Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd J A
Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 62
"Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi
cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad,
ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr
awdurdod lleol. |
|||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a
restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2020. 2)
Cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 7 Ionawr 2021. |
|||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Brechiadau COVID-19 Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod brechiadau COVID-19 yn cael eu rhoi yn
Abertawe o 3 Canolfan Brechu, 49 o feddygfeydd teulu ac uned deithiol. Hyd yma,
mae dros 20,000 o bobl wedi derbyn y brechiad. |
|||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn
hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau
ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10
munud. Cofnodion: Derbyniwyd cwestiynau gan Jason Williams, Sara Keeton a Pamela Erasmus mewn perthynas â Chofnod 66 “Prydles Arfaethedig i Gyngor
Cymuned y Mwmbwls o dan y Polisi Trosglwyddo
Asedau Cymunedol”. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y
Cabinet. |
|||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y
diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau
ar yr agenda. Cofnodion: 1)
Gofynnodd y Cynghorydd M C Child gwestiynau ynghylch
Cofnod 63 "Strategaeth Cydgynhyrchu Gofal
Cymdeithasol". 2)
Gofynnodd y Cynghorwyr M C Child ac L J Tyler-Lloyd
gwestiynau ynghylch Cofnod 66 "Prydles Arfaethedig i Gyngor Cymunedol y Mwmbwls
dan y Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol". Ymatebodd aelod(au) perthnasol y Cabinet. |
|||||||||||||
Cynigion Cyllidebol 2021/22 - 2025/26. PDF 709 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn
ystyried cynigion cyllidebol ar gyfer 2021-2022 i 2025-2026 fel rhan o strategaeth
cyllideb bresennol y cyngor. Penderfynwyd : 1)
Cymeradwyo'r cynigion cyllidebol a grynhowyd yn yr
adroddiad ac y nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad fel sail ymgynghoriad. 2)
Mabwysiadu'r rhagolwg cyllidebol diweddaredig
ar gyfer y dyfodol fel y rhagosodiad cynllunio cychwynnol ar gyfer y cynllun
ariannol tymor canolig, a gaiff ei ystyried gan y cyngor ar 4 Mawrth 2021. 3)
Cytuno ar yr ymagwedd at ymgynghori ac ymgysylltu â
staff, undebau llafur, preswylwyr, partneriaid a phartïon eraill â diddordeb
fel y'u hamlinellir yn Adran 7 yr adroddiad. 4)
Cyflwyno
adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad a'r cynigion cyllidebol terfynol yn ei
gyfarfod ar 18 Chwefror 2021. |
|||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 214 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r
enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y
Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
|||||||||||||
Cydgynhyrchu Strategaeth Gofal Cymdeithasol. PDF 244 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet
dros Wasanaethau Gofal i Oedolion ac Iechyd Cymunedol, y Gwasanaethau Plant a
Chefnogi Cymunedau adroddiad ar y cyd a oedd yn amlinellu datblygiad Strategaeth
Cyd-gynhyrchu ar gyfer Gofal Cymdeithasol. Penderfynwyd : 1)
Cymeradwyo a mabwysiadu’r Strategaeth
Cyd-gynhyrchu ar gyfer Gofal Cymdeithasol ar gyfer Cyfarwyddiaeth y
Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|||||||||||||
Bwriad i gymryd meddaint o Bryn House, 78 Walter Road, Abertawe SA1 4PS. PDF 243 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros
Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn gofyn am benderfyniad ynghylch a
ddylid adfeddu Bryn House, 78 Walter Road, Abertawe
dan adran 122 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 at ddibenion tai. Mae'r tir y
cynigir ei adfeddu ar hyn o bryd yn dir gwasanaethau addysg y cyngor ac ystyrir
nad oes ei angen mwyach at y dibenion hyn. Penderfynwyd: 1)
Nodi bod yr eiddo sy’n cael ei ddangos ar y
cynllun yn Atodiad B yr adroddiad yn eiddo nad oes ei angen mwyach at ddibenion
addysg. 2)
Adfeddu'r eiddo a nodir uchod dan adran 122 o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 at ddibenion tai, sef darparu wyth uned breswyl ar
gyfer tai cyngor ar y telerau a nodir ym Mharagraff 3 o'r adroddiad. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros
Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am y
Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES) ac yn ceisio cytundeb i ymuno â
Chynllun BES 2. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Bydd yr Awdurdod yn cytuno â Chytundeb BES 2, fel
y nodir yn Atodiad 2 i'r adroddiad, fel yr awdurdod arweiniol rhanbarthol i
sicrhau cymorth ariannol (amodol) ar gyfer y sector bysus ac i sefydlu
perthynas â'u hawdurdodau lleol cyfansoddol sy'n sicrhau bod y cyllid brys
parhaus yn bodloni blaenoriaethau'rawdurdodau ac yn cael ei ddarparu ar eu rhan. 2)
Os bydd y cytundeb templed yn Atodiad 2 i'r
adroddiad yn cael ei amrywio gan Lywodraeth Cymru, dirprwyir yr awdurdod i'r
Cyfarwyddwr Lleoedd ynghyd ag Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli
Isadeiledd, ar y cyd â'r Prif Swyddog Cyfreithiol, i gytuno ar unrhyw
ddiwygiadau sy'n angenrheidiol i'r cytundeb drafft; ac i awdurdodi'r Prif
Swyddog Cyfreithiol i ymrwymo i'r cytundeb ar ran y cyngor fel awdurdod
arweiniol rhanbarthol. 3)
Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol
ymwneud ag unrhyw ddogfennaeth ategol sy'n angenrheidiol i gyflwyno'r cynllun,
gan gynnwys unrhyw gytundebau rhwng awdurdodau â chynghorau eraill yn y
rhanbarth neu gydag unrhyw weithredwyr sy'n cymryd rhan. 4)
Cyflwyno adroddiad pellach i'r Cabinet ar
gynigion diwygio bysiau sy'n ymwneud â rheoli gwasanaethau bysiau yng Nghymru
yn y dyfodol. |
|||||||||||||
Prydles arfaethedig i Gyngor Cymuned y Mwmbwls dan y Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol. PDF 382 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn
- Testun Craffu cyn Penderfynu:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid
pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Darparodd y Cynghorydd P M Black yr adborth Craffu Cyn-benderfyniad. Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet
dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a Chyflawni a Gweithrediadau adroddiad
ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gyd-drafod Penawdau Telerau a chytuno
arnynt ac ymrwymo i brydles gyda Chyngor Cymuned y Mwmbwls ar gyfer tir yn
Llwynderw at ddiben adeiladu a rheoli parc sglefrio newydd ar y safle. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r ymatebion i ganlyniadau'r broses
ymgynghori o dan y ddeddfwriaeth mannau agored cyhoeddus a gynhaliwyd mewn
perthynas â'r tir a nodir yn atodiad A (cynllun safle) yr adroddiad. Darparu
copi llawn o'r ymatebion a gafwyd, a phob un o'r rhai sy'n gwrthwynebu, yn
cefnogi neu'n darparu sylw niwtral fel Atodiad G, a darparu crynodeb
cyffredinol wedi'i ddarparu yng nghorff yr adroddiad hwn. 2)
Cymeradwyo'r bwriad i werthu’r tir i Gyngor
Cymuned y Mwmbwls ar lefel danbrisio sy'n dderbyniol i'r Cabinet ac yn
seiliedig ar gyngor y Cyfarwyddwr Lleoedd. Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr
Lleoedd gyd-drafod a phenderfynu ar delerau'r brydles arfaethedig y tir a nodir
yn Atodiad A (cynllun safle) yr adroddiad a dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog
Cyfreithiol er mwyn cwblhau'r ddogfennaeth gyfreithiol. 3) Gwneud gwelliannau i'r safle yn unol â'r cyfeirnod caniatâd cynllunio cysylltiedig 2019/2345/FUL a roddwyd ar 13 Chwefror 2020 ar gyfer gosod Parc Sglefrio newydd ym Mharc Sglefrio West Cross, Mumbles Road, Blackpill, Abertawe. |
|||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|||||||||||||
Cynllun Caffael Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru 2021 - 2024 Cofnodion: Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet
dros Wasanaethau Gofal i Oedolion ac Iechyd Cymunedol a Chartrefi, Ynni a
Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad ar y cyd a oedd yn manylu ar y cynllun
caffael ar gyfer y Grant Cymorth Tai ac a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i
gyhoeddi estyniadau contract yn unol â'r amserlenni arfaethedig ar gyfer
darparwyr a gomisiynir ar hyn o bryd i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir
yn gynaliadwy, yn creu arbedion effeithlonrwydd ac yn gwella canlyniadau i bobl
sy'n defnyddio gwasanaethau. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel
y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |
|||||||||||||
Cynllun Kickstart. Cofnodion: Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet
dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, Cefnogi Cymunedau a Buddsoddi, Adfywio a
Thwristiaeth adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio awdurdod i wasanaethu fel
darparwr porth i'r Cynllun Kickstart a chreu
lleoliadau Kickstart a ariennir gan grantiau yng
Nghyngor Abertawe ac i neilltuo ac awdurdodi ychwanegu cynllun newydd a
ariennir gan y grant refeniw. Penderfynwyd cymeradwyo'r
argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |