Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

133.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr R Francis-Davies, L S Gibbard, D H Hopkins, E J King, A Pugh, R V Smith a A H Stevens gysylltiad personol â Chofnod 141 "Cyllideb Refeniw 2023/24".

 

2)              Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 146 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

134.

Cofnodion. pdf eicon PDF 243 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2023.

135.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

136.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnodd Alec Thraves (Cyngor Undebau Llafur Abertawe) gwestiynau mewn perthynas â Chofnod Rhif 141 “Cyllideb Refeniw 2023/24”.

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor.

137.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

138.

Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - Adroddiadau am y Gyllideb (llafar)

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd C A Holley adborth ar graffu cyn penderfynu mewn perthynas â'r adroddiadau am y gyllideb.

139.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 3ydd 2022/23. pdf eicon PDF 490 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar fonitro cyllidebau refeniw a chyfalaf 2022/2023 yn ariannol, gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau, gan gynnwys yr ansicrwydd materol fel a nodwyd yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r rhain.

 

2)              Cymeradwyo'r trosglwyddiadau a nodir ym mharagraff 2.7 o'r adroddiad a'r defnydd o'r gronfa wrth gefn fel a nodir ym mharagraff 3.2 o'r adroddiad yn amodol ar unrhyw gyngor pellach gan y Swyddog Adran 151 yn ystod y flwyddyn.

 

3)              Bydd y Cabinet yn atgyfnerthu'r angen i bob Cyfarwyddwr barhau i leihau gorwario ar wasanaethau yn ystod y flwyddyn, gan gydnabod mai dim ond drwy ddibynnu'n drwm ar ad-daliad tebygol (sydd ymhell o fod yn sicr), cyllidebau wrth gefn a chronfeydd wrth gefn a ddelir yn ganolog gan Lywodraeth Cymru y mae'r gyllideb gyffredinol yn cael ei chydbwyso ar hyn o bryd.

 

4)              Mae'r Cabinet yn cydnabod mai dim ond ceisio’n rhesymol i leihau gorwario y gellir ei wneud yn y flwyddyn bresennol, yn hytrach na'i ddileu, drwy gamau gweithredu adfer penodol gyda disgwyliad clir o ddewisiadau ailseilio 'anodd' i gyflawni cyllideb gytbwys ar gyfer rownd gyllideb 2023-24.

140.

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2024/25 - 2026/27. pdf eicon PDF 1003 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymeg a diben y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, yn manylu ar y prif dybiaethau ariannu ar gyfer y cyfnod ac yn cynnig strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2024-2025 hyd at 2026-2027 i'r cyngor fel sail ar gyfer cynllunio ariannol y gwasanaethau yn y dyfodol.

 

2)              Bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr Cyllid i wneud mân ddiwygiadau ôl-ddilynol yn ôl y gofyn.

141.

Cyllideb Refeniw 2023/24. pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2023-2024.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori ffurfiol a chytuno ar unrhyw newidiadau i'r Cynigion Cyllidebol yn Atodiad Ch yr adroddiad, ynghyd â'r sefyllfa o ran cyllidebau dirprwyedig fel y nodir yn Adrannau 4.15 a 4.17 yr adroddiad, yn amodol ar y Cynigion ar gyfer Arbedion canlynol sy'n dod i gyfanswm o £901,000 a amlinellwyd yn Atodiad Ch yr adroddiad yn cael eu gohirio, ar sail untro yn unig, am un flwyddyn ariannol ac i'w talu o gyllid wrth gefn:

 

Cyfarwyddwr

Pennaeth y Gwasanaeth Cyllideb

Disgrifiad

2023/24

£’000

Lleoedd

Gwasanaethau Diwylliannol

Rhoi cytundeb creu incwm ar waith yn Adain y Celfyddydau Theatr y Grand

*75

Lleoedd

Gwasanaethau Diwylliannol

Adolygu’r cytundeb contract gydag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

*100

Lleoedd

Gwasanaethau Diwylliannol

Adolygu'r cytundeb partneriaeth gyda Phwll Cenedlaethol Cymru

*100

Lleoedd

Priffyrdd a Thrafnidiaeth

Safoni prisiau mewn meysydd parcio nad ydynt yng nghanol y ddinas

*100

Lleoedd

Tai ac Iechyd y Cyhoedd

Datgomisiynu system monitro ansawdd aer Nowcaster

*28

Lleoedd

Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas

Adolygu Costau Rhent Marchnad Abertawe

*50

Lleoedd

Gwastraff, Parciau a Glanhau

Cael gwared ar 50% o'r cyllid ychwanegol ar gyfer adnodd brwsio mecanyddol pan fydd dail yn cwympo

*25

Lleoedd

Gwastraff, Parciau a Glanhau

Cael gwared ar gyllid ychwanegol ar gyfer biniau sbwriel newydd

*105

Lleoedd

Gwastraff, Parciau a Glanhau

Adolygu hyd a lled gweithrediadau glanhau

*150

Gwasanaethau Corfforaethol

Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a Deallusrwydd Busnes

Adolygu staff cefnogi’r adrannau Gwasanaethau Democrataidd a Craffu

*86

Gwasanaethau Corfforaethol

Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a Deallusrwydd Busnes

Adolygu'r Uned Gwybodaeth a Llywodraethu a'r Uned Gyfieithu

*75

 

Nodi'r diwygiadau yng nghyfarfod y cyngor ym mis Mawrth 2023 gyda seren yn erbyn y cynigion perthnasol i'w hariannu o'r gyllideb wrth gefn.

 

2)       Cynyddu’r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor o £250,000 i adlewyrchu'r newidiadau i Dreth y Cyngor.

 

3)       Gostwng ardoll y Cyd-bwyllgor Corfforedig o £3,000 fel y cynghorwyd gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig fel eu cyfrifiad terfynol.

 

4)       Ychwanegu £1,095,000 at y cyllid wrth gefn, i'w ddangos fel arian gostyngol net wedi'i dynnu o'r cyllid wrth gefn.

 

5)       Cynyddu Gofyniad y Gyllideb o'r ffigur net a amlinellir ym Mharagraffau 2, 3 a 4 yr adroddiad, neu £1,342,000.

 

6)       Ychwanegu £2,000 at braesept y Cyngor Cymuned a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad cau y cytunwyd arno ond a dderbynbiwyd fel praesept wedi'i amnewid gan y Swyddog Adran 151.

 

7)       Cynyddu Cyfanswm y Gofyniad gan swm yr uchod (Paragraffau 5 a 6 o'r adroddiad), neu £1,344,000.

 

8)       Ychwanegu £2,000 at Gyfanswm y Gofyniad Ariannu drwy godi praeseptau'r Cyngor Cymuned o'r swm hwnnw.

 

9)       Ychwanegu'r ffigur net uchod (Paragraffau 7 namyn 8 o'r adroddiad), neu £1,342,000 at Gyfanswm y Gofyniad Ariannu ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.

 

10)     Nodi cyfanswm y gofyniad ariannu presennol a grybwyllwyd yn Adran 4.6 yr adroddiad ac, yn unol â'r camau gweithredu posib a nodwyd yn Adrannau 9 a 10 yr adroddiad, gytuno ar gamau gweithredu i gyflawni Cyllideb Refeniw gytbwys ar gyfer 2023-2024 (fel y'i diwygiwyd uchod).

 

11)     Yn ogystal ag adolygu cynigion arbed presennol, gwnaeth y Cabinet y canlynol:

 

a)              Adolygu a chymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn a argymhellir yn yr adroddiad.

 

b)       Cytunwyd ar lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2023-2024 i'w hargymell i'r cyngor ar lefel wedi'i hamnewid o 5.95% yn lle 4.95%.

 

12)     Yn amodol ar y newidiadau a nodwyd ac a restrwyd uchod, mae'r Cabinet yn argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

a)       Cyllideb Refeniw ar gyfer 2023-2024.

 

b)       Gofyniad y gyllideb ac ardoll treth y cyngor ar gyfer 2023-2024.

142.

Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2022/23- 2027/28. pdf eicon PDF 294 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig cyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2022-2023 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/2024 - 2027/2028.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2022-2023 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2023-2024 – 2027-2028 fel y nodir yn Atodiadau A, B C, D, E, F a G yr adroddiad.

143.

Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - Cyllideb Refeniw 2023/24. pdf eicon PDF 428 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw ar gyfer 2023/2024 ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).

 

Penderfynwyd argymell y cynigion cyllidebol canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

1)       Cynigion y gyllideb refeniw fel a nodwyd yn Adran 4 yr adroddiad.

144.

Cyfrif Refeniw Tai - Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - 2026/27. pdf eicon PDF 844 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig cyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2022/2023 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/2024 - 2026-2027.

 

Penderfynwyd argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

1)         Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r cyllidebau diwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2022-2023.

 

2)         Cymeradwyo cynigion cyllidebol 2023-2024 – 2026-2027.

 

3)         Lle caiff cynlluniau unigol fel y'u dangosir yn Atodiad B eu rhaglennu dros y cyfnod 4 blynedd a ddisgrifir yn yr adroddiad, caiff y rhain eu dilyn a'u cymeradwyo, a chymeradwyir eu goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros y 4 blynedd.

145.

Adolygiad blynyddol o daliadau (gwasanaethau cymdeithasol) 2022/23. pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gofal adroddiad, sef yr adolygiad blynyddol diweddaraf o daliadau gwasanaethau cymdeithasol, gwelliannau a wnaed yn ystod y flwyddyn a rhestr arfaethedig o daliadau i'w cymhwyso yn 2023/2024.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Derbyn canfyddiadau'r adroddiad adolygiad blynyddol o daliadau.

 

2)              Yn amodol ar gymeradwyo Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2023/2024, bydd cynnydd chwyddiant o 10% yn cael ei gymhwyso i holl daliadau gwasanaethau cymdeithasol, i ddod i rym ar 1 Ebrill 2023.

 

3)              Yn amodol ar benderfyniad 2, cymeradwyo cyhoeddi'r rhestr o daliadau'r gwasanaethau cymdeithasol a fydd yn berthnasol o 1 Ebrill 2023, ar gyfer y flwyddyn 2023/2024.

 

4)              Bydd y Cabinet yn atgyfnerthu'r angen i bolisïau dyled y cyngor gael eu cymhwyso.

146.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gynradd Clydach

Morrison Frew

Sarah Hooke

2)

Ysgol Gynradd Danygraig

Alison Jones

3)

YGG Pontybrenin

Alun Millington

 

147.

Cynllun Cymorth Costau Byw - Cynllun Dewisol Ychwanegol. pdf eicon PDF 272 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth o'r pwerau disgresiwn ychwanegol sydd ar gael i'r awdurdod dan Gynllun Cymorth Costau Byw Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol i ddeiliaid tai yr ystyrir bod angen cymorth gyda chostau byw arnynt.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi manylion y cynllun gorfodol a nodir yn yr adroddiad, a'u bod eisoes wedi'u rhoi ar waith.

 

2)              Nodi manylion y pwerau disgresiwn sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Cymorth Costau Byw.

 

3)              Nodi manylion y cynllun dewisol presennol a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Cabinet ar 21 Ebrill 2022, ac sydd eisoes wedi'i roi ar waith.

 

4)              Bydd unrhyw drethdalwyr y nodwyd eu bod yn gymwys i gael taliad dan y cynllun dewisol presennol, ond nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer y taliad hwnnw fel sy'n ofynnol erbyn dydd Sul, 19 Chwefror, yn cael unrhyw symiau dewisol sy'n weddill y maent yn gymwys i'w cael yn uniongyrchol i'w cyfrif Treth y Cyngor.

 

5)              Cymeradwyo'r categorïau a'r symiau canlynol fel taliadau dewisol ychwanegol i'w talu dan y Cynllun Cymorth Cost-Byw:

 

a)              Telir £150 i gyfrif Treth y Cyngor trethdalwyr nad ydynt yn gymwys ar gyfer y prif gynllun Cynllun Cymorth Costau Byw a oedd, ar 15/2/2022, â hawl i ddiystyriad Treth y Cyngor a ddyfarnwyd mewn perthynas ag/â:

 

·                 Oedolyn â Nam Meddyliol Difrifol sy'n byw yn ei eiddo.

·                 Gofalwr ar gyfer oedolyn arall sy'n byw yn yr eiddo, ac nid yw'r oedolyn arall sy'n gofalu am yr eiddo yn bartner iddo.

 

b)              Telir £150 i gyfrif rhent tenantiaid y cyngor a gafodd eu heithrio o'r prif gynllun Costau Byw oherwydd bod ganddynt eithriad ‘Dosbarth N  - wedi'i feddiannu gan fyfyrwyr’ yn unig ar eu cyfrif Treth y Cyngor.

 

c)              Telir £150 i gyfrif rhent tenantiaid y cyngor sydd ag ôl-ddyledion rhent ac y nodwyd eu bod yn gymwys ar gyfer prif gynllun y Cynllun Cymorth Costau Byw ond nad oeddent wedi cofrestru ar gyfer y taliad cyn y dyddiad cau o 30 Medi 2022.

 

d)              Telir £55 i'r holl aelwydydd sy’n meddiannu annedd ddomestig ym Mand Treth y Cyngor E, nad oeddent yn gymwys ar gyfer taliad y prif gynllun Cymorth Costau Byw.

 

e)              Bydd uchafswm y taliad i un aelwyd o’r Cynllun Cymorth Costau Byw yn ei gyfanrwydd (gan gynnwys elfennau’r Prif Gynllun a’r Cynllun Dewisol) yn aros ar £300.

148.

Rhoi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar waith. pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth ac Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Strategaeth a Thwristiaeth adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i roi Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ar waith, a chymeradwyo amlinelliad Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a dull gweithredu gan gynnwys Abertawe fel Awdurdod Arweiniol ar gyfer rhanbarth De-Orllewin Cymru.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r gwaith o roi'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar waith fel yr amlinellir yn yr adroddiad, gydag Abertawe'n gweithredu fel Awdurdod Arweiniol dros dde-Orllewin Cymru.

 

2)              Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, y Cyfarwyddwr Cyllid a'r Prif Swyddog Cyfreithiol i gwblhau ac ymrwymo i unrhyw gytundebau priodol rhwng partneriaid awdurdodau lleol yn ôl yr angen i gyflawni'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

3)              Cymeradwyo cwmpas prosiectau Angori Cronfa Ffyniant Gyffredin Abertawe arfaethedig fel y nodir ym mharagraff 4.6 yr adroddiad.

 

4)              Dirprwyo awdurdod i Arweinydd y Cyngor mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet perthnasol, y Cyfarwyddwr Cyllid, y Cyfarwyddwr Lleoedd a Phennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas i gymeradwyo dyfarniadau grant allanol dros £25,000.

 

5)              Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a'r Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet perthnasol i gymeradwyo ceisiadau am grantiau allanol hyd at werth £25,000.

 

6)              Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet perthnasol i wneud penderfyniadau ar y prosiectau a gyflwynir yn fewnol yn y Cyngor e.e., mân addasiadau i brosiectau.

 

7)              Cyflwyno adroddiadau RhGA7 pellach i'r Cabinet yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor ar gyfer prosiectau cyfalaf ychwanegol sy'n deillio o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.