Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad canlynol: 1)
Mynegodd y Cynghorwyr D H Hopkins, C E Lloyd a J A Raynor
gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 230
"Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol” a
gadawon y cyfarfod cyn iddo ddechrau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2020. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor â'r Dirprwy Brif Weithredwr a'i wraig ar
enedigaeth diweddar eu mab, Dewi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn
hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau
ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10
munud. Cofnodion: Cyflwynwyd tri chwestiwn mewn perthynas â Chofnod231 "Rheol 7 y
Weithdrefn Ariannol - Grantiau Cyfalaf Cronfa Teithio Llesol 2020/21". Ymatebodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i bob
cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y
diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau
ar yr agenda. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 226 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr
yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr
enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg
ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Grantiau Cyfalaf Cronfa Teithio Llesol 2020/21. PDF 639 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn
cadarnhau canlyniad y cais am arian gan y Grant Teithio Llesol (GTLl), ac a oedd yn ceisio caniatâd i'w wario ar y
prosiectau cysylltiedig yn ystod 2020/21.
Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn
Ariannol, "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i neilltuo ac awdurdodi
cynlluniau i'r Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r
cynlluniau GTLl ynghyd â'u goblygiadau ariannol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 236 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gosod Paneli Ffotofoltäig Solar ar Asedau'r Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau
adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhau cymeradwyaeth ar gyfer Model Busnes Ffotofoltäig Solar EGNI, a fydd yn darparu arbedion
ariannol i ysgolion unigol. Bydd y cynllun hefyd yn helpu i ddarparu arbedion
i'r cyngor ar ffurf lleihau carbon, a fydd yn sail i amcanion ynni
corfforaethol yn unol â'r ymrwymiad Argyfwng Hinsawdd diweddar. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |