Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd R V Smith
gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 99 "Penodiadau Llywodraethwyr
yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael
gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio
ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. 3)
Datganodd Huw Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 99 "Penodiadau Llywodraethwyr
yr Awdurdodau Lleol" a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried. |
|||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod
cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2023. |
|||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||
Siarter Cwsmeriaid a Fframwaith Safonau Gwasanaeth. PDF 276 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Corfforaethol a Chadernid Ariannol adroddiad
a oedd yn ceisio cymeradwyaeth a mabwysiadu'r fframwaith Siarter Cwsmeriaid a
Safonau Gwasanaeth. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo a mabwysiadu'r
Fframwaith Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth a nodir yn Atodiad A o 1
Ebrill 2024. 2)
Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwyr ac aelod perthnasol y
Cabinet i wneud unrhyw fân newidiadau i'r Safonau fel sy'n briodol ac mewn
ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol
(Dirprwy Arweinydd ar y Cyd) ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau
(Dirprwy Arweinydd ar y cyd y Cyngor). |
|||||||||||||||||||
Polisi Cydgynhyrchu. PDF 235 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Corfforaethol a Chadernid Ariannol
adroddiad a oedd yn ceisio mabwysiadu'r Polisi Cydgynhyrchu. Penderfynwyd: 1)
Mabwysiadu'r Polisi
Cydgynhyrchu. |
|||||||||||||||||||
Adolygiad Cydraddoldeb Blynyddol 2021/22. PDF 257 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb adroddiad a oedd yn
gofyn am gymeradwyaeth i gyhoeddi Adolygiad Cydraddoldeb Blynyddol y cyngor ar
gyfer 2022/23 yn unol â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a'r
rheoliadau adrodd ar gyfer Cymru. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo cyhoeddi cynnwys yr
adroddiad. |
|||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 236 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi
gwag Llywodraethwyr yr awdurdod lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau
canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y Cyd ag Aelod y Cabinet
dros Addysg a Dysgu:
|
|||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn argymell model cyflwyno
diwygiedig ar gyfer Uned Cyfeirio Disgyblion Maes Derw (UCD) yn dilyn cyfnod
ymgynghori. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio awdurdod dirprwyedig i roi'r
newidiadau gofynnol ar waith yn dilyn y cyfnod ymgynghori. Penderfynwyd: 1)
Cytuno ar y model newydd
arfaethedig sydd wedi’i ddatblygu, yn dilyn cyfnod o ymgynghori â Phwyllgor
Rheoli Uned Cyfeirio Disgyblion Maes Derw a rhanddeiliaid perthnasol eraill,
fel model cyflwyno gwasanaethau addysg heblaw yn yr ysgol yn y dyfodol. 2)
Dirprwyo awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Dysgwyr
Diamddiffyn ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu i wneud y
newidiadau gweithredol arfaethedig a chynnal unrhyw ymgynghoriadau staffio
pellach sydd eu hangen ac adolygu a mireinio’r model yn barhaus fel rhan o
fusnes fel arfer. |
|||||||||||||||||||
Cynlluniau ar gyfer Ysgolion Arbennig Abertawe yn y dyfodol. PDF 299 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn amlinellu canlyniad yr
ymgynghoriad a cheisiodd gymeradwyaeth i gyhoeddi hysbysiad statudol i uno
Ysgol Pen-y-Bryn ac Ysgol Crug Glas yn un Ysgol Arbennig ym mis Medi 2025 ac
adleoli i ysgol newydd a adeiladwyd i'r diben gan gynyddu nifer y lleoedd o fis
Ebrill 2028. Penderfynwyd: 1)
Cyhoeddi hysbysiad statudol ar
y cynnig i gyfuno Ysgol Pen-y-bryn ac Ysgol Crug Glas yn un ysgol arbennig ym
mis Medi 2025 ar safleoedd presennol a symud i ysgol newydd a adeiladwyd i'r
diben gan gynyddu nifer y lleoedd o fis Ebrill 2028. 2)
Bydd unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir yn ystod y cyfnod
hysbysu yn cael eu hystyried gan y Cabinet a bydd canlyniad y cynnig yn cael ei
bennu yng nghyfarfod y Cabinet ar 18 Ebrill 2024. |
|||||||||||||||||||
Polisi Lleithder A Llwydni Ar Gyfer Eiddo'r Cyngor. PDF 243 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn darparu
manylion ynghylch Polisi Lleithder a Llwydni arfaethedig newydd ar gyfer
eiddo'r cyngor. Mae'n ofyniad gan Lywodraeth Cymru fod gan bob darparwr llety
cymdeithasol bolisi o'r fath. Mae'r polisi'n amlinellu sut mae'r awdurdod yn
atal lleithder a llwydni, sut mae'n ymateb i adroddiadau o leithder a llwydni
a'r amserlenni ar gyfer ymchwilio i'r achosion hyn a'u trin. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r Polisi Lleithder a Llwydni. |
|||||||||||||||||||
Cytundebau Isadeiledd Dinas Glyfar. PDF 253 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr
Economi, Cyllid a Strategaeth, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, ac
Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad ar y cyd a oedd yn
ceisio cymeradwyaeth menter y Fargen Ddinesig i lofnodi cytundebau sy’n
galluogi Isadeiledd Dinas Glyfar ar oleuadau stryd a chelfi stryd eraill. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo llofnodi cytundebau
i alluogi isadeiledd Dinas Glyfar ar oleuadau stryd a chelfi stryd eraill. 2)
Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr ac aelod perthnasol y
Cabinet i gyflwyno rhagor o isadeiledd yn dilyn y cam cychwynnol. |