Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas
a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: 2)
Datganodd y Cynghorydd R V
Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 156 "Penodiadau
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad
gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion
yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. 3)
Datganodd y Cynghorydd L S
Gibbard gysylltiad personol â Chofnod 159 "Adroddiad Rhaglen Cynnal a
Chadw Cyfalaf 2023/23". |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod
cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2023. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Ffrwydrad yn Clydach Road, Treforys Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y farwolaeth drasig ddiweddar yn dilyn
ffrwydrad yn Clydach Road, Treforys. Mynegodd ei gydymdeimladau i'r teulu ar
ran y dioddefwr. Diolchodd hefyd i Swyddog Cyngor Abertawe, y Tîm Tai a'r Gwasanaethau Brys
am gefnogi'r gymuned. 2)
Cydymdeimladau, y Cynghorydd Hazel Morris Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Hazel
Morris. Dywedodd fod y Cynghorydd Morris wedi cynrychioli Ward Penderi am 15
mlynedd. Cafwyd munud o ddistawrwydd gan bawb a oedd yn bresennol i ddangos
cydymdeimlad a pharch. 3)
Porthladd Rhydd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot Croesawodd Arweinydd y Cyngor y cyhoeddiad bod Cyngor Castell-nedd Port
Talbot a Chyngor Sir Penfro, fel rhan o ddinas-ranbarth Bae Abertawe, wedi bod
yn llwyddiannus yn eu cais i gael porthladdoedd rhydd yn Aberdaugleddau a Phort
Talbot. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n
uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod
yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn
cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Craffu Cyn Penderfynu - Terfyn cyflymder diofyn o 20mya, gan gynnwys ystyried y broses eithriadau.(Llafur) Cofnodion: Darparodd y
Cynghorydd P M Black adborth cyn penderfynu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Terfyn cyflymder diofyn o 20mya, gan gynnwys ystyried y broses eithriadau. PDF 173 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun
Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn
Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn
Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn
amlinellu'r cynnig i wneud y terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol ar ffyrdd
cyfyngedig yn 20mya ac yn manylu ar y ffyrdd hynny a fydd yn cael eu heithrio
ac sy'n parhau ar gyflymder o 30mya. Mae'r adroddiad yn nodi'r broses
ymgynghori i'w dilyn ac yn gofyn am gadarnhad o'r ymagwedd a gymerwyd. Penderfynwyd: 1)
Nodi gofyniad gorfodol Llywodraeth Cymru i roi terfyn
cyflymder diofyn o 20mya ar waith yn Abertawe. 2)
Cymeradwyo'r ymagwedd y manylir arni yn yr adroddiad o
ran rhoi'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar waith yn Abertawe. 3) Rhoi awdurdod i Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd gymeradwyo'r eithriadau y cytunwyd arnynt gydag Aelodau Ward unigol gan arwain at hysbyseb gyhoeddus ffurfiol y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig priodol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 234 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi
gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff
llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau
canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet
dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 3 2022/23. PDF 168 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd
yn amlinellu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2022/2023. Penderfynwyd: 1)
Nodi perfformiad y cyngor o ran rheoli'r pandemig a'i ganlyniadau
a chyflawni amcanion lles y cyngor ar gyfer chwarter 3, 2022-23. 2)
Cymeradwyo defnyddio'r wybodaeth hon i lywio
penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n
berthnasol, gamau gweithredu cywirol i reoli a gwella perfformiad ac
effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Rhaglen Grant Cyfleusterau I'r Anabl A Grant Gwella 2023/24. PDF 264 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn darparu
manylion y Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'r Grant Gwella ac yn ceisio
cymeradwyaeth i gynnwys cynlluniau yn Rhaglen Gyfalaf 2023/24. Roedd hefyd yn
ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu ac
Arfarniadau Cyfalaf", i neilltuo ac awdurdodi rhaglenni i’r Rhaglen
Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'r
Grant Gwella fel y manylir yn yr adroddiad, gan gynnwys ei goblygiadau
ariannol, a chynnwys y Rhaglen yng nghyllideb gyfalaf 2023/24. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf 2023/24. PDF 263 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb
ar y cynlluniau i'w hariannu drwy'r Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Caiff y cynlluniau cynnal a chadw cyfalaf arfaethedig a
restrir yn Atodiad A i'r adroddiad eu cymeradwyo. 2)
Caiff y cynlluniau a'u goblygiadau ariannol fel a nodwyd
yn Atodiad C yr adroddiad eu hawdurdodi a'u cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Dyraniad Cyfalaf i Asedau Isadeiledd Priffyrdd 2023-24. PDF 259 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhau
Rhaglen Gwaith Cyfalaf ar gyfer asedau'r isadeiledd priffyrdd. Penderfynwyd: 1)
Caiff y dyraniadau dangosol arfaethedig, ynghyd â'r
Goblygiadau Ariannol a nodir yn Atodiad A yr adroddiad, eu cymeradwyo a'u
cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf. 2)
Rhoi awdurdod i Bennaeth Priffyrdd a Chludiant, gyda
chydsyniad Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, i
flaenoriaethu, cwblhau a chlustnodi arian i'r cynlluniau priodol yn unol â'r
ymagwedd flaenoriaethu a nodwyd yn yr adroddiad hwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cytundeb Compact y Trydydd Sector - Diweddariad. PDF 252 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Les adroddiad a oedd yn cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf
am Gytundeb Compact Trydydd Sector Abertawe a'r gwaith a welwyd hyd yma gan
Grŵp Cydgysylltu Compact a ffurfiwyd fel rhan o Gytundeb Compact Abertawe
a ddiweddarwyd gyda'r Sector Gwirfoddol yn 2018. Penderfynwyd: 1)
Y dylid nodi'r adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Strategaeth Toiledau Cyhoeddus Abertawe - Diwygiwyd 2023. PDF 244 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Gymunedau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar
gyfer Strategaeth Toiledau Cyhoeddus ddiwygiedig Abertawe. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo Strategaeth Toiledau Cyhoeddus ddiwygiedig
Abertawe. 2)
Cymeradwyo'r
camau gweithredu ar gyfer cyflawni yn y dyfodol fel y nodir ym mharagraff 3 yr
adroddiad a rhoi'r awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd ac Aelod y Cabinet dros
Gymunedau wneud unrhyw ddiwygiadau neu newidiadau i'r cynllun cyflawni. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Cartrefi Gwag Cenedlaethol 2023-2025. PDF 280 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn ceisio darparu
manylion cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ac yn gofyn
am gymeradwyaeth i gymryd rhan yn y cynllun gan gynnwys gofynion arian
cyfatebol a chynnwys y cynllun o fewn rhaglenni cyfalaf 2023/2024 a 2024/25 i
gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau
Cyfalaf" - i neilltuo ac awdurdodi cynlluniau i’r Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo cyfranogiad y cyngor yn y cynllun Grant
Cartrefi Gwag Cenedlaethol a chymeradwyo darparu'r gofynion arian cyfatebol. 2)
Cynnwys y cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol yn
rhaglenni cyfalaf 2023-24 a 2024-25. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad FPR7 - Grant Creu Lleoedd - Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. PDF 332 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn
ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac
Arfarniadau Cyfalaf" - i neilltuo ac awdurdodi rhaglenni i’r Rhaglen
Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Nodi bod y cais am grant a nodir yn yr adroddiad wedi'i
gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru fel rhan o rownd ymgeisio cyfalaf
2022/23-2024/25 ar gyfer Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. 2)
Cymeradwyo ychwanegu cyllid Rhaglen Grant Creu Lleoedd
Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru at y rhaglen gyfalaf er mwyn cefnogi'r
gwaith o gyflwyno'r cynlluniau a amlinellir ym mharagraff 2.2 yr adroddiad. 3)
Nodi bod cytundeb rhwng awdurdodau yn cael ei baratoi i
warchod sefyllfa'r cyngor fel Awdurdod Arweiniol wrth ddosbarthu'r cyllid a
dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni'r cynlluniau ar sail ranbarthol a
rhoi awdurdod i Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas mewn ymgynghoriad â'r
Prif Swyddog Cyfreithiol ymrwymo i'r cytundeb ar ran y cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Ardrethi Busnes - Cynllun Cymorth Ardrethi Dros Dro (Cymru) 2023/24. PDF 255 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Prif Swyddog Cyllid (Swyddog Adran 151) adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth
ac yn ceisio mabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a
Lletygarwch dros dro sy'n berthnasol i Ardrethi Busnes, a gyflwynwyd gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24. Penderfynwyd: 1)
Nodi manylion y cynllun y'u nodir yn yr adroddiad. 2)
Mabwysiadu'r
Cynllun Rhyddhad Ardrethi a amlinellir yn yr adroddiad ar gyfer 2023/24. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Eitem Frys Cofnodion: Nododd
Arweinydd y Cyngor, yn unol â pharagraff 100B (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972, ei fod yn meddwl y dylid trafod “Caffael
Canol Dinas Abertawe” yn y cyfarfod fel mater brys. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Gwahardd y Cyhoedd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn
yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Caffael Canol Dinas Abertawe Cofnodion: Rheswm dros y
mater brys: Mae angen
cwblhau'r caffaeliad o fewn y flwyddyn ariannol hon ac mae'n rhaid iddo
gydymffurfio â'r amodau y grant. Gweithdrefn Galw i Mewn -
Brys:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod
“naill ai Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig, y Swyddog Adran 151 neu'r Swyddog
Monitro'n ardystio y gallai unrhyw oedi sy'n debygol o gael ei achosi gan y
weithdrefn galw i mewn wneud niwed i'r cyngor neu fudd y cyhoedd, gan gynnwys
methu cydymffurfio â gofynion statudol". Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i gwblhau'r caffaeliad o fewn Canol Dinas Abertawe fel y manylir
yn yr adroddiad. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion
diwygiedig fel y manylwyd. Nodyn: Gohiriwyd y cyfarfod am 23 munud (11.27-11.50) yn ystod yr Eitem hon er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor Penodiadau gyfarfod fel y trefnwyd. |