Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

94.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd R V Smith fudd personol a rhagfarnol â Chofnod 99 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

95.

Cofnodion. pdf eicon PDF 337 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2022.

96.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Setliad Llywodraeth Cymru

 

Dywedodd Arweinydd y cyngor fod y cyngor wedi derbyn setliad Llywodraeth Cymru. Croesawyd y setliad, gan ei fod yn ychwanegu at yr arian yr oeddem ni’n credu ei fod yn gyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag mae’r setliad yn sylweddol llai na’r hyn sydd ei angen o gofio’r pwysau a wynebir gan gynghorau a gwasanaethau lesdled Cymru. Mae’r pwysau ynni yng Nghymru, mewn Llywodraeth Leol yn unig, yn parhau i fod dros £200,000,000.

97.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

98.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

99.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu:

 

1)

Ysgol Gynradd Blaenymaes

Stephani Keys

2)

Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw

Helen McLaughlin

3)

Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt

Ruth McNamara

4)

Ysgol Gyfun Gŵyr

Phillip Morris

 

100.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2il 2022/23. pdf eicon PDF 485 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar fonitro cyllidebau refeniw a chyfalaf 2022/2023 yn ariannol, gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi’r sylwadau a'r amrywiadau, gan gynnwys yr ansicrwydd materol, a nodwyd yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r rhain.

 

2)              Cymeradwyo’r trosglwyddiadau a nodir ym mharagraff 2.7 o'r adroddiad a'r defnydd o'r gronfa wrth gefn fel a nodir ym mharagraff 3.2 o'r adroddiad yn amodol ar unrhyw gyngor pellach gan y Swyddog Adran 151 yn ystod y flwyddyn.

 

3)              Mae angen i bob Cyfarwyddwr barhau i leihau gwariant gwasanaethau yn ystod y flwyddyn, gan gydnabod bod y gyllideb yn gyffredinol yn cael ei chydbwyso ar hyn o bryd dim ond drwy ddibynnu ar ad-daliad tebygol yn y dyfodol (ond ymhell o fod yn gwbl sicr) gan Lywodraeth Cymru, cyllidebau wrth gefn a ddelir yn ganolog ac atgyfnerthu cronfeydd wrth gefn.

 

4)              Mae'r Cabinet yn cydnabod mai dim ond yn awr y gellir ceisio’n rhesymol i leihau gorwario yn y flwyddyn bresennol, yn hytrach na'i ddileu, drwy gamau gweithredu adfer penodol gyda disgwyliad clir o ddewisiadau ailseilio 'anodd' i gyflawni cyllideb gytbwys ar gyfer rownd gyllideb 2023-24.

 

5)              Mae'r gorwario dangosol yn adran 4.1 o'r adroddiad gyda chamau pellach i'w cadarnhau yn y chwarteri dilynol unwaith y bydd yn gliriach o ran y lefel ad-daliad COVID sy'n weddill, cost derfynol debygol y  dyfarniad cyflog llywodraeth leol a gaiff ei dalu yn y trydydd chwarter a'r ansicrwydd parhaus ynghylch dyfarniad cyflog yr athrawon.

101.

Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 2 2022/23. pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn darparu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2022/2023.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi perfformiad y cyngor o ran rheoli'r pandemig a'i ganlyniadau a chyflawni amcanion lles y cyngor ar gyfer chwarter 2, 2022-23.

 

2)              Cymeradwyo’r defnydd o'r wybodaeth hon i lywio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywirol i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

102.

Cyngor Abertawe - Sero-net 2030. pdf eicon PDF 920 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn ceisio sêl bendith ar gyfer cynllun cyflawni Cyngor Abertawe Sero Net 2030. Roedd yr adroddiad hefyd yn cydnabod y gwaith ar raglenni Adferiad Natur ac Abertawe Sero Net 2050.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo cynllun cyflawni Cyngor Abertawe Sero Net 2030 arfaethedig, sydd ynghlwm wrth Atodiad 1 yr adroddiad.

 

2)              Cydnabod y gwaith parhaus ar raglenni Adferiad Natur a Sero Net Abertawe 2050, y bydd angen cyflwyno adroddiadau ar wahân i'r Cabinet amdanynt yn y dyfodol.

103.

Adroddiad Monitro Dyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 Cyngor Abertawe i Lywodraeth Cymru mis Rhagfyr 2022. pdf eicon PDF 252 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Adroddiad Monitro Adran 6  Dyletswydd Bioamrywiaeth Deddf yr Amgylchedd (Cymru) y cyngor ar gyfer y cyfnod o Ionawr 2020 i Ragfyr 2022 cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo a chyhoeddi’r adroddiad a’i anfon ymlaen at Lywodraeth Cymru.

104.

Diweddariad ar Gydymffurfio Statudol ym Mhortffolio Gweithredol y Cyngor. pdf eicon PDF 549 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn rhoi’r diweddaraf am gynnydd ar ôl mabwysiadu'r Strategaeth Cydymffurfio Statudol ar gyfer adeiladau dan reolaeth Cyngor Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi’r cynnydd a'r camau gweithredu.

105.

Awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf I Roi Cyllid I Gefnogi Cyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim I Bawb Mewn Ysgolion Cynradd. pdf eicon PDF 354 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf" i neilltuo ac awdurdodi ail ddyfarniad grant cyfalaf, swm o £2,526,996, ar gyfer uwchraddio isadeiledd prydau ysgol, yn y rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo’r ail ddyfarniad grant cyfalaf ar gyfer uwchraddio isadeiledd prydau ysgol, swm o £2,526,996, a fydd yn arwain at neilltuo cyfanswm o £4,331,993, a'i gynnwys yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2022-2023.

106.

Awdurdodiad ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf i neilltuo'r cyllid grant cyfalaf a ddyfarnwyd i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. pdf eicon PDF 290 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i neilltuo ac awdurdodi cynlluniau i'r Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo’r cynllun cyfalaf, swm o £1,443,998 i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, a'i gynnwys yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2022-2023.

107.

Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Dyraniad Cyfalaf Ychwanegol i Raglen Waith Priffyrdd 2022-23. pdf eicon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn cadarnhau Dyraniad Cyfalaf Ychwanegol y Rhaglen Waith Priffyrdd 2022-2023 ac i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol i neilltuo a chymeradwyo cynlluniau.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cynnwys y dyraniad ychwanegol o £1 filiwn ar gyfer Cynnal a Chadw Priffyrdd yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2022-2023.

 

2)              Cynnwys y dyraniad ychwanegol o £2 filiwn ar gyfer Cynnal a Chadw Priffyrdd y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2023-2024.

 

3)              Cynnwys y dyraniad ychwanegol o £2 filiwn ar gyfer Cynnal a Chadw Priffyrdd yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2024-2025.

 

4)              Rhoi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Priffyrdd a Chludiant, gyda chydsyniad Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, i flaenoriaethu, cwblhau a chlustnodi arian i'r cynlluniau priodol yn unol â'r ymagwedd flaenoriaethu a nodwyd yn yr adroddiad hwn.