Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

108.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr R Francis-Davies, L S Gibbard, A Pugh, R V Smith a A H Stevens gysylltiad personol â Chofnod 112 “Cynigion y Gellideb 2023/24 – 2026/27”.

109.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

110.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

111.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley nifer o gwestiynau yn ymwneud â Chofnod 112 “Cynigion Cyllideb 2023/24-2026/27”.

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor.

112.

Cynigion y Gyllideb 2023/24 - 2026/27. ** pdf eicon PDF 777 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Brys: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “naill ai Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig, y Swyddog Adran 151 neu'r Swyddog Monitro'n ardystio y gallai unrhyw oedi sy'n debygol o gael ei achosi gan y weithdrefn galw i mewn wneud niwed i'r cyngor neu fudd y cyhoedd, gan gynnwys methu cydymffurfio â gofynion statudol".

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ystyried cynigion cyllidebol ar gyfer 2023/2024 i 2026/2027 fel rhan o strategaeth cyllideb bresennol y cyngor.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r cynigion cyllidebol a grynhowyd yn yr adroddiad ac y nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad fel sail ymgynghoriad.

 

2)              Mabwysiadu'r rhagolwg cyllidebol diweddaredig ar gyfer y dyfodol fel y rhagosodiad cynllunio cychwynnol ar gyfer y cynllun ariannol tymor canolig, a gaiff ei ystyried gan y cyngor ar 2 Mawrth 2023.

 

3)              Cytuno ar yr ymagwedd at ymgynghori ac ymgysylltu â staff, undebau llafur, preswylwyr, partneriaid a phartïon eraill â diddordeb fel y'u hamlinellir yn Adran 7 yr adroddiad.

 

4)              Cyflwyno adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad a'r cynigion cyllidebol terfynol yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror 2023.