Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 154 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb
gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion
yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. 2) Datganodd y Cynghorydd M Thomas gysylltiad personol â Chofnod 154"Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol"; 3)
Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol â Chofnod 155 a 157 “Gwerthu tir
dros ben yn Ysgol yr Olchfa”; 4) Datganodd Huw Evans gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 154 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a gadawodd y cyfarfod cyn iddo ddechrau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel
cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaeth Arweinydd y Cyngor unrhyw gyhoeddiadau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd nifer o gwestiynau gan aelodau o'r cyhoedd mewn perthynas â'r gyllideb. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol. Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Gofynnwyd nifer o gwestiynau gan gynghorwyr
ynghylch y gyllideb. Ymatebodd Aelod
perthnasol y Cabinet yn briodol. Nid
oedd angen ymateb ysgrifenedig ar unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adborth ar graffu cyn penderfynu ar y gyllideb flynyddol. (llafar) Cofnodion: Cyflwynodd y Cyng.
C A Holley yr adborth craffu cyn penderfynu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 3ydd 2019/20. PDF 478 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gweithdrefn
Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw
i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn
Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar fonitro cyllidebau
refeniw a chyfalaf 2019-2020 yn ariannol, gan gynnwys cyflwyno arbedion
cyllidebol. Penderfynwyd ar
y canlynol: 1)
Nodi'r
sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill
er mwyn mynd i'r afael â'r rhain; 2)
Nodi'r
gwelliannau sylweddol a wnaed hyd yn hyn a chynlluniau eraill y cyfarwyddwyr i
sicrhau'r Cabinet y gellir cydbwyso'r cyllidebau gwasanaeth ar gyfer 2019-2020
ac ar ôl hynny er mwyn cael eu rhoi ar waith erbyn 1 Ebrill 2020, ac yn
cynharach lle bo'n bosib; 3) Ni all unrhyw swyddog ystyried unrhyw ymrwymiadau gwario pellach o bwys nes bod y cynlluniau arbed hynny'n cael eu sicrhau a'u rhoi ar waith, fel y manylir yn yr adroddiad i fynd i'r afael â gorwario ar wasanaethau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2021/22 - 2023/24. PDF 809 KB Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn
- Testun Craffu cyn Penderfynu:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni
fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymeg a diben y Cynllun Ariannol
Tymor Canolig, a manylodd ar y tybiaethau ariannu mawr ar gyfer y cyfnod, gan
gynnig strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys. Penderfynwyd: 1) Argymell Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2021-2022 hyd at 2023-2024 i'r cyngor fel sail ar gyfer cynllunio ariannol y gwasanaethau yn y dyfodol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyllideb Refeniw 2020/2021. PDF 946 KB Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn
- Testun Craffu cyn Penderfynu:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni
fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran y
Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020-2021.
Roedd yn manylu ar y canlynol: ·
Monitro ariannol 2019-2020; ·
Setliad cyllid llywodraeth leol
2020-2021; ·
Rhagolwg cyllidebol 2020-2021; ·
Cynigion arbed penodol; ·
Canlyniad yr ymgynghoriad ar y
gyllideb; ·
Goblygiadau staffio; ·
Gofynion y cronfeydd wrth
gefn; ·
Gofyniad y gyllideb a Threth y
Cyngor 2020-2021; ·
Crynodeb o gynigion ariannu; ·
Risgiau ac ansicrwydd. Penderfynwyd ar
y canlynol: 1)
Ystyried canlyniad yr ymarfer ymgynghori ffurfiol a chytuno ar unrhyw
newidiadau i'r cynigion cyllidebol yn Atodiad D yr adroddiad yn ogystal â'r
sefyllfa o ran cyllidebau dirprwyedig fel a nodwyd yn Adran 4.10 a 4.11 yr
adroddiad; 2) Nodi'r
bwlch presennol mewn adnoddau a grybwyllwyd yn Adran 4.5 yr adroddiad ac, yn
unol â'r camau gweithredu posib a nodwyd yn Adrannau 9 a 10 yr adroddiad,
gytuno ar gamau gweithredu i gyflawni Cyllideb Refeniw gytbwys ar gyfer
2020-2021; 3)
Yn ogystal ag adolygiad o gynigion arbed presennol, bydd angen i'r
Cabinet: a) Adolygu a chymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth
gefn a argymhellir yn yr adroddiad hwn; b) Cytuno ar lefel treth y cyngor ar gyfer
2020/2021 i'w hargymell i'r cyngor. 4)
Yn amodol ar y newidiadau a nodwyd ac a restrwyd uchod, mae'r Cabinet yn
argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo: a) Cyllideb Refeniw ar gyfer
2020-2021; b) Gofyniad y gyllideb ac ardoll Treth y Cyngor ar gyfer 2020-2021. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2019/20- 2024/25. PDF 202 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn
- Testun Craffu cyn Penderfynu:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni
fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd Swyddog
Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer
2019-2020 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2020-2021 i 2024-2025 Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo'r
Gyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2019-2020 a Chyllideb Gyfalaf 2020-2021 -
2024-2025 fel a fanylir yn Atodiadau A, B, C, D, E ac F yr adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - cyllideb refeniw 2020/21. PDF 573 KB Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn
- Testun Craffu cyn Penderfynu:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni
fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw ar gyfer
2020-2021 a chynnydd rhent i eiddo o fewn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT). Penderfynwyd argymell y cynigion cyllidebol canlynol
i'r cyngor i'w cymeradwyo: 1) Cynyddu
rhenti'n unol â pholisi rhent dros dro Llywodraeth Cymru fel a fanylwyd yn
Adran 3 yr adroddiad; 2) Cymeradwyo
ffïoedd, taliadau a lwfansau fel a amlinellir yn
Adran 4 yr adroddiad; 3) Cynigion y gyllideb refeniw fel a nodwyd yn Adran 4 yr adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfrif Refeniw Tai - cyllideb a rhaglen gyfalaf 2019/20 - 2023/24. PDF 731 KB Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn
- Testun Craffu cyn Penderfynu:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni
fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar
gyfer 2019-2020 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2020-2021 - 2023-2024. Penderfynwyd argymell y canlynol i'r cyngor i'w
cymeradwyo: 1) Cymeradwyo'r
trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r cyllidebau diwygiedig ar gyfer cynlluniau
yn 2019-2020; 2) Cymeradwyo
cynigion cyllidebol 2020-2021 a 2023-2024; 3) Lle caiff cynlluniau unigol fel y'u dangosir yn Atodiad B yr adroddiad eu rhaglennu dros y cyfnod 4 blynedd a ddisgrifir yn yr adroddiad, caiff y rhain eu dilyn a'u cymeradwyo, a chymeradwyir eu goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros y 4 blynedd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Strategaeth Gyfalaf 2020/21- 2025/26. PDF 845 KB Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn
- Testun Craffu cyn Penderfynu:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni
fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd y Swyddog
Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Strategaeth
Gyfalaf sy'n cyfeirio'r Rhaglen Gyfalaf 4 blynedd. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo'r
Strategaeth Gyfalaf. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig Cyllidebol Canolfannau Gweithgareddau Gwyr ar gyfer 2020/2021. PDF 418 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn
- Testun Craffu cyn Penderfynu:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni
fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant adroddiad a oedd yn ceisio ymgynghori ar
gynyddu prisiau ar gyfer Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr trwy amrywiaeth o
opsiynau i'w hystyried ar gyfer model gweithredu ar gyfer dyfodol Canolfannau
Gweithgareddau Gŵyr gyda chyllideb ar sail sero'n unol â'r cynnig cyllidebol
ar gyfer 2020-21. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r cynigion a amlinellwyd i ymgynghori arnynt
fel isod: 2)
Cynnig
1 - Cael gwared ar BOB cymhorthdal ar gyfer ysgolion Abertawe a disgyblion sy'n
derbyn prydau ysgol am ddim (PYDd) a sefydlu pris mwy
masnachol sy'n seiliedig ar brisiau'r farchnad bresennol, a chyflwyno'r cynnig
yn ehangach nag ysgolion Abertawe'n unig
(ymgynghoriad cyhoeddus); 3)
Cynnig 2 - ailstrwythuro staff ymhellach i gyfuno swyddi
a defnyddio staff tymhorol/cymorth pan fo angen (ymgynghoriad mewnol). |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ardrethi Busnes - Cynllun Cymorth Ardrethi Dros Dro (Cymru) 2020/2021. PDF 249 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn
- Testun Craffu cyn Penderfynu:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni
fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth ac yn ystyried
mabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr ac Ardrethi Manwerthu newydd
dros dro sy'n berthnasol i Ardrethi busnes, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru
ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-2021. Penderfynwyd: 1)
Nodi
manylion y cynllun yn yr adroddiad; 2) Mabwysiadu'r Cynllun Cymorth Ardrethi a'r broses ymgeisio fel y'u nodir yn yr adroddiad, ar gyfer 2020-2021. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 136 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar
gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod
Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg
ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwerthu tir dros ben yn Ysgol yr Olchfa. PDF 251 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio caniatâd i
gael gwared ar dir dros ben yn Ysgol yr Olchfa, am y pris gorau, am swm sy'n fwy
na chyfyngiadau'r awdurdod dirprwyedig. Penderfynwyd: 1)
Nodi
argymhellion asiantiaid gwerthu tir penodedig y
cyngor a chymeradwyo gwerthu'r tir i Gynigiwr 2; 2)
Dirprwyo
awdurdod i Gyfarwyddwr Lleoedd ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad
i drafod y Penawdau Telerau terfynol a chymryd pob cam gweithredu angenrheidiol
i drefnu gwaredu'r tir; 3) Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol i gael mynediad at unrhyw ddogfennaeth y mae ei hangen i gyflawni'r gweithrediad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn
yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwerthu tir dros ben yn Ysgol yr Olchfa. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth
gefndir ychwanegol sy'n berthnasol i Adroddiad Arfaethedig "Gwerthu Tir
Addysg Dros Ben yn Ysgol yr Olchfa". Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |