Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas
a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd A H
Stevens gysylltiad personol â Chofnod 90 “Cynigion y Gellideb 2024/25 –
2027/28”. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd
ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac
ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Cynigion y Gyllideb 2024/25 - 2027/28.** PDF 734 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn - Brys: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan
fod “naill ai Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig, y Swyddog Adran 151 neu'r
Swyddog Monitro'n ardystio y gallai unrhyw oedi sy'n debygol o gael ei achosi
gan y weithdrefn galw i mewn wneud niwed i'r cyngor neu fudd y cyhoedd, gan
gynnwys methu cydymffurfio â gofynion statudol". Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad
a oedd yn ystyried cynigion cyllidebol ar gyfer 2024/2025 i 2027/2028 fel rhan
o strategaeth cyllideb bresennol y cyngor. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r cynigion
cyllidebol a grynhowyd yn yr adroddiad ac y nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad
fel sail ymgynghoriad. 2)
Mabwysiadu'r rhagolwg
cyllidebol diweddaredig ar gyfer y dyfodol fel y
rhagosodiad cynllunio cychwynnol ar gyfer y cynllun ariannol tymor canolig, a
gaiff ei ystyried gan y Cyngor ar 7 Mawrth 2024. 3)
Cytuno ar yr ymagwedd at
ymgynghori ac ymgysylltu â staff, undebau llafur, preswylwyr, partneriaid a
phartïon eraill â diddordeb fel y'u hamlinellir yn Adran 7 yr adroddiad. 4)
Cyflwyno adroddiad ar
ganlyniad yr ymgynghoriad a'r cynigion cyllidebol terfynol yn ei gyfarfod ar 15
Chwefror 2024. |