Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y
Cynghorwyr R Francis-Davies a R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 52 "Cymorth Ariannol i Bartneriaethau
Hamdden 2022/23” a gadawodd y
cyfarfod cyn ei ystyried. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod
cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2022. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1af 2022/23. PDF 473 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar
fonitro cyllidebau refeniw a chyfalaf 2022/23 yn ariannol, gan gynnwys cyflwyno
arbedion cyllidebol. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau, gan gynnwys yr ansicrwydd
materol, a nodwyd yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn
mynd i'r afael â'r rhain. 2)
Cymeradwyo'r trosglwyddiadau a nodir ym mharagraff 2.7
o'r adroddiad a'r defnydd o'r gronfa wrth gefn fel a nodir ym mharagraff 3.2
o'r adroddiad yn amodol ar unrhyw gyngor pellach gan y Swyddog Adran 151 yn
ystod y flwyddyn. 3)
Atgyfnerthu’r angen i bob Cyfarwyddwr barhau i leihau
gwario ar wasanaethau yn ystod y flwyddyn, gan gydnabod mai dim ond drwy
ddibynnu'n drwm ar ad-daliad tebygol (sydd ymhell o fod yn sicr), cyllidebau
wrth gefn a chronfeydd wrth gefn a ddelir yn ganolog gan Lywodraeth Cymru y mae'r
gyllideb gyffredinol yn cael ei chydbwyso ar hyn o bryd, a hefyd gydnabod bod y
gorwariant bron yn gyfan gwbl yn sgîl dyfarniad tâl llawer uwch i lywodraeth
leol sydd heb ei ariannu a phwysau COVID-19 parhaus. 4)
Nodi'r gorwario dangosol ym mharagraff 4.1 yr adroddiad
gyda chamau pellach i'w cadarnhau yn y chwarteri dilynol unwaith y bydd yn
gliriach o ran lefel ad-dalu costau COVID-19 gweddilliol a chost derfynol
debygol y dyfarniad tâl sy'n aros. |
|
Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP) 2022. PDF 332 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gymunedau (Cymorth) adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo
canfyddiadau Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2022. Mae'r asesiad yn ffurfio dyletswydd
statudol ar awdurdodau lleol i 'sicrhau gofal plant digonol i ddiwallu
anghenion gofal plant rhieni sy'n gweithio', felly mae'n ymwneud â
chydymffurfio â chyfrifoldeb statudol. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant sydd wedi'i
atodi yn Atodiad A yr adroddiad. 2)
Cefnogi'r Camau Gweithredu a nodwyd yn Adran 4 yr
adroddiad i ddatblygu Cynllun Gweithredu i fynd i'r afael â’r meysydd i'w
datblygu a nodwyd yn yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant. |
|
Cynllun Caffael Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru 2022-2025. PDF 351 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad ar y cyd a oedd yn manylu ar y cynllun caffael ar gyfer gwasanaethau sy'n cael eu hariannu gan y Grant Cymorth Tai. Cadarnhaodd yr amserlen ar gyfer ail-gaffael yr holl wasanaethau a cheisiodd cymeradwyaeth i gyhoeddi estyniadau contract i sicrhau parhad mewn gwasanaethau hanfodol. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo ymestyn yr
amserlenni a gymeradwywyd yn adroddiad y Cabinet ar 20 Mai 2021 o flwyddyn. Nodir y cyfnodau contract a'r
amserlenni ail-gaffael arfaethedig yn Atodiad 1 yr adroddiad. 2)
Dirprwyo'r penderfyniad mewn perthynas â'r broses gaffael
mewn perthynas â'r gwasanaethau a gomisiynwyd gan y Grant Cymorth Tai i'r
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymgynghoriad a’r Swyddog Adran 151 ag
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid
Gwasanaethau gyda chymorth gan Wasanaethau Masnachol. |
|
Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai 2022-2026. PDF 252 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros
Wasanaethau Gofal ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad ar
y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai
a Chynllun Gweithredu 2022/2026. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai a'r Cynllun Gweithredu. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn ceisio
cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau
Cyfalaf", i neilltuo ac awdurdodi cynlluniau i'r Rhaglen Gyfalaf, a
cheisiodd gael cymeradwyaeth ôl-weithredol ar gyfer dau gais grant gan
Lywodraeth Cymru. Mae'r Rhaglen
Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro wedi'i chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru er mwyn
mynd i'r afael â'r pwysau mewn llety dros dro ac argyfwng Wcráin. Bydd y cynllun yn ariannu gwaith i ailddefnyddio eiddo gwag yn gynt, yn
ogystal ag addasu 3 adeilad i lety preswyl i'w rhentu fel tai cymdeithasol.
Sicrhawyd Cyllid Diogelwch Adeiladau Cymru i ddarparu systemau taenellwyr i'r
ddau floc o fflatiau uchel yn Griffith John Street. Bydd hwn yn ymrwymo'r
cynlluniau i'r rhaglen gyfalaf yn unol â Rheolau Gweithdrefnau Ariannol y
cyngor. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo ceisiadau y Rhaglen
Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro a nodir yn Adran 2 o'r adroddiad. 2)
Cymeradwyo Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru a nodir yn Adran 3 o'r adroddiad. 3)
Dirprwyo awdurdod i'r
Cyfarwyddwr Lleoedd Dros Dro, y Prif Swyddog Cyfreithiol a'r Prif Swyddog
Cyllid ymrwymo i unrhyw gytundebau sy'n angenrheidiol i sicrhau y caiff y
prosiectau eu cyflawni ac i ddiogelu buddiannau'r cyngor. 4)
Dirprwyo awdurdod i'r
Cyfarwyddwr Lleoedd Dros Dro a'r Prif Swyddog Cyllid i adennill yr holl wariant
sy'n gysylltiedig â chyflawni'r prosiectau gan Lywodraeth Cymru. 5)
Caiff unrhyw benderfyniadau pellach sy'n berthnasol i'r cyllid uchod eu
dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Lleoedd Dros Dro ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid
Gwasanaethau, a chaiff cynlluniau eu nodi a'u cymeradwyo trwy adroddiad
blynyddol Cyllideb Gyfalaf y CRT. |
|
Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'r Grant Gwella 2022/23 - trosglwyddo'r gyllideb. PDF 251 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn
darparu manylion y Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a Grant Gwella 2022/23
a gofynnodd am gymeradwyaeth i drosglwyddo'r gyllideb o'r Grantiau Cyfleusterau
i'r Anabl (GCA) i Grant Mân Addasiadau a chyllideb benthyciadau Homefix
i Gronfa Gyffredinol Cyfalaf y cyngor. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio
cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu ac Arfarniadau
Cyfalaf", i neilltuo ac awdurdodi cynlluniau y unol â'r Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
trosglwyddo £230,000 o gyllideb Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (GCA) i
gyllideb Grant Mân Addasiadau. 2)
Cymeradwyo trosglwyddo £500,000 o gyllideb benthyciadau Homefix
i Gronfa Gyfalaf Gyffredinol y cyngor. |
|
Rhaglenni Grant Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) Gwyr 2022-25. PDF 244 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros
Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i dderbyn rhaglenni grant gan Lywodraeth Cymru, gyda chyfanswm o
£1,025,000 yn unol â Rheol 5.7 y Weithdrefn Ariannol. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo derbyn y rhaglenni grant a nodir ym mharagraff 1.2 yr adroddiad yn y swm o £1,025,000 i alluogi'r prosiectau i gael eu datblygu a'u cyflawni o fewn rhaglen tair blynedd 2022/2025. |
|
Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021-22. PDF 286 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid
Gwasanaethau adroddiad gwybodaeth yn cyflwyno Llythyr Blynyddol Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021/22 ar gyfer Dinas a Sir Abertawe. |
|
Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Ranbarthol Gorllewin Morgannwg 2022. PDF 288 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros
Wasanaethau Gofal adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer adroddiad
Sefydlogrwydd y Farchnad Rhanbarthol, sy'n offeryn i gynorthwyo'r Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol wrth gynllunio a chomisiynu gofal a chefnogaeth o ansawdd ar gyfer
ei boblogaethau. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
ffaith y cymeradwyodd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yr adroddiad ar
Sefydlogrwydd y Farchnad Rhanbarthol ar 7 Gorffennaf 2022. 2) Cymeradwyo ac argymell yr adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Rhanbarthol sydd wedi'i atodi yn Atodiad A yr adroddiad i'r cyngor i'w gymeradwyo. |
|
Cymorth Ariannol i Bartneriaethau Hamdden 22/23. PDF 294 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi,
Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y
Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i neilltuo ac
awdurdodi cynlluniau i'r Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
Goblygiadau Ariannol a nodir ym mharagraff 4 yr adroddiad ac awdurdodi'r cyllid
ychwanegol i'w ychwanegu at y cynllun cymeradwy. 2)
Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd Dros Dro mewn ymgynghoriad â'r
Cyfarwyddwr Cyllid a'r Prif Swyddog Cyfreithiol i gymeradwyo cost adeiladu
terfynol ar gyfer y prosiect. |
|
Contract ar gyfer Prosiect Amddiffyn Arfordir y Mwmbwls. PDF 456 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer dyfarnu'r contract adeiladu ar gyfer prosiect Amddiffyn Arfordir y Mwmbwls yn dilyn cystadleuaeth fach gan Fframwaith Peirianneg Sifil Rhanbarthol De-orllewin Cymru a cheisio cymeradwyaeth mewn egwyddor ar gytundeb ariannu rhwng Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo cynnig y cyllid fel y’i gwnaed, ond bydd y Cyfarwyddwr Cyllid yn cynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid yn cael ei chadarnhau a’i sicrhau yn y ffordd orau bosib o ystyried yr ansicrwydd ar hyn o bryd ynghylch cyllid a’r farchnad ariannol. 2) Cymeradwyo'r gost adeiladu ar gyfer y cynllun ac ychwanegu'r cynllun a'i gostau diwygiedig at raglen gyfalaf y cyngor. 3) Cymeradwyo dyfarnu'r contract adeiladu ar gyfer prosiect Amddiffyn Arfordir y Mwmbwls i'r sawl sy'n tendro a nodir yn Adrannau 4 a 5 yr adroddiad hwn. 4)
Dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Priffyrdd a Chludiant a'r
Prif Swyddog Cyfreithiol i ymrwymo i'r dogfennau cyfreithiol sydd eu hangen i
ddatblygu'r prosiect. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu
bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff
gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan
Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn
perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes
canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: |
|
Cymorth Ariannol i Bartneriaethau Hamdden 2022/2023. Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon. |
|
Adroddiad FPR7 - Adroddiad ynghylch y Diweddaraf am Brosiect Ailddatblygu Pwerdy Gwaith Copr yr Hafod. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad
a oedd yn darparu gwybodaeth ychwanegol. |
|
Contract ar gyfer Prosiect Amddiffyn Arfordir y Mwmbwls. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad
oedd yn darparu gwybodaeth ychwanegol. |
|
Trafodaethau gwerthu tir Olchfa. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn
ceisio penderfynu a ddylid derbyn cynnig llai yn seiliedig ar gostau datblygu
amcangyfrifedig y datblygwyr. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |