf. 2) Caiff awdurdod ei ddirprwyo i Bennaeth y Gwasanaeth Priffyrdd a Chludiant gyda chydsyniad Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i flaenoriaethu, cwblhau a chlustnodi arian i'r cynlluniau priodol yn unol â'r ymagwedd flaenoriaethu a nodwyd yn yr adroddiad hwn. |
||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf 2021/22. PDF 262 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd
yn ceisio cytundeb ar y cynlluniau i'w hariannu drwy'r Rhaglen Cynnal a Chadw
Cyfalaf. Penderfynwyd ar
y canlynol: 1)
Caiff cynlluniau cynnal a chadw cyfalaf arfaethedig a
restrir yn Atodiad A i'r adroddiad eu cymeradwyo. 2)
Caiff y cynlluniau a'u goblygiadau ariannol fel a nodwyd yn
Atodiad C yr adroddiad eu hawdurdodi a'u cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf. |
||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad Lleoedd mewn ymateb i Mae Bywydau Du o Bwys PDF 584 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth
adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau'r adolygiad a
gomisiynwyd yn flaenorol o ganlyniad i'r cynnig Mae Bywydau Du o Bwys i'r
cyngor a gofynnodd am gymeradwyaeth i'r argymhellion dilynol. Penderfynwyd ar
y canlynol: 1)
Caiff canfyddiadau'r adolygiad eu nodi ac awdurdodir
Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol, mewn ymgynghoriad â'r Aelodau Cabinet
perthnasol ac mewn cydweithrediad â hwy, i: a)
Gomisiynu dehongliad lle nodir bod gan enw'r lle
gysylltiadau ag ecsbloetiaeth neu'r fasnach
gaethwasiaeth, drwy QR neu offer gwybodaeth eraill. b)
Cyfarwyddo'r ymchwil pellach sy'n ofynnol gan y Gweithgor
wrth archwilio gwybodaeth a chyfeiriadau, gan gynnwys deunydd newydd wrth iddo
gael ei gyflwyno, yn ogystal â chynigion newydd i'w cynnwys a geir drwy
gydweithio ac ymgynghori â'r gymuned a'u cynrychiolwyr. c)
Cymeradwyo'r cam cadarnhaol o wahodd ymatebion sy'n adlewyrchu'n
holl gymunedau ac unigolion o bob cefndir a gallu, gan gynnwys hanes pobl
dduon, lgbtq+, amrywiaeth diwylliannol ac ethnig,
mewn comisiynau yn y dyfodol ar gyfer strategaeth gelfyddydau , digwyddiadau a rhaglenni creadigol, placiau glas a gweithgareddau
diwylliannol eraill y ddinas. d)
Llunio ac adnewyddu'n barhaus y rhestr o enwau a
gynhwysir yn Atodiad B i'r adroddiad, ar y cyd â chynrychiolwyr cymunedol, i'w
chyhoeddi a'i diweddaru, fel offeryn cyfeirio ar gyfer cyfleoedd cyfredol ac yn
y dyfodol o ran enwi cyrchfannau / strydoedd. 2) Dirprwyo penderfyniadau yn y dyfodol sy'n ymwneud ag enwi cyrchfannau / strydoedd i Benaethiaid Gwasanaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, Gwasanaethau Diwylliannol a Phriffyrdd a Thrafnidiaeth mewn ymgynghoriad ag Aelodau perthnasol y Cabinet. |
||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Gweithredu Adferiad Economaidd Abertawe. PDF 412 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth
adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo Cynllun Gweithredu Adferiad Economaidd
Abertawe, sy'n ddogfen weithredol sy'n nodi'r camau y mae angen i'r cyngor eu
cymryd i gefnogi adferiad yr economi leol o bandemig
COVID-19. Penderfynwyd ar
y canlynol: 1) Cymeradwyo Cynllun Gweithredu Adferiad Economaidd Abertawe. |
||||||||||||||||||||||||||||
Gwella Ysgolion - Trefniadau Rhanbarthol yn y Dyfodol. PDF 327 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn gofyn
am ganiatâd i ohirio tynnu'n ôl o'r Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol
(ERW) rhwng 31 Mawrth 2021 a 31 Mawrth 2021. Penderfynwyd ar
y canlynol: 1)
Mae'r Cabinet yn nodi, ers cyflwyno hysbysiad i dynnu'n
ôl o ERW, nad yw'r gwaith sy'n ymwneud ag ôl troed a model newydd ar gyfer
gwella ysgolion yn rhanbarthol wedi'i ddatblygu i alluogi trosglwyddo llyfn i
fodel newydd erbyn 31 Mawrth 2021. 2)
Mae'r Cabinet yn nodi ei bod yn debygol y bydd angen newidiadau
cyfreithiol i drefniadau llywodraethu ar unrhyw fodel newydd ar gyfer gwella
ysgolion na fydd ar waith erbyn 31 Mawrth 2021. 3)
Felly, mae'r Cabinet yn cytuno i dynnu'n ôl yr hysbysiad
i dynnu'n ôl a gyflwynwyd ar 20 Mawrth 2020 ac aros yn ERW tan 31 Awst 2021. 4) Rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Addysg a'r Prif Swyddog Cyfreithiol ymrwymo i unrhyw Weithred Amrywio sy'n angenrheidiol i sicrhau unrhyw newid i drefniadau tynnu'n ôl neu unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol eraill a gymeradwywyd gan y Cydbwyllgor. |
||||||||||||||||||||||||||||
Ardrethi Busnes (Dros £500,000) - cynllun cymorth ardrethi dros dro (Cymru) 2020/21 PDF 244 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid (Swyddog Adran 151) adroddiad a oedd yn
darparu gwybodaeth ac yn gofyn am ystyriaeth ar gyfer mabwysiadu Cynllun
Rhyddhad Ardrethi Ychwanegol i fusnesau Hamdden a Lletygarwch (EHLRRS) dros dro
newydd yn ymwneud â'r Ardrethi Annomestig sy'n ddyledus mewn perthynas ag eiddo
lletygarwch, hamdden a thwristiaeth mawr iawn, y mae Llywodraeth Cymru wedi'i
gyflwyno ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21. Mae hyn yn ategu'r Cynllun
Rhyddhad Ardrethi i fusnesau Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch a gyhoeddwyd yn
flaenorol, a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 18 Mehefin 2020. Datganodd Arweinydd
y Cyngor fod y cyngor wedi derbyn
hysbysiad ar 16 Mawrth 2021 fod Llywodraeth Cymru wedi estyn y cynllun rhyddhad ardrethi hwn ar gyfer
y flwyddyn 2021/22. Roedd adroddiad diwygiedig wedi’i ddosbarthu a oedd yn nodi’r
gwahaniaethau bach yn y canllawiau ar gyfer rhyddhad
2021/22 ac yn cynnwys argymhellliad diwygiedig i’r Cabinet fabwysiadu’r cynllun hwn ar gyfer
2020/21 a 2021/22. Penderfynwyd ar
y canlynol: 1)
Caiff manylion y cynllun, fel
y'u hamlinellir yn yr adroddiad, eu nodi. 2)
Caiff y Cynllun Rhyddhad
Ardrethi a'r broses ymgeisio fel y'u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu
mabwysiadu ar gyfer 2020/21. |
||||||||||||||||||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Rheoli Diweddaredig Maes Awyr Abertawe Cofnodion: Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet
dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau
cyfredol ym Maes Awyr Abertawe oherwydd y materion hirsefydlog
a amlygwyd gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a
Diogelwch (HSE). Cyflwynwyd adroddiad i'r Cabinet yn flaenorol ar 19 Mawrth
2020. Roedd yr adroddiad cyfredol hwn yn ceisio darparu sefyllfa ddiweddaredig, i ddarlunio'r cynnydd sylweddol a wnaed hyd
yn hyn, gan gynnwys canlyniad adroddiad archwilio annibynnol a gomisiynwyd yn
ddiweddar gan yr awdurdod. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel
y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||||
FPR7 - Y diweddaraf am Raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru 2018-21. Cofnodion: Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet
dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn gofyn am gydymffurfio â
Rheol Gweithdrefn Ariannol 7, "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf" i
neilltuo ac awdurdodi ychwanegu cynlluniau newydd i'r Rhaglen
Gyfalaf. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel
y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |