Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr E J King gysylltiad personol â
Chofnod 241 "Adolygiad Cydraddoldeb Blynyddol 2019/2020”. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf, 2020. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Pandemig COVID-19 Cyfeiriodd Arweinydd
y Cyngor at y cyfyngiadau symud diweddar o ganlyniad i bandemig
COVID-19 yng Nghaerffili a
Rhondda Cynon Taf a’r cynnydd yn nifer
yr achosion ym Merthyr Tudful a Chasnewydd. Anogodd bawb i
ddilyn y rheolau, gwisgo gorchuddion wyneb yn ôl
yr angen ac i gadw pellter cymdeithasol. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn
hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau
ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10
munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y
diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau
ar yr agenda. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Goblygiadau a pharatoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd yn ysgolion Abertawe PDF 448 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau adroddiad a oedd yn gofyn am ystyried
y goblygiadau a'r paratoadau a wnaed ar gyfer y cwricwlwm newydd yng Nghymru. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Bydd Abertawe yn nodi ac yn adolygu ei hanghenion
cefnogaeth ysgolion yn barhaus wrth i'r cwricwlwm newydd esblygu. Bydd yn
darparu gwybodaeth, cymorth a dylanwad drwy wahanol ddulliau, gan gynnwys
partneriaethau rhanbarthol, lle y bo'n briodol. 2)
Datblygir Cymuned Ddysgu Broffesiynol (CDdB) ymhellach ar draws Abertawe i rannu arfer, syniadau a
dysgu effeithiol. Bydd y CDdB yn parhau i fanteisio ar gyfleoedd i weithio gyda
phartneriaid allanol, fel y bo'n briodol, gan gynnwys y ddwy Brifysgol. 3) Mae ysgolion a swyddogion Abertawe yn
cynnal dulliau i rannu arfer da yn systematig ar-lein drwy gynnal llwyfannau
sy'n bodoli eisoes ac adeiladu arnynt. 4)
Datblygir dangosyddion ystyrlon ar gyfer cynnydd a chyflawniad
disgyblion yn lleol ac ar y cyd â Llywodraeth Cymru. 5)
Cynhelir systemau cymedroli cadarn, yn seiliedig ar fodel
y clwstwr, i sicrhau cysondeb arfer asesu ar draws Abertawe i gefnogi asesiadau
trylwyr a dibynadwy gan athrawon. 6)
Cefnogir gallu arweinyddiaeth ysgolion, ar bob lefel, i
ddiwygio'r cwricwlwm, gan gynnwys partneriaeth â'r Academi Genedlaethol, lle y
bo'n briodol. 7)
Sicrhau'r sgiliau gweithlu sydd eu hangen i gyflwyno'r
cwricwlwm newydd drwy gynnal systemau i nodi a diwallu anghenion datblygiad
proffesiynol parhaus pob ymarferydd ysgol. 8)
Sicrhau bod dysgu sgiliau ar gyfer galwedigaethau
presennol ac yn y dyfodol wedi'i wreiddio i'r cwricwlwm yn holl ysgolion
Abertawe mewn cydweithrediad â
Phartneriaeth Sgiliau Abertawe (PSA). 9)
Bydd arweiniad
Abertawe ar gyfer rhoi'r cwricwlwm ar waith yn symud i gamau
cynllunio 3 a 4 yn dilyn y cerrig milltir llwyddiannus a gyrhaeddwyd yng
nghamau 1 a 2 (Atodiad A i'r adroddiad). |
|
Monitro Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20. PDF 385 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn
amlinellu'r perfformiad corfforaethol ar gyfer 2019-2020. Penderfynwyd: 1)
Nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i
gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n
berthnasol, gamau gweithredu cywirol i reoli a gwella perfformiad ac
effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. |
|
Adolygiad Cydraddoldeb Blynyddol 2019/20. PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell adroddiad a oedd yn gofyn am gyhoeddi
Adolygiad Cydraddoldeb Blynyddol y cyngor ar gyfer 2019-2020 yn unol â
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a'r rheoliadau adrodd ar gyfer
Cymru. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad i'w gyhoeddi. |
|
Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy 2020-2021. PDF 198 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn gofyn am
gymeradwyaeth i dderbyn grant 100% gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau penodedig
gwerth cyfanswm o £135,000 yn unol â Rheol Gweithdrefn Ariannol 5.7. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r cais i dderbyn grant 100% o £135,000 gan
Lywodraeth Cymru i alluogi'r prosiectau i gael eu datblygu a'u cyflawni yn
ystod 2020-2021. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn
manylu ar Gylchlythyr Cronfa Buddsoddi Cyfalaf yr Economi Gylchol: Blwyddyn
Ariannol 2020-2021 Llywodraeth Cymru i gefnogi sefydlu Canolfan Ailddefnyddio
ac Ailgylchu Pren. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r cais i dderbyn unrhyw gynnig grant ar ôl
cyflwyno cais am gyllid i Gronfa Buddsoddi Cyfalaf yr Economi Gylchol,
Llywodraeth Cymru: Blwyddyn Ariannol 2020-21, i gefnogi sefydlu Canolfan
Ailddefnyddio ac Ailgylchu Pren. |
|
Cyllideb Gymunedol Cynghorwyr - Chwarae. PDF 256 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn
gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer yr £1m ychwanegol i Gyllidebau Cymunedol y
Cynghorwyr ac i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol ("Rhaglennu
ac Arfarniadau Cyfalaf) – i neilltuo ac awdurdodi cynlluniau i'r Rhaglen
Gyfalaf neu gynnwys cynlluniau newydd yn y Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Y dylid cymeradwyo ychwanegu £1m o arian cyfalaf at
Gyllideb Gymunedol y Cynghorwyr. |
|
FPR7 - Cyfle i Ddatblygu Fferm Ffotofoltäig Solar. PDF 279 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd
yn gofyn am gymeradwyaeth i'r buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i ddatblygu
fferm Solar PV 3MW sydd wedi’i gosod ar y ddaear a manteision ymagwedd o'r
fath. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r prosiect a'i oblygiadau ariannol, a'i
ychwanegu at y rhaglen gyfalaf. 2)
Cymeradwyo cwmpas y prosiect i alluogi swyddogion i
gychwyn trafodaethau manwl ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Lleoedd i gytuno ar
delerau terfynol y cytundebau trydydd parti, fel y'u hystyrir yn briodol, yn
unol â'r argymhellion hyn. 3)
Awdurdodi'r Prif Swyddog Cyfreithiol i baratoi unrhyw
ddogfennau cyfreithiol sydd eu hangen i gwblhau'r cytundeb a pharatoi'r
ddogfennaeth ar ran y cyngor. |
|
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 236 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
FPR7 - Cyfle i Ddatblygu Fferm Ffotofoltäig Solar. Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad
gwybodaeth a oedd yn manylu ar y buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i ddatblygu
fferm Solar PV 3MW sydd wedi'i gosod ar y ddaear a manteision ymagwedd o'r
fath. |