Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd E J King gysylltiad personol â Chofnod 117 “Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar
Addysg Grefyddol Abertawe (CYSAG) -Penodi aelodau newydd”; 2)
Datganodd y Cynghorydd M C Child gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 119 “Bwriad i adfeddu 21 Heol Acacia, West Cross, Abertawe” and withdrew from the meeting prior to its
consideration; 3)
Datganodd y Cynghorydd J E Burtonshaw gysylltiad personol â Chofnod 124 “FPR7
- Cyfnewidfa Broadway - Grant Cronfa Trafnidiaeth
Leol 2018/19”; 4)
Datganodd y Cynghorydd C E Lloyd gysylltiad personol â Chofnod 126 “FPR7
- Cais Ychwanegol i Gronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19 - Pont Baldwins”. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2018. |
|
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd nifer
o gwestiynau ynghylch Cofnod 114 “Adolygiad o Ysgolion Bach - Cynnig i Gau
Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc” a Chofnod 115 “Trefniadaeth Ysgol sy’n
Gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg - gan gynnwys y bwriad
i gau YGG Felindre a chynyddu maint ac adleoli YGG Tan-y-lan ac YGG Tirdeunaw”. Ymatebodd aelod(au)
perthnasol y Cabinet. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Gofynnodd y Cnghorwyr L R Jones a B J Rowlands nifer o
gwestiynau ynghylch Cofnod 114 “Adolygiad o Ysgolion Bach – Cynnig i Gau Ysgol
Gynradd Craigcefnparc” a Chofnod 115
“Trefniadaeth Ysgol sy’n Gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn
Addysg – gan gynnwys y bwriad i gau YGG Felindre a chynyddu maint ac adleoli
YGG Tan-y-lan ac YGG Tirdeunaw”. Ymatebodd aelod(au)
perthnasol y Cabinet. |
|
Craffu Cyn Penderfyniad- Adolygiad o Ysgol Fach - Cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc & Trefniadaeth Ysgolion sy'n gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (lafur) Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
L S Gibbard yr adborth craffu cyn penderfynu. |
|
Adolygiad o Ysgol Fach - Cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc. PDF 256 KB *Gweithdrefn Galw i Mewn: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn
Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn
Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gweithdrefn
Galw i Mewn: Mae’r penderfyniad hwn wedi’i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr
awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni
fu unrhyw newid pwysig i’r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a oedd yn
cyflwyno adborth ar ganlyniad yr ymgynghoriad ac yn ceisio cymeradwyaeth ar
gyfer cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc yn
weithredol o 31 Awst 2019. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad
statudol i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc yn weithredol o 31 Awst 2019; 2)
Y dylai'r Cabinet ystyried unrhyw wrthwynebiadau a
dderbyniwyd yn ystod cyfnodau'r hysbysiadau statudol a phennu canlyniad y
cynigion yn y cyfarfod ar 21 Mawrth 2019. |
|
Trefniadaeth Ysgolion sy'n gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg PDF 2 MB *Call In
Procedure: This decision is exempt from the Authority’s Call In Procedure as “the
decision has been subject to Pre-Decision Scrutiny and there is no material
change in relevant information / evidence”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gweithdrefn
Galw i Mewn: Mae’r penderfyniad hwn wedi’i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr
awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni
fu unrhyw newid pwysig i’r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymgynghoriadau diweddar gan geisio penderfyniad ynghylch a ddylid trosglwyddo’r tir ger Beacons View a amlinellir yn goch ar y cynllun a ychwanegir at Atodiad G, "Y Tir ger Beacons View", o'r Cyfrif Refeniw Tai i Addysg. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i adleoli Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan, cynyddu nifer y lleoedd a gwella’r cyfleusterau; 2) Cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i adleoli Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw, cynyddu nifer y lleoedd a gwella’r cyfleusterau; 3) Cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre’n weithredol o 31 Awst 2019; 4) Cymeradwyo newidiadau yn nalgylchoedd ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg sy'n angenrheidiol er mwyn adlewyrchu'r newidiadau uchod; 5) Y dylai'r Cabinet ystyried unrhyw wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnodau'r hysbysiadau statudol a phennu canlyniad y cynigion yn y cyfarfod ar 21 Mawrth 2019; 6) Bod y Cabinet yn nodi nad oes angen y tir ger Beacons View a amlinellir ar y cynllun yn Atodiad G yr adroddiad mwyach, a’i fod yn cymeradwyo ei adfeddu at ddibenion addysg o dan Adran 122 Deddf Llywodraeth Leol 1972, sef ar gyfer adeiladu ysgol gynradd newydd. Sylwer: Gadawodd y Cynghorydd R C Stewart (Cadeirydd) y cyfarfod. Bu’r Cynghorydd C E Lloyd (Is-gadeirydd) yn llywyddu |
|
Mwy o leoedd wedi'u cynllunio yn Ysgol Arbennig Pen-y-bryn PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad, a
oedd yn cynnig adborth ar ganlyniad cyfnod yr hysbysiad statudol ac yn ceisio
penderfyniad ar y cynnig i gynyddu nifer y lleoedd cynlluniedig yn Ysgol
Arbennig Pen-y-bryn. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau. Penderfynwyd: 1)
Cynyddu nifer y lleoedd cynlluniedig yn Ysgol Arbennig
Pen-y-bryn o 130 i 150; 2)
Cynnwys yr arian refeniw dirprwyedig ychwanegol i gefnogi
sefydlu'r lleoedd cynlluniedig ychwanegol hyn yn Ysgol Arbennig Pen-y-bryn a'r
costau cludiant ychwanegol posib sy'n gysylltiedig â hyn yng nghyllidebau
refeniw cyffredinol presennol addysg a rhai'r
dyfodol. |
|
Cyngor Ymgynghorol Sefydlog Ar Addysg Grefyddol Abertawe (CYSAG)-Penodi aelodau newydd. PDF 136 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a oedd yn
ceisio cymeradwyaeth i gynyddu aelodaeth Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg
Grefyddol Abertawe (CYSAG). Penderfynwyd: 1)
Cynyddu aelodaeth Pwyllgor A (Grwpiau Ffydd) CYSAG o ddau
aelod i gynnwys un cynrychiolydd o'r Ffydd Fahaiaidd
ac un o Gymdeithas y Dyneiddwyr; 2)
Cynyddu aelodaeth Pwyllgor B (Cymdeithasau Proffesiynol) CYSAG
o un aelod i gynnwys ail gynrychiolydd o'r NASUWT. |
|
Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 2 2018-19 PDF 152 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn
amlinellu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2018-2019. Penderfynwyd: 1)
Nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i
gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n
berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac
effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. |
|
Bwriad i adfeddu 21 Heol Acacia, West Cross, Abertawe. PDF 115 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn
ceisio penderfyniad ynghylch a ddylid adfeddu eiddo 21 Heol Acacia, West Cross
SA3 5LF at ddibenion tai. Mae'r tir y cynigir ei adfeddu ar hyn o bryd yn dir
gwasanaethau cymdeithasol y cyngor ac ystyrir nad oes ei angen mwyach at y
dibenion hyn. Dywedodd fod adroddiad diwygiedig wedi’i
gylchredeg. Penderfynwyd: 1)
Adfeddu'r eiddo a nodwyd ar y cynllun yn Atodiad B yr
adroddiad at ddibenion tai, sef darparu dwy neu o bosib dair uned ar gyfer tai
cyngor. |
|
Adroddiad FPR7 ar gyfer Cynlluniau Cyfalaf CGI. PDF 145 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad, a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer Cyllid Cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig (CGI) ar gyfer
Dinas a Sir Abertawe ac i ychwanegu'r cynllun at y rhaglen gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo’r elfen sy’n ymwneud ag Abertawe yn y cais am
grant cyfalaf y CGI i Lywodraeth Cymru. |
|
FPR7 Buddsoddiad cyfalaf i Plantasia mewn partneriaeth â Parkwood Leisure PDF 140 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad, a oedd yn
ceisio cadarnhau lefel y cyllid ar gyfer gwaith datblygu cyfalaf Plantasia mewn
partneriaeth â Parkwood Leisure. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo’r egwyddorion datblygu cyfalaf
cyffredinol ynghyd â'r goblygiadau ariannol; 2)
Rhoi awdurdod i ddefnyddio’r benthyciad cyfalaf ac
awdurdodi'r cynlluniau yn yr egwyddorion datblygu; 3)
Datblygu dull o fonitro'r prosiect i reoli'r cynlluniau
unigol gyda chynrychiolaeth swyddogion priodol a phroses cymeradwyo; 4)
Archwilio cyfleoedd i gael grantiau mewn
partneriaeth â Parkwood Leisure er mwyn lleihau’r swm
a fenthycir a’r costau ad-dalu i'r cyngor. |
|
Polisi Cerbydlu Gwyrdd PDF 130 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Polisi’r Economi ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn
ceisio cymeradwyaeth i fabwysiadu Polisi’r Cerbydlu
Gwyrdd yn ffurfiol i sicrhau bod caffael, defnydd a rheolaeth y cerbydlu corfforaethol yn ceisio'n gyson ac yn barhaus i
gyfrannu at ymrwymiadau Cynllun Corfforaethol y cyngor mewn perthynas â Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Penderfynwyd: 1) Mabwysiadu Polisi’r Cerbydlu Gwyrdd. |
|
Peidio â rhoi deunyddiau ailgylchadwy mewn sachau du. PDF 167 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad, a oedd yn
cynnwys cynnig i beidio â rhoi deunyddiau ailgylchadwy mewn sachau du ar ymyl y
ffordd i annog cynnydd mewn ailgylchu er mwyn cyrraedd targedau statudol cynyddol.
Roedd yr ymagwedd hefyd yn ceisio osgoi'r angen i gyfyngu ymhellach ar nifer y
sachau du y gellir eu derbyn neu amlder y casgliadau. Dywedodd fod canlyniadau’r ymgynghoriad
wedi’u cylchredeg. Penderfynwyd: 1) Cynghori preswylwyr na chaniateir gosod y deunyddiau ailgylchadwy a restrir isod yn eu gwastraff gweddilliol (sachau du): Ø Bwyd; Ø Caniau a thuniau; Ø Poteli gwydr a jariau; Ø Papur a chardbord; Ø Poteli plastig, tybiau a hambyrddau (rhaid gosod haenau neu blastig tenau yn y sachau du o hyd). 2)
Dechrau
proses Hyrwyddiadau Ailgylchu i wirio sachau du am ddeunyddiau ailgylchadwy
sylweddol; 3)
Dilyn
y broses a nodir ym mharagraffau 4.3 i 5.1 yr adroddiad i geisio newid
sylweddol o ran rheoli gwastraff ac ailgylchu yn y cartref. |
|
FPR7 - Cyfnewidfa Broadway - Grant Cronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19 PDF 171 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn
cadarnhau’r cais am gyllid ychwanegol o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol ac a
geisiodd gymeradwyaeth am wariant ar brosiect Cyfnewidfa Broadway
2018-2019. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y
Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i ymrwymo ac
awdurdodi amrywiad i gynllun cyfalaf presennol yn y Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd cymeradwyo prosiect Cyfnewidfa Broadway, ynghyd â'i oblygiadau ariannol. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 111 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar
gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
FPR7 - Cais Ychwanegol i Gronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19 - Pont Baldwins. Cofnodion: The Cabinet Member for Environment & Infrastructure Management presented a report which confirmed the bid for additional Local Transport Fund (LTF) monies and sought approval for expenditure on the Baldwins Bridge and Dyfatty Junction projects 2018-2019. The report sought also to comply with Financial Procedure Rule 7 “Capital Programming and Appraisals”, to commit and authorise a variation to an existing capital scheme in the Capital Programme. Resolved that the recommendations as detailed in the report be approved. |