Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 10 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth.

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 323 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Medi 2020.

3.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

5.

Hawl i holi cynghorwyr.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley y cwestiwn canlynol mewn perthynas â Chofnod 12, "Cefnogi Adferiad Economaidd yn Abertawe":

 

“A wnaiff y Cabinet ychwanegu cyfeiriad at y ffaith bod gwaith Cefnogi Adferiad Economaidd yn Abertawe yn destun craffu parhaus?”

 

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y byddai'n derbyn y diwygiad ac y byddai'r adroddiad yn cael ei ddiwygio'n briodol.

6.

Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2019/20. pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gyhoeddi Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2019-20. Mae'r adroddiad yn amlinellu'r cynnydd a wnaed i gyflawni Amcanion Lles y cyngor a ddisgrifir yn y Cynllun Corfforaethol, ac i fodloni gofynion eraill a nodir mewn canllawiau statudol ynghylch Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad i'w gyhoeddi.

7.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1af 2020/21. pdf eicon PDF 488 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar fonitro refeniw a chyllidebau cyfalaf 2020/21 yn ariannol, gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol.

 

Penderfynwyd :

 

1)              Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau a amlinellwyd yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r rhain.

 

2)              Cymeradwyo'r trosglwyddiadau arian a nodir ym mharagraff 2.7 yr adroddiad.

 

3)              Gosod lefel, mewn cyfyngder,  o orwariant caniataol o hyd at £10m ar gyfer y flwyddyn, wedi'i ariannu'n llawn drwy  dynnu o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, i sicrhau bod y gyllideb gyffredinol yn parhau i fod yn gytbwys am y flwyddyn.

 

4)              Ni chaiff unrhyw Swyddog ystyried unrhyw ymrwymiadau gwario pellach hanfodol a rhaid iddo ohirio ac oedi gwariant, lle bynnag y bo modd, i gynnwys a lleihau'r gorwariant tebygol a ragwelir erbyn diwedd y flwyddyn cyn belled ag y bo'n ymarferol, wrth gyflawni blaenoriaethau cytunedig y cyngor a nodir yn y gyllideb gymeradwy.

8.

Diweddariad Adolygiad Comisiynu Tai. pdf eicon PDF 652 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i weithredu newidiadau i fodel gwasanaeth y Swyddfa Dai Ranbarthol yn dilyn proses ymgynghori statudol â thenantiaid.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Caiff y newidiadau arfaethedig i fodel gwasanaeth y Swyddfa Dai Ranbarthol yn y dyfodol eu cymeradwyo a'u trefnu i'w rhoi ar waith erbyn mis Ebrill 2021.

9.

Cam 2 Cais Cyllido Covid-19 - Canllawiau Cynllunio ar gyfer y gwasanaethau digartrefedd a chymorth sy'n gysylltiedig â thai a cheisiadau Cam 4 y Rhaglen Tai Arloesol. pdf eicon PDF 454 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn gofyn am:

 

Ø    Gymeradwyaeth ôl-weithredol ar gyfer y cais am gyllid Cam 2 Cynllun Digartrefedd Llywodraeth Cymru.

Ø    Rhoi gwybod am ganlyniad y ceisiadau.

Ø    Neilltuo'r cynlluniau i'r rhaglen gyfalaf  yn unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol  y cyngor.

Ø    Caniatâd ôl-weithredol ar gyfer Ceisiadau’r Rhaglen Tai Arloesol (IHP4) i gefnogi cynlluniau cyfalaf Cam 2 a thri chais am y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP).

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo prosiectau’r cais am gyllid Cam 2 y Cynllun Digartrefedd a nodir yn adran 3 o'r adroddiad.

 

2)              Cymeradwyo Ceisiadau'r Rhaglen Tai Arloesol (IHP4) i gefnogi cynlluniau cyfalaf Cam 2 a'r tri chais am y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) a nodir yn adran 5 yr adroddiad.

 

3)              Rhoi awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, y Prif Swyddog Cyfreithiol a'r Prif Swyddog Cyllid i ymrwymo i unrhyw gytundebau sy'n angenrheidiol i sicrhau y cyflawnir y prosiectau ac y diogelir buddion y cyngor.

 

4)              Rhoi awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyllid adennill yr holl wariant sy'n gysylltiedig â chyflawni'r prosiectau oddi wrth Lywodraeth Cymru. 

 

5)              Caiff unrhyw benderfyniadau pellach sy'n berthnasol i'r broses uchod eu dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Lleoedd ac Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau, a chaiff cynlluniau eu nodi a'u cymeradwyo drwy adroddiad blynyddol Cyllideb Cyfalaf y Refeniw Tai 20/21.

10.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 217 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw

Wendy Bromham

2)

Ysgol Gynradd Dynfant

Y Cyng. Jeff Jones

3)

Ysgol Gynradd Pennard

Y Cyng. Lynda James

4)

Ysgol Gynradd Pen-y-fro

Y Cyng. Jennifer Raynor

5)

Ysgol Gynradd Portmead

Y Cyng. June Burtonshaw

6)

Ysgol Gynradd Waunwen

Hannah Lawson

7)

Ysgol Gyfun Gellifedw

Y Cyng. Ryland Doyle

8)

Ysgol Gyfun Penyrheol

Arron Bevan-John

9)

Ysgol Gyfun Pontarddulais

Alisa Wallis

 

11.

Cefnogi Adferiad Economaidd yn Abertawe. pdf eicon PDF 253 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad gwybodaeth a oedd yn rhoi trosolwg o weithgareddau i gefnogi adferiad economaidd Abertawe yn dilyn pandemig COVID-19.

12.

Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Grant Diogelwch Ffyrdd 2020/21. pdf eicon PDF 653 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhau dyraniad y grant Diogelwch Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru a chynnwys y gwariant yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2020/21.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cadarnhau dyraniad y grant Diogelwch Ffyrdd o £879,800 a chynnwys y gwariant yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2020/21.

13.

Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau 2020/21. pdf eicon PDF 595 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhau'r dyraniad grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau gan Lywodraeth Cymru a chynnwys y gwariant yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2020/21.

 

Penderfynwyd :

 

1)              Cadarnhau'r dyraniad grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau o £508,300 a chynnwys y gwariant yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2020/21.

14.

Rheoli'r Presennol a Llywio'r Dyfodol Cyngor Abertawe - O Adfer i Drawsnewid. pdf eicon PDF 706 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r broses gychwynnol o aildrefnu’r cyngor a'r blaenoriaethau di-oed yn dilyn argyfwng COVID-19, y cynllun tymor hwy o adferiad i drawsnewid a'r fframwaith i ddisodli Strategaeth Abertawe Gynaliadwy gydag Abertawe Cyflawni Pethau’n Well Gyda'n Gilydd.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cytuno ar y cynlluniau a'r blaenoriaethau cychwynnol i gefnogi adferiad sefydliadol, economaidd a chymdeithasol a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

2)              Nodi fframwaith  Abertawe – Cyflawni Pethau’n Well Gyda'n Gilydd fel a amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad sy'n cael ei ddatblygu i helpu i drawsnewid y cyngor yn y dyfodol.

15.

Achos Busnes Seilwaith Digidol, Bargen Dinas Bae Abertawe. pdf eicon PDF 254 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Achos Busnes Isadeiledd Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Penderfynwyd :

 

1)              Cymeradwyo achos busnes arfaethedig Isadeiledd Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a atodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, a'r buddsoddiad dilynol mewn Isadeiledd Digidol ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

2)              Rhoi awdurdod i'r Prif Swyddog Trawsnewid, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, gymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i'r achos busnes y gallai fod eu hangen i gael cymeradwyaeth ar lefel llywodraethu lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.