Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd R Francis-Davies gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 22 “Cefnogaeth Ariannol Pwll Cenedlaethol Cymru” Financial Support” a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth.

 

2)              Datganodd y Cynghorydd A S Lewis gysylltiad personol â chofnod 23 “Datganiad Argyfwng HinsawddAdolygiad Polisi a’r Cynllun Gweithredu Arfathedig”.

 

3)              Datganodd y Cynghorydd A S Lewis gysylltiad personol â chofnod 24 “Strategaeth Ynni 2020-2030”.

 

4)              Datganodd y Cynghorydd E J King gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 28 “Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleola gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth.

 

5)              Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 28 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

17.

Cofnodion. pdf eicon PDF 343 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2020.

18.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

19.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

20.

Hawl i holi cynghorwyr.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd M H Jones nifer o gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 21 “Adroddiad Ailgynllunio Rhaglen Oracle”.

 

Ymatebodd yr Aelod (au) Cabinet perthnasol.

21.

Adroddiad ailgynllunio Rhaglen Oracle. pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Trawsnewid Ynni a Gwasanaethau adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf ar statws cyfredol rhoi Oracle Cloud ar waith oherwydd effaith COVID-19, gan wneud argymhellion i oedi’r rhaglen, gan gynnwys ailgynllunio a chostau.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo oedi’r rhaglen, dychwelyd yn raddol ati a’i hailgynllunio ynghyd â'r cynnydd ariannol angenrheidiol er mwyn rhoi'r system gorfforaethol hon ar waith yn llwyddiannus.

22.

Cefnogaeth Ariannol Pwll Cenedlaethol Cymru. pdf eicon PDF 367 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am gostau cau Pwll Cenedlaethol Cymru, costau gweithredu ychwanegol a llai o incwm oherwydd COVID-19 a hysbysodd am lefelau'r cymorth ariannol sydd ei angen ar Wales National Pool Ltd i fis Gorffennaf 2020 ac o fis Awst 2020 i 31 Mawrth 2021.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Rhoi cymeradwyaeth i'r costau gwarantu ychwanegol o £350,000 i gefnogi Pwll Cenedlaethol Cymru rhwng 1 Awst 2020 a 31 Mawrth 2021.

 

2)              Nodi bod y cymorth ariannol ychwanegol yn debygol o fod yn ofynnol y tu hwnt i 31 Mawrth 2021 a hyd at o leiaf 31 Gorffennaf 2021, gydag adroddiad manwl i ddilyn yn y dyfodol.

 

3)              Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol i lunio unrhyw ddogfennaeth sy’n angenrheidiol i roi unrhyw un o'r argymhellion yn yr adroddiad ar waith ac i ddiogelu buddiant y cyngor.

23.

Datganiad Argyfwng Hinsawdd - Adolygiad Polisi a'r Cynllun Gweithredu Arfaethedig. pdf eicon PDF 836 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Trawsnewid Ynni a Gwasanaethau adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am y cynnydd ers yr Hysbysiad o Gynnig i’r Cyngor ynghylch yr argyfwng yn yr hinsawdd ar 27 Mehefin 2019.

 

Gofynnodd am gael newid yr adroddiad ychydig trwy ychwanegu’r paragraff canlynol:

 

“3.1.4 Mae’r adroddiad hefyd yn ymgorffori gofynion a dyheadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, er ein bod ni’n deall bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad i wella’r targedau net sero ymhellach erbyn 2050. Bydd unrhyw strategaeth a chynllun gweithredu ar gyfer y dyfodol yn cynnwys unrhyw ofynion newydd sy’n codi o’r newidiadau deddfwriaethol.”

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Nodi'r cynnydd hyd yma.

 

2)              Llofnodi'r Siarter Newid yn yr Hinsawdd.

 

3)              Cymeradwyo'r cynllun gweithredu a nodir ym mharagraffau 3 i 6 yr adroddiad i alluogi'r awdurdod i fod yn awdurdod allyriadau di-garbon net erbyn 2030 ar gyfer ei allyriadau "o fewn ei gwmpas" ei hun.

 

4)              Gwneud gwaith pellach i ddatblygu'r Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd yn y tymor hwy ac ymdrechu tuag at ddod yn awdurdod allyriadau di-garbon net erbyn 2050 ar gyfer Abertawe.

 

5)              Cyflwynir adroddiad pellach yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

24.

Strategaeth Ynni 2020-2030. pdf eicon PDF 527 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Trawsnewid Ynni a Gwasanaethau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Strategaeth Ynni ddiwygiedig y cyngor a'r Cynllun Rheoli Carbon cysylltiedig.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Caiff y Strategaeth Ynni a'r Cynllun Rheoli Carbon cysylltiedig eu cymeradwyo a'u rhoi ar waith.

25.

Cytundeb Compact y Trydydd Sector - Diweddariad pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau adroddiad gwybodaeth a oedd yn rhoi'r diweddaraf am Gytundeb Compact Trydydd Sector Abertawe a'r gwaith hyd yn hyn gan Grŵp Cyswllt y Trydydd Sector a ffurfiwyd fel rhan o Gytundeb Compact diwygiedig Abertawe gyda'r Sector Gwirfoddol yn 2018.

26.

FPR7 - Rhaglen Cyfalaf y Gronfa Gofal Canolraddol. pdf eicon PDF 269 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal i Oedolion ac Iechyd Cymunedol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Arian Cyfalaf y GGI 2020-2021 ac i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i neilltuo ac awdurdodi cynllun i'r Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo manylion diweddaraf Arian Cyfalaf y GGI a glustnodwyd ar gyfer 2020-2021 a'r cynlluniau a'u goblygiadau ariannol fel y nodir ym mharagraff 2.2 yr adroddiad a'u hychwanegu at y Rhaglen Gyfalaf neu fe'u diwygir fel y’u nodir yn yr adroddiad.

27.

Caniatâd y Rhaglen Gyfalaf i ailfodelu'r ardal llawr caled a gosod cae 3G ar dir yn Ysgol Gymunedol Dylan Thomas. pdf eicon PDF 179 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i neilltuo £204,500 i'r rhaglen gyfalaf ar gyfer ailfodelu ardal llawr caled a gosod cae 3G ar y tir presennol yn Ysgol Gymunedol Dylan Thomas. Mae'r cyllid yn cynnwys:

 

£50,000 gan Garfield Weston.

£61,000 gan Johan Cruyff Foundation.

£25,000 gan y cyngor.

£68,500 o Gyllideb Ddirprwyedig yr Ysgol.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol  neilltuo ac awdurdodi prosiect newydd i'r Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Clustnodi £204,500 i'r rhaglen gyfalaf ar gyfer ailfodelu ardal chwarae cwrt caled a gosod cae 3G yn dilyn cadarnhad o gyllid gwerth £111,000 gan Garfield Weston a Johan Cruyff Foundation.

28.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 218 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gynradd Brynmill

Hywel Vaughan

2)

Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw

Kelly Byrne

3)

Ysgol Gynradd Hendrefoelan

Aime Rushton

4)

Ysgol Gynradd San Helen

Hannah Lawson

5)

Ysgol Pen y Bryn

Lesley Williams

6)

Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed

Joanne Hershell

7)

Ysgol Tre-gŵyr

Bethina Rees-Lawrence

8)

Ysgol Gyfun Pentrehafod

Margaret Hughes

9)

Ysgol Gyfun Bryn Tawe

Eleni Cordingley

 

29.

Adolygiad o Brisiau Parcio Ceir Canol y Ddinas i gefnogi canol y ddinas yn ystod pandemig COVID-19. pdf eicon PDF 419 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ystyried effaith ariannol rhoi prisiau parcio gostyngol ar waith ym meysydd parcio canol y ddinas y cyngor.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo rhoi prisiau parcio diwygiedig ar waith ar gyfer y cyfnod rhwng 9 Tachwedd a 9 Rhagfyr 2020 fel y nodir yn yr adroddiad.

 

2)              Cymeradwyo ymestyn y cyfnod prisiau parcio diwygiedig o 9 Rhagfyr 2020 i 31 Ionawr 2021.

 

3)              Dirprwyo awdurdod i Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, y Prif Swyddog Cyllid a Phennaeth Priffyrdd a Chludiant adolygu a rhoi unrhyw newidiadau pellach i brisiau parcio a phrisiau pharcio a theithio rhwng 31 Ionawr a 31 Mawrth 2021 ar waith.

30.

Ailadeiladu Graig Road. pdf eicon PDF 149 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i glustnodi ac awdurdodi cynlluniau i'r Rhaglen Gyfalaf. Cadarnhaodd yr adroddiad hefyd gyllid ar gyfer atgyweirio Graig Road.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r cynllun arfaethedig i ailadeiladu Graig Road a'i gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.

31.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

32.

Bwriad i brynu Portffolio Buddsoddi mewn Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau a Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gael gafael ar eiddo fel rhan o'r Gronfa Buddsoddi mewn Eiddo.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.

33.

Consesiynau Rhent Arfaethedig i gefnogi Tenantiaid Masnachol y cyngor yn ystod cyfnod atal byr COVID-19.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau a Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad ar y cyd a oedd yn gofyn am roi cymorth ariannol i denantiaid masnachol y cyngor oherwydd y cyhoeddiad diweddar am 'gyfnod atal byr' COVID-19. Daw'r gefnogaeth ar ffurf consesiynau rhentu ychwanegol ac maent yn angenrheidiol i sicrhau bod tenantiaid yn goroesi, yn ogystal â lleihau'r effaith ar yr economi leol a'r perygl o golli swyddi.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.