Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

79.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 84 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

 

2)              Datganodd y Cynghorydd H J Gwilliam ac A Pugh gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 84 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdodau Lleol" a gadawsant y cyfarfod cyn ei ystyried.

 

3)              Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, D H Hopkins, A S Lewis a R C Stewart gysylltiad personol â Chofnod 88 “Gwaredu Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden dan y Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol”.

 

4)              Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol personol a rhagfarnol â Chofnod 91 “Cymorth Ariannol i Bartneriathau Hamdden 2022/2023 – Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe” a gadawodd y cyfarfod cym ei ystyried.

 

 

 

80.

Cofnodion. pdf eicon PDF 426 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2022.

81.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

a)              Y Gyllideb

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y Gyllideb a oedd wedi’i threfnu ar gyfer yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Amlinellodd y sefyllfa ariannol fregus sy'n wynebu Llywodraeth Leol.

82.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

83.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

84.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu:

 

1)

Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt

Lisa Boat

2)

Ysgol Gynradd Cwmglas

Jonathan Hughes

3)

Ysgol Gynradd Danygraig

Y Cyng. Hayley Gwilliam

4)

Ysgol Gynradd y Glais

Y Cyng. Alyson Pugh

David Tyler

5)

Ysgol Gynradd Gorseinon

Caroline Pierlejewska

6)

Ysgol Gynradd Tre-gŵyr

Lyndon Mably

Y Cyng. Susan Jones

7)

Ysgol Gynradd Llangyfelach

Keith Brown

8)

Ysgol Gynradd Parkland

Stephen Gallagher

9)

Ysgol Gynradd Pentrechwyth

John Winchester

10)

Ysgol Gynradd Pontlliw

Y Cynghorydd Victoria Holland

11)

Ysgol Gynradd Gatholig San Joseph (Clydach)

Lucy Thomas

12)

Ysgol Gynradd Heol y Teras

Y Cyng. Fiona Gordon

13)

Ysgol Gynradd y Trallwn

Y Cyng. Penny Matthews

14)

Ysgol Gyfun yr Esgob Gore

Julia Pridmore

15)

Ysgol Gyfun Cefn Hengoed

Theresa Ogbekhiulu

16)

Ysgol Gyfun Treforys

Alison Harding

17)

Ysgol Gyfun Pentrehafod

Y Cyng. Chris Holley

18)

Ysgol Gynradd Seaview

Craig Wade

19)

Ysgol Gyfun Gŵyr

Dr Adrian Morgan

20)

Pwyllgor Rheoli'r Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD)

Debra Treharne

 

85.

Strategaeth Digidol 2022-26. pdf eicon PDF 351 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer Strategaeth Digidol newydd 2022-2027.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Strategaeth Digidol ddrafft 2022-2027 sydd ynghlwm wrth Atodiad A yr adroddiad ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

 

2)              Caiff adroddiad pellach ei gyflwyno i'r Cabinet yn dilyn y broses ymgynghori.

86.

Adolygiad o Strategaeth Trawsnewid a Nodau Cyngor Abertawe. pdf eicon PDF 545 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn adolygu Strategaeth Trawsnewid a nodau'r cyngor ac yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Gweledigaeth a Nodau Trawsnewid y cyngor ar gyfer 2022-2027.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r weledigaeth drawsnewid, y nodau a'r trefniadau llywodraethu fel y nodir yn Adrannau 4 a 5 o'r adroddiad.

 

2)              Cyflwynir adroddiad pellach i'r Cabinet ym mis Mawrth 2023 gan ofyn am gefnogaeth ar gyfer Cynllun Trawsnewid manwl ar gyfer 2023-2027.

87.

Adolygiad Cydraddoldeb Blynyddol 2021/22. pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant a Chydraddoldeb adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i gyhoeddi Adolygiad Cydraddoldeb Blynyddol y cyngor ar gyfer 2021/22 yn unol â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a'r rheoliadau adrodd ar gyfer Cymru

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo cynnwys Adolygiad Cydraddoldeb 2021/2022 yn i'w gyhoeddi.

88.

Gwaredu Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden dan y Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol. pdf eicon PDF 272 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyo mewn egwyddor drosglwyddo asedau cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden, gan gynnwys unrhyw dir hamdden ac adeiladau cysylltiedig, i sefydliadau cymunedol, clybiau a chymdeithasau yn unol â Pholisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol y cyngor, am bris llai na'r gorau er mwyn galluogi buddsoddiad, gwelliant a chynaliadwyedd tymor hir.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo mewn egwyddor y trosglwyddiadau arfaethedig o'r lleiniau a restrir yn Adran 2.4 (Tabl 1) yr adroddiad.

 

2)              Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd gymeradwyo prydlesi o hyd at uchafswm o 125 mlynedd mewn perthynas â'r lleiniau a restrir yn Adran 2.4 (Tabl 1) yr adroddiad i'r lesddalwyr arfaethedig am y rhesymau arfaethedig fel y nodir yn y tabl, ar yr amod bod Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo wedi ystyried pob un o'r trosglwyddiadau arfaethedig dan Reolau Gweithdrefnau Gwerthu a Phrynu Tir y cyngor a'i fod yn argymell cymeradwyo pob trosglwyddiad. Cymeradwyo'r prydlesi am bris llai na'r gorau yn unol â Pholisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol y cyngor

 

3)              Dirprwyo awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Eiddo drafod a phenderfynu ar delerau'r brydles arfaethedig (ac unrhyw Weithredoedd Amrywio angenrheidiol wedi hynny) a dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol gwblhau'r ddogfennaeth gyfreithiol ar ran y cyngor.

89.

Cronfa Adfywio Cymunedol. pdf eicon PDF 259 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn amlinellu canlyniad llwyddiannus cais am grant gan y cyngor i Gronfa Adfywio Cymunedol y DU am y swm o £2,471,029 mewn grant refeniw ar gyfer y cyfnod mis Tachwedd 2021 i Ragfyr 2022. I gydymffurfio â Rheol Rhif 5 y Weithdrefn Ariannol Rhif (Rheoli Cyllidebol) - i fonitro a rheoli cyllidebau refeniw yn effeithiol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r cais am grant fel y nodwyd ynghyd â'r goblygiadau ariannol sydd wedi eu cyflwyno a'u cymeradwyo gan Lywodraeth y DU. Cymeradwyo derbyn Llythyr Dyfarnu Grant y Gronfa Adfywio Cymunedol sef grant refeniw ar gyfer Tachwedd 2021 – Rhagfyr 2022 am £2,471,029.

90.

Cymorth Ariannol i Bartneriaethau Hamdden 22/23 - Freedom Leisure. pdf eicon PDF 287 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y lefelau cymorth ariannol yr oedd eu hangen ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23 ar gyfer ein partneriaeth hamdden (Freedom Leisure) oherwydd colledion a chynllun adfer ariannol yn ymwneud â phandemig COVID-19.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ac yn hysbysu'r Cabinet am gynnydd mewn costau ynni presennol ac yn y dyfodol a'r opsiwn o fuddsoddiadau gwario i arbed i liniaru costau cynyddol ar draws y contract Freedom Leisure.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo estyniad i ryddhad ariannol Freedom Leisure tan 31 Mawrth 2023 i gynnwys y cyngor yn gwarantu diffyg gweithredol o hyd at £800,000, yn ogystal â thalu'r ffi reoli fisol gontractiol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/2023, gyda'r holl daliadau rhyddhad i'w cysoni dan ymagwedd agored.

 

2)              Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd gytuno ar unrhyw newidiadau i fanyleb gwasanaeth, yr amodau a thelerau sydd ynghlwm wrth unrhyw gynnig o warantu neu fesurau cymorth eraill gan gynnwys awdurdod i amrywio lefel a chyfnod y rhyddhad ariannol ar yr amod bod cyfanswm yr holl amrywiadau o'r fath o fewn cwmpas y cymeradwyaeth cyllideb ar gyfer rhyddhad ariannol yn argymhelliad 1.

 

3)              Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol i ddechrau unrhyw ddogfennaeth sy'n ofynnol i roi unrhyw un o’r argymhellion sydd yn yr adroddiad hwn ar waith ac i ddiogelu buddiannau'r cyngor.

91.

Cymorth Ariannol i Bartneriaethau Hamdden 22/23 - Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe. pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y lefelau cymorth ariannol yr oedd eu hangen ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23 ar gyfer ein partneriaeth hamdden (Pwll Cenedlaethol Cymru) oherwydd colledion a chynllun adfer ariannol yn ymwneud â phandemig COVID-19.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo estyniad i ryddhad ariannol Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe (PCCA) i gynnwys y cyngor yn gwarantu diffyg ychwanegol o hyd at £200,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/2023.

 

2)              Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd gytuno ar unrhyw newidiadau i fanyleb gwasanaeth, yr amodau a thelerau sydd ynghlwm wrth unrhyw gynnig o warantu neu fesurau cymorth eraill gan gynnwys awdurdod i amrywio lefel a chyfnod y rhyddhad ariannol ar yr amod bod cyfanswm yr holl amrywiadau o'r fath o fewn cwmpas y cymeradwyaeth cyllideb ar gyfer rhyddhad ariannol yn argymhelliad 1.

 

3)              Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol ddechrau unrhyw ddogfennaeth sy'n ofynnol i roi unrhyw un o’r argymhellion sydd yn yr adroddiad hwn ar waith ac i ddiogelu buddiannau'r cyngor.

92.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

93.

Cymorth Ariannol i Bartneriaethau Hamdden 22/23 - Freedom Leisure.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y lefelau cymorth ariannol yr oedd eu hangen ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23 ar gyfer ein partneriaeth hamdden (Freedom Leisure) oherwydd colledion a chynllun adfer ariannol yn ymwneud â phandemig COVID-19. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ac yn hysbysu'r Cabinet am gynnydd mewn costau ynni presennol ac yn y dyfodol a'r opsiwn o fuddsoddiadau gwario i arbed i liniaru costau cynyddol ar draws y contract Freedom Leisure.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.