Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd R V
Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 70 "Penodiadau
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad
gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion
yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. |
|||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a
restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2023. |
|||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: a)
Cydymdeimladau - Huw
Mowbray - Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol Cyfeiriodd Arweinydd y
Cyngor gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Huw Mowbray. Huw oedd Rheolwr
Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol y cyngor. Roedd Huw yn ffrind ac yn
gydweithiwr arbennig o dda i lawer ac roedd yn cael ei barchu'n fawr gan
Gynghorwyr a Swyddogion am ei ymroddiad a'i broffesiynoldeb. Am nifer o flynyddoedd
helpodd Huw i lywio'r gwaith o adfywio Canol y Ddinas ac fe'i parchwyd yn fawr
iawn gan ein Partneriaid a'n Datblygwyr. Mae effaith Huw ar y ddinas i'w gweld
heddiw yn y datblygiadau niferus sydd wedi helpu i drawsnewid Canol y Ddinas. Mae ein meddyliau a'n
cydymdeimladau gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr Huw. |
|||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 235 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi
gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff
llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau
canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet
dros Addysg a Dysgu:
|
|||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelodau'r Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn gofyn am gydymffurfio
â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i
neilltuo ac awdurdodi cynlluniau i'r Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo’r cynllun cyfalaf, swm o £1,458,714 i gefnogi dysgwyr ag
anghenion dysgu ychwanegol, a'i gynnwys yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer
2023-2024. |
|||||||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau
busnes y nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au)
f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||
Prydlesu eiddo yng nghanol y ddinas ar gyfer Llety â Chymorth Dros Dro. Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn gofyn am
gynyddu Llety â Chymorth i helpu i fynd i'r afael â digartrefedd. Penderfynwyd diwygio a chymeradwyo'r
argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad. |