Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Mynegodd y Cynghorydd C E Lloyd gysylltiad personol â chofnod 161 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol"; 2)
Mynegodd y Cynghorydd J A Raynor
gysylltiad personol â chofnod 161 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod
Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb gan
y Pwyllgor Safonau i aros, siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn
ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol; 3)
Mynegodd Huw Evans a Deb
Smith gysylltiad personol â chofnod 165 "Dyfarniad
Cyflog y Cyd-Gyngor Cenedlaethol ar Gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol -
2019/20”. |
|||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Ionawr, 2019. |
|||||||||||||||||||||||||
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Gweddarlledu Cyfarfod y Cyngor Dywedodd yr Aelod
Llywyddol, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu
cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen
Graffu, fod y cyfarfod yn cael ei
recordio at ddibenion gweddarlledu. Ni fydd y
cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw am ein bod yn dal yn y cyfnod profi; fodd
bynnag, caiff ei recordio. Os bydd y prawf yn llwyddiannus, caiff y cyfarfod ei
gyhoeddi ar-lein. 2)
Diwygiadau/Cywiriadau i Agenda'r Cabinet a)
Eitem
9 "Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Adeilad Newydd ar gyfer Ysgol
Gynradd Gorseinon". Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod gwall argraffu ar dudalen 90, paragraff
2.2. Gofynnodd i'r cyfeiriad at y "B4240" gael ei newid i’r
"A4240". |
|||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd nifer o
gwestiynau ynghylch Cofnod 162 "Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Adeilad
Newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gorseinon". Ymatebodd Aelod y
Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau. |
|||||||||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||
FPR5 - Estyniad i'r prosiect Cynnydd a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. PDF 127 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn cydymffurfio â Rheol 5 y
Weithdrefn Ariannol "Rheoli'r Gyllideb" i fonitro a rheoli cyllidebau
yn effeithiol. Penderfynwyd: 1) Y dylid derbyn y cynnig bod y Gronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE) ychwanegol yn estyn y Prosiect Cynnydd hyd at Ragfyr 2022 (Cam 2). |
|||||||||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleol. PDF 99 KB Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer
yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol
(ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Prif Swyddog
Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
|||||||||||||||||||||||||
Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - adeilad newydd i Ysgol Gynradd Gorseinon PDF 166 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhad i ymrwymo i raglen gyfalaf y prosiect i godi adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gorseinon a hynny'n amodol ar ymrwymo i gontract â Llywodraeth Cymru, yn unol â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r prosiect cyfalaf fel y'i disgrifiwyd ynghyd
â'r goblygiadau ariannol a nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad, a hynny'n amodol
ar gadarnhad grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru. Nodyn: Gohiriwyd y cyfarfod am
5 munud yn ystod yr eitem hon, yn dilyn ffrwydradau llafar dro ar ôl tro o'r
oriel gyhoeddus. |
|||||||||||||||||||||||||
FPR7 - Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio (TBA) Llywodraeth Cymru 2018-21. PDF 169 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf" i ymrwymo ac awdurdodi ychwanegu cynlluniau newydd i'r Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r Grant Datblygu a Gwella Eiddo, Grant Byw
Cynaliadwy a Phrosiectau Strategol dan Raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio
Llywodraeth Cymru a'r goblygiadau ariannol cysylltiedig â'r cynlluniau a
ychwanegwyd at y Rhaglen Gyfalaf. Nodyn: Gadawodd y Cynghorydd R C
Stewart y cyfarfod yn dilyn yr eitem hon a chymerodd y Cynghorydd C E Lloyd y
gadair. Y Cynghorydd C E Lloyd fu’n llywyddu |
|||||||||||||||||||||||||
Rhaglen Ddatblygu - Cyfrif Refeniw Tai - Rhan 1. PDF 154 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Gartrefi ac Ynni adroddiad a oedd yn amlinellu'r Rhaglen Ddatblygu
newydd ar gyfer cartrefi cyngor newydd a ariennir gan y Cyfrif Refeniw Tai
(CRT). Mae'r Rhaglen Ddatblygu yn nodi'r cynlluniau a fydd yn cael eu darparu
gan y cyngor, a'r cyfleoedd ar gyfer cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i
gefnogi'r cynlluniau. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo Rhaglen Ddatblygu'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT); 2)
Cymeradwyo'r cynlluniau o fewn y Rhaglen Ddatblygu trwy
broses adrodd flynyddol Cyllideb Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai (CRT). |
|||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol adroddiad
a oedd yn cynghori ar Ddyfarniad Cyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol (CG) am
flwyddyn gyflog 2019-2020 a cheisiodd gymeradwyaeth i roi dyfarniad cyflog y CG
ar waith. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo a gweithredu dyfarniad cyflog arfaethedig y
Cyd-gyngor Cenedlaethol (CG). |