Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
y nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au)
f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Holley nifer o gwestiynau
mewn perthynas â chofnod rhif 36, “Caffaeliad, Canol Dinas Abertawe” a chofnod
rhif 37 “Skyline: Cynnig Hamdden
Newydd ar gyfer Abertawe”. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor a’r Swyddog Adran 151
yn briodol. |
|
Caffael Canol Dinas Abertawe. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad
a oedd yn gofyn i'r Cabinet ystyried y bwriad i gaffael hen uned Debenhams yn y
Cwadrant i gefnogi adferiad canol y ddinas ac yn gofyn am awdurdodiad
cyllidebol i ychwanegu'r prosiect at y Rhaglen Gyfalaf yn unol â rheolau'r
Weithdrefn Ariannol. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |
|
Cynnig Hamdden Newydd ar Gyfer Abertawe. Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn
ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y cynllun a'i oblygiadau ariannol, gan gynnwys
grant ariannol a benthyciad ad-daliadwy i gefnogi cyflwyno cynllun Skyline, yn unol â Rheolau'r Weithdrefn Ariannol a neilltuo
ac awdurdodi'r cynllun i'r Rhaglen Gyfalaf i gydymffurfio â Rheol 7.3 y
Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf". Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |