Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 206 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb
gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion
yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2020; 2)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2020; 3)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Mai 2020. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn
hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau
ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10
munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau a
oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac
Arfarniadau Cyfalaf" er mwyn neilltuo ac awdurdodi ychwanegu cynlluniau
newydd at y Rhaglen Gyfalaf. Caiff y
Gronfa Cartrefi Cynnes ei defnyddio i osod system gwres nwy addas, am y tro
cyntaf, mewn sawl eiddo ar draws Abertawe y nodwyd eu bod mewn Ardaloedd
Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI), i breswylwyr sydd mewn perygl o dlodi
tanwydd, neu sydd eisoes mewn tlodi tanwydd a chanddynt system gwres trydanol
neu danwydd solet. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r
cynnig am gyllid gan y Gronfa Cartrefi Cynnes er mwyn gosod systemau gwres
canolog mewn cartrefi cymwys am y tro cyntaf ar gyfer 2020 a 2021 ac
ychwanegu'r cynllun at y rhaglen gyfalaf; 2) Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Lleoedd, y Prif Swyddog Cyfreithiol, y Prif Swyddog Cyllid ac Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau gymeradwyo'r cyllid a’r ddogfennaeth gytundebol angenrheidiol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ardrethi Busnes - Cynllun Cymorth Ardrethi Dros Dro (Cymru) 2020/21. PDF 252 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth ac
yn ceisio ystyriaeth ar gyfer mabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu,
Hamdden a Lletygarwch newydd dros dro sy'n berthnasol i Ardrethi busnes, a
gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021. Mae hyn yn ategu’r Cynllun Rhyddhad
Ardrethi'r Stryd Fawr a Manwerthu a gyhoeddwyd yn flaenorol. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi manylion y cynllun fel y'u nodir yn yr adroddiad; 2)
Mabwysiadu'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi a'r broses
ymgeisio fel y'u hamlinellwyd yn yr adroddiad, ar gyfer 2020/2021. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 220 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar
gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod
Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg
ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 236 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Caffael tir i'r de o Fabian Way yn Nociau Abertawe ar gyfer ffordd gyswllt SA1 arfaethedig. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y pris prynu y cytunwyd arno ar gyfer
caffael 18.7 erw o dir gan Ddinas a Sir Abertawe yn Noc Abertawe. Prynir y tir
yn ôl cyfarwyddyd y cleient Priffyrdd, ac mae ei angen er mwyn hwyluso adeiladu
ffordd feingefn trwy SA1, gan gysylltu Baldwin’s Crescent a Langdon Road. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |