Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr L S Gibbard a A
Pugh gysylltiad personol â Chofnod 68 " Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol". 2)
Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 68 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor
Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â
phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. 3)
Datganodd y Cynghorydd D H Hopkins gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 68 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a gadawodd y cyfarfod cyn ei
ystyried. 4)
Datganodd y Cynghorydd E J King gysylltiad personol â
Chofnod 73 "Strategaeth y Gweithlu 2022-2027". |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a
restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cabinet a gynhaliwyd ar 8 Medi 2022. 2)
Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Medi 2022. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: a)
Addasiad Cyllidol/Cyllideb
Fach Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at yr Addasiad Cyllidol/y Gyllideb Fach
ddiweddar gan ddweud ei fod wedi effeithio'n sylweddol ar werth y Bunt (£) yn
erbyn Doler yr UD ($). Mae hyn yn ei dro wedi cynyddu'r pwysau ar fil ynni'r
cyngor. Galwodd ar y rheini â dylanwad i lobïo Llywodraeth y DU i ymestyn y cap
Ynni tu hwnt i 1 Mawrth 2023. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael
eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd
amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda
ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adborth Craffu Cyn Penderfyniad - Diweddariad ar Fuddsoddiad Prosiect Oracle. (llafur) Cofnodion: Darparodd y Cynghorydd P M Black Adborth Craffu Cyn Penderfynu ar Fuddsoddiad Prosiect Oracle. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Diweddariad ar Fuddsoddiad Prosiect Oracle.* PDF 430 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gweithdrefn
Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw
i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn
Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth ac Aelod y Cabinet dros
Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad ar y cyd a oedd yn rhoi’r diweddaraf ar brosiect
Oracle Fusion ac roedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer buddsoddiad
ychwanegol yn y prosiect i dalu costau anochel sy'n gysylltiedig â'r pandemig
a'r broses o adfer ohono. Penderfynwyd cymeradwyo'r cynllun a'r amserlen
ddiwygiedig ar gyfer rhoi prosiect Oracle ar waith ynghyd â buddsoddiad pellach
fel yr amlinellir ym Mharagraff 4.1 yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 239 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi
gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff
llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau
canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet
dros Addysg a Dysgu:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Deilliannau Arolwg Estyn ar gyfer Llywodraeth Leol Gwasanaethau Addysg yn Abertawe. PDF 239 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn darparu canlyniadau Arolygiad
Estyn o Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol yn Abertawe 2022. Penderfynwyd nodi canfyddiadau Arolygiad Estyn 2022. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 1 2022/23. PDF 162 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn darparu'r
Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2022/2023. Penderfynwyd: 1)
Nodi
perfformiad y cyngor o ran rheoli'r pandemig a'i ganlyniadau a chyflawni
amcanion lles y cyngor ar gyfer chwarter 1, 2022-23. 2)
Cymeradwyo
defnyddio'r wybodaeth hon i lywio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â
dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywirol i reoli a
gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a
chenedlaethol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig arfaethedig i adnewyddu/estyn prydles Theatr Dylan Thomas. PDF 262 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Ddiwylliant a Chydraddoldeb ac Aelod y Cabinet dros y Gwasanaeth
Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad ar y cyd a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth
ar gyfer rhoi prydles newydd yr adeilad a elwir yn Theatr Dylan Thomas
(Gloucester Place, Ardal Forol, Abertawe SA1 1TY) i Swansea Little Theatre. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
cynnig i estyn a sicrhau daliadaeth Swansea Little Theatre drwy ddyfarnu
prydles 125 o flynyddoedd i gefnogi defnydd arfaethedig o'r lleoliad drwy ei
ddyfarnu am rhent rhad. 2)
Rhoi
awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Eiddo gyd-drafod a setlo telerau'r brydles
arfaethedig ac awdurdodi'r Prif Swyddog Cyfreithiol i gwblhau'r dogfennau
cyfreithiol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Strategaeth Biniau Sbwriel. PDF 236 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gymunedau adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y
Strategaeth Biniau Sbwriel. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
Strategaeth biniau sbwriel Abertawe fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Strategaeth y Gweithlu 2022-2027. PDF 160 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wasanaeth Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn gofyn
am gymeradwyaeth ar gyfer Strategaeth y Gweithlu 2022-2027. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
Strategaeth y Gweithlu arfaethedig ar gyfer 2022-2027 a'r Cynllun Gweithredu
cysylltiedig. 2)
Rhoddir
asesiad o'r cynnydd i'r Cabinet ym mis Hydref 2023. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Model Gweithio Ôl-bandemig. PDF 375 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wasanaeth Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn gofyn
am gymeradwyaeth ar gyfer yr egwyddorion a fydd yn sail i fodel gweithio ar ôl
y pandemig y cyngor, ac sy'n ystyried gofynion gweithredol, disgwyliadau
cwsmeriaid ac anghenion y gweithlu. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
egwyddorion arfaethedig ar gyfer gweithio ar ôl y pandemig a nodir ym
Mharagraff 3.4 yr adroddiad. 2)
Rhoi
cyfrifoldeb i'r Prif Weithredwr am roi'r egwyddorion ar waith ym mhob
gwasanaeth. 3)
Cyflwyno
adroddiad i'r Cabinet ym mis Hydref 2023 ar effeithiolrwydd yr egwyddorion ar
berfformiad gweithredol, disgwyliadau cwsmeriaid ac anghenion y gweithlu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Achos Busnes Campysau Gwyddorau Bywyd, Lles a Chwaraeon. PDF 243 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd y Cyngor) adroddiad
a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y cytundebau ariannu diweddaredig a
phroffil ariannol prosiect Gwyddorau Bywyd Bargen Ddinesig, Lles, a Champysau
Chwaraeon Bae Abertawe. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
prif egwyddorion y cytundebau cyllid diwygiedig fel y nodir ym Mharagraffau 4.2
i 4.4 yr adroddiad rhwng y cyngor a'r Corff Atebol, a'r cyngor a Phrifysgol
Abertawe. 2)
Rhoi'r
awdurdod i'r Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Cyllid a'r Prif Swyddog
Cyfreithiol/Swyddog Monitro gwblhau telerau'r cytundebau ariannu ac ymrwymo i'r
un peth ar ran y cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Aelod Cabinet Ymchwiliad Craffu Caffael Ymateb a Chynllun Gweithredu PDF 353 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu
ymateb i'r argymhellion craffu ac yn cyflwyno cynllun gweithredu ar gyfer cael
cytundeb. Penderfynwyd: 1)
Cytuno
ar yr ymatebion a amlinellwyd yn yr adroddiad a'r cynllun gweithredu
cysylltiedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i neilltuo
£464,722 i'r rhaglen gyfalaf ar gyfer y cynllun i ailfodelu ardal llawr caled a
gosod cyfleuster arwyneb 2G pob tywydd ar y tir presennol yn Ysgol Gyfun
Pontarddulais. Roedd yr arian yn cynnwys: Ø
£200,000
gan Gyngor Abertawe. Ø
£30,000
gan Gronfa Chwarae Cyngor Abertawe. Ø
£15,000
gan Gronfa Gyfalaf Aelodau Cyngor Abertawe. Ø
£9,000
gan Gyllideb Gymunedol Aelodau Ward. Ø
£210,722
o gyllid Ysgolion Bro. Roedd yr
adroddiad hefyd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol – neilltuo ac awdurdodi prosiect newydd i'r
Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Bydd
cyfanswm o £464,722 (gan gynnwys y £254,000 a gymeradwywyd yn flaenorol) yn
cael ei neilltuo i'r rhaglen gyfalaf er mwyn ailfodelu ardal chwarae arwyneb
caled (hen gyrtiau tennis) a gosod arwyneb 2G pob tywydd 2G yn Ysgol Gyfun
Pontarddulais. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyllideb flynyddol gyntaf i'r Consortiwm Addysg Rhanbarthol 2022-2023. PDF 373 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer
y gyllideb flynyddol gyntaf (2022-2023) ar gyfer Consortiwm Addysg Ranbarthol
Partneriaeth, gan gynnwys cyfraniadau pob cyngor ac yn gofyn i'r Cabinet nodi'r
rhagdybiaethau a'r amcangyfrifon a wnaed wrth lunio'r gyllideb ar gyfer
2022-2023. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
gyllideb flynyddol gyntaf (2022-2023) ar gyfer y Consortiwm Addysg Ranbarthol,
Partneriaeth, fel y nodir ym Mharagraff 3 yr adroddiad. |