Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 42 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb
gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion
yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. 2)
Datganodd y Cynghorywyr R
Francis-Davies a R C Stewart gysylltiad personol a rhagfarnol
â chofnod 44 "Parhau â Rhanbarth Gwella Busnes (BIB) Canol Dinas Abertawe"
a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth. |
|||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2020. |
|||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Pandemig
COVID-19 Nododd
Arweinydd y cyngor fod y gyfradd heintio
yng Nghymru ac Abertawe’n eithriadol o uchel. Roedd cyfraddau
derbyn wedi cynyddu mewn ysbytai.
Anogodd bawb i osgoi cymysgu
ag eraill lle bo’n bosib
ac aros yn ddiogel. |
|||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn
hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau
ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10
munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y
diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau
ar yr agenda. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||
Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 1 2020/21. PDF 356 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu'r
Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2020-2021. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i
gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n
berthnasol, gamau gweithredu cywirol i reoli a gwella perfformiad ac
effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. |
|||||||||||||
Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2il 2020/21. PDF 500 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar fonitro
cyllidebau refeniw a chyfalaf 2020/2021 yn ariannol, gan gynnwys cyflwyno
arbedion cyllidebol. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau a nodwyd yn yr adroddiad
a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r rhain. 2)
Cymeradwyo'r trosglwyddiadau a nodir ym mharagraff 2.7 yr
adroddiad. 3)
Bydd y Cabinet yn parhau i bennu lefel o orwariant a
ganiateir, mewn amgylchiadau eithafol, yn ystod y flwyddyn o hyd at £10m, i'w
ariannu'n llawn o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, fel y'u cymeradwywyd yng
nghyfarfod y cyngor ar 4 Tachwedd 2020, i sicrhau bod y gyllideb gyffredinol yn
parhau i fod yn gytbwys am y flwyddyn. 4)
Ni all unrhyw swyddog ystyried unrhyw ymrwymiadau gwario
pellach a dylai, lle bo'n bosib, ohirio ac oedi gwariant i gynnwys a lleihau'r
gorwariant tebygol a ragwelwyd erbyn diwedd y flwyddyn i'r graddau y mae
hynny'n ymarferol, wrth ddarparu blaenoriaethau cytunedig y cyngor a amlinellir
yn y gyllideb a gymeradwywyd. |
|||||||||||||
Y diweddaraf am gyflwyno'r ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer YGG Tan-y-lan ac YGG Tirdeunaw PDF 240 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ystyried yr
amserlen ddiwygiedig ar gyfer cynyddu nifer y disgyblion yn YGG Tan-y-lan a YGG
Tirdeunaw a gofynnodd am gymeradwyaeth i ddiwygio'r dyddiad rhoi ar waith, fel sy'n
ofynnol gan y Côd Trefniadaeth Ysgolion. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi'r amserlen ddiwygiedig ar gyfer adeiladau newydd YGG
Tan-y-lan ac YGG Tirdeunaw. 2)
Cymeradwyo dyddiad gweithredu diwygiedig i gynyddu nifer
y disgyblion yn YGG Tan-y-lan ac YGG Tirdeunaw, rhwng 1 Ionawr 2021 a 22
Chwefror 2022. Y Cynghorydd D H Hopkins oedd yn llywyddu |
|||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 214 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff
llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r
enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y
Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
|||||||||||||
Amrywiad ar Gytundeb Cyfreithiol i Wella Ysgolion drwy Weithio Rhanbarthol (ERW). PDF 306 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ystyried
Amrywio'r Cytundeb Cyfreithiol i alluogi darparu gwasanaethau dros dro i Gyngor
Castell-nedd Port Talbot (CNPT) i ddatgan bod gweddill yr awdurdodau’n tynnu'n
ôl ac er mwyn diddymu ERW. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cytuno ar y newidiadau arfaethedig i Gytundeb Cyfreithiol
ERW i hwyluso darpariaeth gwasanaethau y cytunwyd arnynt i ysgolion
Castell-nedd Port Talbot yn ystod 2020/21 (fel y nodir yn y Weithred Amrywio
drafft - Atodiad 1 yr adroddiad). 2)
Cytuno ar y newidiadau arfaethedig i Gytundeb Cyfreithiol
ERW er mwyn: (i)
Hwyluso diddymu/terfynu Consortiwm ERW. (ii)
Mynd i'r afael â rhwymedigaethau/indemniadau dilynol yr
holl awdurdodau presennol (a blaenorol). (iii)
Hwyluso lleihau’r cyfnod hysbysiad o dynnu'n ôl i 3 mis
(fel y nodir yn y Weithred Amrywio drafft - Atodiad 1 yr adroddiad). 3)
Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol a'r Cyfarwyddwr
Addysg Dros Dro i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r Cytundeb
Cyfreithiol (mewn ymgynghoriad â phartneriaid eraill ERW) a dechrau ymwneud ag
unrhyw ddogfennaeth sy'n angenrheidiol i roi unrhyw un o'r argymhellion yn yr
adroddiad hwn ar waith ac i ddiogelu buddiannau'r cyngor. |
|||||||||||||
Parhau â Rhanbarth Gwella Busnes (BID) Canol Dinas Abertawe. PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhad
ynghylch a oedd y cyngor am barhau i gefnogi Cynllun Rhanbarth Gwella Busnes
(BID) Canol Dinas Abertawe ac i nodi'r goblygiadau i'r cyngor. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cefnogi’r
broses pleidleisio dros adnewyddu’r Rhanbarth Gwella Busnes (BID) a gwaith y
BID os caiff pedwerydd tymor ei sicrhau a’i gefnogi. 2)
Mae'r
Cyfarwyddwr Lleoedd yn goruchwylio ffurflenni pleidleisio’r BID ar ran yr
awdurdod. 3)
Rhoi'r
awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol ymrwymo i Gytundebau Lefel Gwasanaeth
rhwng y BID a'r cyngor. 4) Rhoi'r awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd aildrafod prosiectau'r BID er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf posibl i'r cyngor ac effaith gadarnhaol ar ganol y ddinas. |
|||||||||||||
Dyraniad Cyfalaf Ychwanegol i Asedau Isadeiledd Priffyrdd 2020-21 PDF 150 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn
ceisio cadarnhau'r Rhaglen Ychwanegol ar gyfer Gwaith Cyfalaf ar gyfer asedau
isadeiledd priffyrdd ac i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol i
glustnodi ac awdurdodi cynlluniau. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r
dyraniadau dangosol arfaethedig a'u cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf. 2) Dirprwyo awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Priffyrdd a Chludiant ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i flaenoriaethu, cwblhau a dyrannu'r arian i'r cynlluniau priodol yn unol â'r ymagwedd flaenoriaethu a nodwyd yn yr adroddiad. |
|||||||||||||
Gwaith Gwella Man Cyhoeddus Wind Street: FPR7 PDF 845 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn darparu
diweddariad ac yn gofyn am awdurdodiad cyllidebol i fynd ati i neilltuo ac
awdurdodi prosiect i'r Rhaglen Gyfalaf gan gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn
Ariannol Penderfynwyd ar y canlynol: 1) Cymeradwyo uchafswm ffigur cyllidebol o hyd at £2,880,000 ar gyfer adeiladu, ffioedd a chynlluniau wrth gefn ac y dylid cynnwys y ffigur yn y Rhaglen Gyfalaf. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn gofyn
am gymeradwyaeth i wneud cais am arian grant cyfalaf a refeniw o ddwy o
Gronfeydd yr Economi Gylchol Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21
ar gyfer pedwar prosiect atgyweirio/ailddefnyddio. Penderfynwyd ar y canlynol: 1) Cymeradwyo cyflwyno ceisiadau am arian i Gronfa’r Economi Gylchol Llywodraeth Cymru ar gyfer Blwyddyn ariannol 2020-21 i gefnogi: i) Sefydlu Caffi Atgyweirio a Llyfrgell Pethau yn Siop Ailddefnyddio'r Cyngor. ii) Sefydlu Caffi Atgyweirio Symudol. iii) Sefydlu rhwydwaith atgyweirio beiciau mewn partneriaeth â Chanolfan yr Amgylchedd. iv) Gwelliannau i atgyweirio ac ailddefnyddio drwy bartneriaeth â'r sector preifat a'r 3ydd Sector. 2) Ar ôl cymeradwyo unrhyw un o'r grantiau, ychwanegu'r cynlluniau at raglen y cyngor yn unol â FPR7 a rhoi'r awdurdod dirprwyedig i Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd a'r Cyfarwyddwr Lleoedd i neilltuo’r gwariant cyfalaf perthnasol. Y Cynghorydd R C Stewart (Cadeirydd) oedd yn llywyddu |
|||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|||||||||||||
Bwriad i brynu eiddo yng nghanol y ddinas i fuddsoddi ynddo Cofnodion: Cyflwynodd Aelodau'r
Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau a Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth
adroddiad ar y cyd a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer telerau diweddaredig caffael eiddo mewn perthynas â'r adroddiad gwreiddiol a gymeradwywyd yng
nghyfarfod y Cabinet ar 20 Mehefin 2019. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |
|||||||||||||
Bwriad i gaffael eiddo prydles yn nghanol y ddinas a'i ailddatblygu - RhGA 7. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad ar y cyd gan Aelodau'r Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau a
Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y
Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf) er mwyn neilltuo ac awdurdodi
ychwanegu cynlluniau newydd at y Rhaglen Gyfalaf. Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at yr wybodaeth ychwanegol a ddosbarthwyd. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |