Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: 1) Datganodd y Cyng. M Thomas fudd personol yng Nghofnod 68 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol". |
||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir
isod fel cofnod cywir: 1)
Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Medi 2017. |
||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni
wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd nifer o gwestiynau mewn perthynas â
Chofnod 71 "Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif - adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd
Gorseinon ym Mharc y Werin, Gorseinon,
Abertawe". Ymatebodd Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd a Deallusrwydd Busnes (Swyddog Monitro) a'r Aelod Cabinet dros
Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. |
||||||||||||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Gofynnwyd nifer o
gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 71 "Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif - adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd
Gorseinon ym Mharc y Werin, Gorseinon, Abertawe". Ymatebodd yr Aelod
Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. |
||||||||||||||||||||||||||||
Adborth o'r Cyfarfod Craffu cyn Penderfynu - Adfywio Sgwâr y Castell. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
M H Jones yr adborth ar graffu cyn penderfynu. Penderfynwyd: 1)
Nodi cynnwys yr adborth ar graffu cyn
penderfynu. |
||||||||||||||||||||||||||||
Adfywio Sgwâr y Castell. PDF 318 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr adroddiad a oedd yn cyflwyno arfarniad o'r opsiynau ar gyfer gosod cyfle datblygu rhannol, opsiynau yn nhermau dulliau cyflwyno a phrif egwyddorion papur briffio rhagarweiniol ar ddatblygu, mannau cyhoeddus a marchnata er mwyn cefnogi'r gwaith gwella a'r cyfle datblygu rhannol yn rhan o Sgwâr y Castell. Penderfynwyd: 1) O'r opsiynau cyflwyno sydd ar gael, yr ymagwedd a ffefrir yw bod Cyngor Abertawe'n gweithredu fel datblygwr gyda rheolwr datblygiad allanol wedi'i sicrhau ar gyfer y gwaith gwella a'r cyfle datblygu rhannol yn Sgwâr y Castell; 2) Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd i baratoi papur briffio ar ddatblygu, mannau cyhoeddus a marchnata sy'n nodi cyfle datblygu, o ddewis yn Lleoliad 1 a 3 fel a nodir yn yr adroddiad, ond nid yw'n atal atebion dylunio blaengar a chyfiawnadwy sy'n cyd-fynd â'r amcanion a'r egwyddorion allweddol a nodwyd yn y briff rhagarweiniol. |
||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2016/17. PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes a oedd yn cyflwyno adolygiad o'r cynnydd a wnaed gan y cyngor o ran cyflawni'r blaenoriaethau, y camau gweithredu a'r targedau a nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol Cyflawni dros Abertawe ar gyfer 2015-2017, yn unol â gofyniad Rhan 1 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2016-2017. |
||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 99 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol fel y'u hargymellwyd
gan Banel Penodi Llywodraethwyr yr ALl:
|
||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol Cwynion 2016-17. PDF 134 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad er
gwybodaeth a oedd yn adrodd am waith y Tîm Cwynion Corfforaethol, gan amlygu
nifer, natur a chanlyniad cwynion yn erbyn yr Awdurdod, yn ogystal â manylion y
gwersi a ddysgwyd a gwelliannau i'r gwasanaeth. Roedd Adroddiad Blynyddol
Cwynion Corfforaethol yn cynnwys y canlynol: Ø
Cwynion
y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion; Ø
Cwynion
y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd; Ø
Deddf
Rhyddid Gwybodaeth (FOI); Ø
Deddf
Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA). |
||||||||||||||||||||||||||||
Diweddariad am Roi'r Strategaeth Ddigidol ar Waith. PDF 435 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd yn darparu diweddariad am roi'r Strategaeth Ddigidol a phrosiectau cysylltiedig ar waith. Penderfynwyd: 1) Nodi'r cynnydd a wnaed; 2) Parhau i gyflwyno'r strategaeth ddigidol. |
||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn ceisio penderfyniad ynghylch a fyddai'r tir ym Mharc y Werin, Gorseinon yn briodol at ddibenion addysg. Ceisiwyd hefyd gadarnhau ymrwymiad y Rhaglen Gyfalaf i'r cynllun ar gyfer adeilad newydd Ysgol Gynradd Gorseinon yn amodol ar ymrwymo i gontract gyda Llywodraeth Cymru. Penderfynwyd: 1) Nid oes angen y tir a ddelir gan y cyngor ar hyn o bryd at y diben y mae'n cael ei feddiannu mwyach, sef tir ar gyfer tai a hamdden, fel a nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad; 2) Meddiannu'r tir ym Mharc y Werin, Gorseinon a nodir ar y cynllun yn Atodiad A yr adroddiad at ddibenion addysg o dan Adran 122 Deddf Llywodraeth Leol 1972, sef adeiladu adeilad ysgol gynradd newydd; 3) Cymeradwyo'r cynllun cyfalaf fel a fanylwyd gyda'r goblygiadau ariannol a nodwyd yn Atodiad C yr adroddiad, yn amodol ar ymrwymo i gontract gyda Llywodraeth Cymru. 4) Bydd yr ardal fach o dir oddeutu 3.212 erw, y bwriedir cynnwys maes pob tywydd ac Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGA) arni y dangosir ar y cynllun sydd wedi'i atodi yn Atodiad B yr adroddiad, yn ffurfio rhan o safle newydd yr ysgol ac felly bydd yn parhau i gael ei rheoli gan yr ysgol. Pan na fydd y maes pob tywydd a'r MUGA yn cael eu defnyddio gan yr ysgol, mae'n bosib i'r cyhoedd eu defnyddio - bydd y manylion hynny'n cael eu cynnwys yng nghytundeb defnydd y gymuned; 5) Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes i gael mynediad i unrhyw ddogfennaeth angenrheidiol sydd ei hangen er mwyn cyflawni'r cynllun. |
||||||||||||||||||||||||||||
Arweiniad wedi'i ddiweddaru am Gyllideb Gymunedol yr Aelodau. PDF 92 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol adroddiad a oedd yn ceisio diwygio'r meini prawf er mwyn cyflwyno'r cynllun Cyllideb Gymunedol ac i ddarparu arweiniad ychwanegol. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
arweiniad diwygiedig sy'n ymwneud â Chyllidebau Cymunedol. |
||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad FPR7 - Buddsoddi cyfalaf mewn mesurau effeithlonrwydd ynni yn asedau'r cyngor. PDF 131 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddefnyddio rhaglen Re:fit Cymru Llywodraeth Cymru ac arian o Raglen Ariannu Cymru Llywodraeth Cymru (a reolwyd gan Salix Finance) a manteision ymagwedd o'r fath. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo astudiaeth dichonoldeb fanwl bellach y buddsoddiad cyfalaf arfaethedig. 2) Cymeradwyo'r cynlluniau sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer Rhaglen Ariannu Cymru (WFP) ar yr amod eu bod yn bodloni'r achosion busnes priodol heb gost i'r cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||
FPR7 - Prosiect Isadeiledd Ffordd y Brenin PDF 123 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu a Gwerthusiadau Cyfalaf", i gyflwyno ac awdurdodi amrywiad ar gynllun cyfalaf presennol yn y Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
diwygio'r prosiect arfaethedig a'i oblygiadau ariannol, a'i ychwanegu at y
rhaglen gyfalaf. |
||||||||||||||||||||||||||||
Adborth o'r Cyfarfod Craffu cyn Penderfynu - Adroddiad Arfarnu Opsiynau Adolygiad Comisiynu Diogelu'r Cyhoedd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
C A Holley yr adborth ar graffu cyn penderfynu. Penderfynwyd: 1) Nodi cynnwys yr adborth ar graffu cyn penderfynu. |
||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Arfarnu Opsiynau Adolygiad Comisiynu Diogelu'r Cyhoedd. PDF 112 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd adroddiad a oedd yn amlinellu cefndir Adolygiad Comisiynu Diogelu'r Cyhoedd gan nodi'r casgliadau a'r argymhellion allweddol. Penderfynwyd: 1)
Derbyn
casgliadau allweddol yr adroddiad a chymeradwyo cynigion y cyfleoedd masnachol
i'w rhoi ar waith. |