Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd H J
Gwilliam gysylltiad personol â Chofnod 141 “Hysbysiad Man Agored Cyhoeddus i roi Cyhoeddusrwydd I’r Bwriad i Werthu Tir sy’n Fan Agored Cyhoeddus ar Fynydd
Cilfái, Abertawe”. 2)
Datganodd y
Cynghorydd L S Gibbard gysylltiad personol â Chofnod 145
“Adroddiad Rhaglen Cynnal a Chadw Cyalaf 2024/25”. 3)
Datganodd y Cynghorydd E J King gysylltiad personol â Chofnod 148
“Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Hamdden 2022/2023”. 4)
Datganodd y Cynghowyr R Francis-Davies a R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 148 “Adroddiad Blynyddol
y Bartneriaeth Hamdden
2022/2023” a gadawon y cyfarfod cyn ei ystyried. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a
restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
21 Mawrth 2024. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd
ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac
ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Gofynnodd Ben Houghton sawl cwestiwn yn ymwneud â Chofnod 141 “Hysbysiad
Mannau Agored Cyhoeddus yn Rhoi Cyhoeddusrwydd i’r Bwriad i Waredu Tir Man
Agored Cyhoeddus ym Mynydd Cilfái, Abertawe”. Darparodd Arweinydd y Cyngor, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd a Deallusrwydd Busnes ac Rheolwr Datblygu ac Adfywio atebion. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad a oedd
yn ceisio cymeradwyaeth mewn egwyddor i waredu tir a ddynodir yn fan agored
cyhoeddus ym Mynydd Cilfái, Abertawe ar ffurf prydles fasnachol i Skyline
Swansea Ltd. Penderfynwyd: 1)
Ystyriwyd yr ymatebion i'r broses ymgynghori ar
fannau agored cyhoeddus a gynhaliwyd yn unol â'r ddeddfwriaeth mannau agored
cyhoeddus yn benodol a123 o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, ar gyfer gwaredu tir a nodir yn Atodiad A (Cynllun Hysbysiad Mannau
Agored Cyhoeddus) yr adroddiad. Mae copi llawn o'r ymatebion a dderbyniwyd o'r
broses ymgynghori sydd naill ai'n cefnogi, yn gwrthwynebu neu'n rhoi sylw
niwtral wedi'u ddarparu yn y Papurau Cefndir. 2) Cymeradwyodd y Cabinet mewn egwyddor y
cynnig i waredu tir ar Fynydd Cilfái i Skyline Swansea Ltd, ar ôl ystyried
ymatebion yr Hysbysiad Mannau Agored Cyhoeddus. 3) Bydd adroddiad pellach yn cael ei dderbyn
gan y Cabinet maes o law a fydd yn manylu ar delerau'r gwarediad arfaethedig (a
fydd ar ffurf prydles fasnachol), i'w ystyried ac i benderfynu arno. |
|
Cynlluniau ar gyfer Ysgolion Arbennig Abertawe yn y dyfodol. PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn nodi na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau
yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Statudol. Ceisiodd gymeradwyaeth i ymgynghori ar
uno Ysgol Pen-y-Bryn ac Ysgol Crug Glas yn un
ysgol arbennig ym mis Medi 2025 ac adleoli i ysgol bwrpasol newydd gan gynyddu
nifer y lleoedd o fis Ebrill 2028. Penderfynwyd: 1)
Cyhoeddi
hysbysiad statudol ar y cynnig i gyfuno Ysgol Pen-y-bryn ac Ysgol Crug Glas yn un ysgol arbennig ym mis Medi
2025 ar safleoedd presennol a symud i ysgol newydd a adeiladwyd i'r diben gan
gynyddu nifer y lleoedd o fis Ebrill 2028. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Les adroddiad a oedd yn amlinellu ymateb i'r argymhellion craffu
ac yn cyflwyno cynllun gweithredu ar gyfer cael cytundeb. Penderfynwyd: 1)
Cytuno
ar yr ymateb a amlinellwyd yn yr adroddiad a'r cynllun gweithredu cysylltiedig. |
|
Fframwaith a Pholisi Rheoli Risgiau. PDF 130 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio cytuno ar a chymeradwyo Polisi a
Fframwaith Rheoli Risgiau diwygiedig y Cyngor. Penderfynwyd: 1)
Bod
Polisi a Fframwaith Rheoli Risgiau diwygiedig y Cyngor yn cael ei gymeradwyo. |
|
Adroddiad Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf 2024/25. PDF 148 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb
ar y cynlluniau i'w hariannu drwy'r Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Caiff
y cynlluniau cynnal a chadw cyfalaf arfaethedig a restrir yn Atodiad A i'r
adroddiad eu cymeradwyo. 2)
Caiff
y cynlluniau a'u goblygiadau ariannol fel a nodwyd yn Atodiad C yr adroddiad eu
hawdurdodi a'u cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf. |
|
Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Cyfalaf Ychwanegol Cyllideb Gymunedol 2024-2025. PDF 143 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth ac Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi,
Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio neilltuo ac
awdurdodi cynlluniau cyfalaf a gymeradwywyd ar gyfer gwelliannau i ystafelloedd
newid gwerth cyfanswm o £1m. Roedd hefyd yn ceisio ymrwymo cyllideb gymunedol
ychwanegol gwerth £1m i gefnogi gwelliannau cymunedol ehangach. Penderfynwyd: 1)
Bod y
dyraniad cyfalaf ychwanegol o £1m i'r gyllideb gymunedol a neilltuwyd ar gyfer
cynlluniau gwella ystafelloedd newid penodol a amlinellwyd yn yr adroddiad yn
cael ei gymeradwyo. 2)
Y
dyraniad cyfalaf ychwanegol o £1m i'r gyllideb gymunedol i gefnogi gwelliannau
cymunedol ehangach. Dirprwyir awdurdod i Aelod y Cabinet dros yr Economi,
Cyllid a Strategaeth, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a
Thwristiaeth, a'r Cyfarwyddwr Lleoedd i bennu cymhwysedd ar gyfer pob cynllun.
Os bydd cynllun yn cael ei gyflwyno yn un o wardiau'r Aelodau Cabinet hynny
sydd ag awdurdod dirprwyedig, byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn lle
hynny gan y Dirprwy Arweinydd ar y cyd â'r Cyfarwyddwr Lleoedd. |
|
Gwaith Dichonoldeb y Rhwydwaith Gwres Rhanbarthol. PDF 757 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
ar gyfer cais am grant a'i dderbyn, am arian i ymgymryd â gwaith dylunio
manylach ynghylch y potensial ar gyfer darparu rhwydwaith gwresogi rhanbarthol
ochr yn ochr â datblygiadau Eden Las. Penderfynwyd: 1)
Bod y
Cyngor yn derbyn ac yn defnyddio grant gan Lywodraeth y DU ar gyfer datblygu
Cynllun Rhaglen Manwl ar gyfer rhwydwaith gwresogi rhanbarthol. 2)
Nodi'r
cynnydd a wnaed hyd yma o ran rheoli tir o amgylch SA1 (gan gynnwys Tir John) i
gefnogi datblygiad ehangach yr Eden Las. |
|
Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Hamdden 2022/2023. PDF 255 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad
gwybodaeth a oedd yn darparu gwybodaeth i'r Cabinet am weithdrefnau partneriaeth
cyfleusterau allweddol ym mhortffolio'r Gwasanaethau Diwylliannol. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 115 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion
yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn
yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid
gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd
y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes
canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau. |
|
71-72 Ffordd y Brenin. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad a oedd
yn ceisio cydymffurfio â Rheolau Gweithdrefnau Ariannol. Penderfynwyd diwygio a chymeradwyo'r
argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad. |