Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)            Datganodd y Cynghorwyr L S Gibbard ac A Pugh gysylltiad personol â Chofnod 16 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol".

 

2)            Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 16 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

11.

Cofnodion. pdf eicon PDF 231 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)           Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2022.

12.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

13.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

14.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

15.

Cefnogi'r Heriau i Ddysgwyr Wrth Adfer o'r Pandemig. pdf eicon PDF 330 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau/Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol adroddiad a oedd yn ystyried goblygiadau adferiad o bandemig COVID-19 i ddysgwyr yn ysgolion Abertawe.

 

Penderfynwyd y bydd:

 

1)        Cyngor Abertawe a'r holl bartneriaid allweddol yn archwilio sut rydym yn deall Abertawe a'i chymdogaethau.

 

2)        Cyngor Abertawe yn mapio asedau cymunedol ac ymgysylltu â'r gymuned ar gyfer holl ysgolion Abertawe.

 

3)        Cyngor Abertawe yn adolygu'r defnydd o Brydau Ysgol Am Ddim fel dangosydd diamddiffynnedd.

 

4)        Y cyngor yn ystyried pa mor dda y mae ysgolion yn ymgysylltu â rhieni a chymunedau'n bersonol, trwy gyfryngau cymdeithasol, yn ffurfiol ac yn anffurfiol.

 

5)        Y cyngor yn ystyried sut y gall athroniaeth yn ysgolion a chymunedau Abertawe wella cyfathrebu a lles.

 

6)        Y cyngor yn archwilio'r syniad o Gyngor Abertawe yn dod yn gyngor sy'n wybodus ynghylch Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod.

 

7)        Y cyngor yn ystyried datblygu cyfleusterau ar y safle i gynyddu cyfleoedd galwedigaethol mewn ysgolion, lle bo angen, a pharhau i ddatblygu cyfleoedd galwedigaethol ar gyfer pob dysgwr y mae'n well ganddynt y llwybr hwn.

 

8)        Y cyngor yn mapio Hyrwyddwyr Dysgu presennol i ysbrydoli dysgwyr ac i geisio cefnogaeth gan y ddwy brifysgol i symud Hyrwyddwyr Dysgu yn eu blaen fel dysgwyr Abertawe.

 

9)        Y cyngor yn darparu cerdyn llyfrgell i bob disgybl yn Abertawe, gan hyrwyddo cyfleusterau hamdden/chwaraeon i ysgolion a chymunedau yn ogystal â dysgu awyr agored fel rhan o gwricwlwm yr ysgol.

 

10)      Y cyngor yn cyhoeddi ei strategaeth lleihau gwaharddiadau.

16.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Dysgu fod yr argymhelliad wedi’i ddiwygio i ddileu’r cyfeiriad at Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu:

 

1)

Ysgol Gyfun yr Esgob Gore

Y Cynghorydd Cheryl Philpott

2)

Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt

Melinda Canning

3)

Ysgol Gynradd Brynmill

Ceri Powe

Mary Sherwood

4)

Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw

Barbara Miller

5)

Ysgol Gynradd y Glais

Y Cynghorydd Matthew Jones

6)

Ysgol Gynradd Penlle'r-gaer

Faith McCready

7)

Ysgol Gynradd y Garreg Wen

Gareth Ford

 

17.

Awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Grant Cyfalaf Dechrau'n Deg 2022/23. pdf eicon PDF 528 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn amlinellu'r cynnig cyfalaf a oedd yn gynwysedig ym mynegiant o ddiddordeb y cyllid cyfalaf a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Rhaglen Dechrau'n Deg 2022-23 (sydd wedi'i drin gan Lywodraeth Cymru fel cynnig ac a gymeradwywyd wedi hynny) ac i ymrwymo'r cynllun i'r rhaglen gyfalaf yn unol â rheolau gweithdrefnau FPR7 y cyngor.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Nodi'r mynegiant o ddiddordeb grant fel y nodir, ynghyd â goblygiadau ariannol sydd wedi'u cyflwyno a'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru fel rhan o rownd ymgeisio cyfalaf 2022-23 ar gyfer darpariaeth Dechrau'n Deg.

 

2)            Bod y cynlluniau a gymeradwywyd yn cael eu hystyried "yn y rownd" yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad hwn. Os cymeradwyir y cynlluniau, dylid eu neilltuo i'r rhaglen gyfalaf yn unol â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol.

18.

Fframwaith Llywodraethu Bwrdd Cynllunio Ardal Bae'r Gorllewin. pdf eicon PDF 166 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Les adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo fframwaith Llywodraethu Bwrdd Cynllunio Ardal Bae'r Gorllewin ac yn ceisio cymeradwyaeth i ymrwymo i gytundeb Llywodraethu Ariannol a Rhannu Risgiau gyda'r awdurdodau cyfrifol i'r Bwrdd Cynllunio Ardal.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Cymeradwyo Fframwaith Llywodraethu Bwrdd Cynllunio Ardal Bae'r Gorllewin.

 

2)           Cymeradwyo ymrwymo i gytundeb Llywodraethu Ariannol a Rhannu Risgiau gyda'r awdurdodau cyfrifol i'r Bwrdd Cynllunio Ardal.

19.

Monitro Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2021/22. pdf eicon PDF 418 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer 2021-2022.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)           Caiff canlyniadau perfformiad 2021-22 eu cymeradwyo a'u defnyddio i lywio penderfyniadau gweithredol ar ddyrannu adnoddau a, lle y bo'n berthnasol, dylid cymeradwyo camau unioni i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

20.

Alldro Refeniw 2021/22 - Cyfrif Refeniw Tai (CRT). pdf eicon PDF 333 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn manylu ar alldro Cyfrif Refeniw Tai (CRT) Dinas a Sir Abertawe o'i gymharu â'r gyllideb refeniw gymeradwy ar gyfer 2021-22.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad, a chymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn arfaethedig gwerth £1.005 miliwn y manylwyd arnynt yn Adran 2.1 yr adroddiad.

21.

Alldro a Chyllido Cyfalaf 2021/22. pdf eicon PDF 478 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn manylu ar yr alldro cyfalaf a'r arian ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)           Cario tanwariant net y gyllideb gyfalaf gynyddol gwerth £51.922m ymlaen i 2022-23.

22.

Alldro Refeniw ac Olrhain Arbedion 2021/22. pdf eicon PDF 389 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnwys manylion yr alldro refeniw ar gyfer 2021-22.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad, a chymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn arfaethedig gwerth £1.005 miliwn y manylwyd arnynt yn Adran 7.3 a 7.4 yr adroddiad.

23.

Gofynion ariannu ychwanegol ar gyfer prosiect ailfodelu ac ailwampio yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt pdf eicon PDF 334 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i neilltuo ac awdurdodi cynlluniau i'r Rhaglen Gyfalaf ac i ychwanegu gofynion ariannol ychwanegol i ailfodelu ac adnewyddu Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt. Ceisiodd yr adroddiad hefyd awdurdod i neilltuo cyfanswm diwygiedig o £15,163,914 i'r Rhaglen Gyfalaf i ariannu costau'r cam adeiladu. 

 

Penderfynwyd:

 

1)           Cymeradwyo'r cynllun cyfalaf diwygiedig fel y nodir yn yr adroddiad ynghyd â'r goblygiadau ariannol yn unol â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol.

24.

Awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf I Roi Cyllid I Gefnogi Cyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim I Bawb Mewn Ysgolion Cynradd pdf eicon PDF 354 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio  cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i neilltuo ac awdurdodi cynlluniau i'r Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Cymeradwyo cynllun cyfalaf gwerth £1,804,997, fel y nodir yn yr adroddiad ynghyd â'r goblygiadau ariannol, a'i gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf 2022-23.

25.

Awdurdodiad Y Rhaglen Gyfalaf Ar Gyfer Neilltuo Cyllid Grant Cyfalaf A Ddyfarnwyd Ar Gyfer Ysgolion Bro. pdf eicon PDF 269 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i neilltuo ac awdurdodi cynlluniau i'r Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Cymeradwyo’r cynllun cyfalaf gwerth £1,443,998 i gefnogi prosiectau ymarferol bach a chanolig i agor ysgolion yn ddiogel ac yn effeithiol i'r gymuned y tu allan i oriau traddodiadol, a'i gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf 2022-23.

26.

Perfformiad y Gronfa Adferiad Economaidd (CAE) 21-22. pdf eicon PDF 302 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn darparu crynodeb o effaith y Gronfa Cadernid Economaidd ar gyfer y cyfnod 2021-22. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhannu cyfleoedd a nodwyd fel rhan o welliant parhaus ac yn ceisio cytundeb ar gyfer y blaenoriaethau newydd a buddsoddiadau'r Gronfa Cadernid Economaidd ar gyfer 2022-23.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Y bydd y Gronfa Cadernid Economaidd yn parhau i fod wedi’i hatal nes clywir yn wahanol ac ni fydd ceisiadau newydd yn cael eu hystyried ar ôl 26 Mai 2022.

 

2)            Dirprwyo penderfyniadau bwrdd y Gronfa Cadernid Economaidd i Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Cyllid/Swyddog Adran 151 ac Aelod(au) y Cabinet sy'n Noddi.

 

3)           Prosesu pob cais ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd a dderbyniwyd hyd at 26 Mai 2022.

 

4)            Cytuno ar flaenoriaethau newydd a buddsoddiadau'r Gronfa Cadernid Economaidd ar gyfer 2022-23 gan roi ystyriaeth i'r Ymrwymiadau Polisi a gymeradwywyd gan y cyngor ar 7 Gorffennaf 2022.

27.

Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2022. pdf eicon PDF 343 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer canfyddiadau’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2022. Mae'r asesiad yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i 'sicrhau cyfleoedd chwarae digonol cyhyd ag y bo'n rhesymol ymarferol', felly mae'n ymwneud â chydymffurfio â chyfrifoldeb statudol.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Cymeradwyo'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae sydd wedi'i atodi yn Atodiad A yr adroddiad.

 

2)            Cefnogi'r Camau Gweithredu a nodwyd yn Adran 4 yr adroddiad i ddatblygu Cynllun Gweithredu i fynd i'r afael â’r meysydd i'w datblygu a nodwyd yn yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.

28.

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2032. pdf eicon PDF 256 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio mabwysiadu’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESP) 2022-2032 terfynol yn dilyn y newidiadau a wnaed mewn ymateb i'r sylwadau Gweinidogol. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio caniatâd i gyflwyno’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032 terfynol i Lywodraeth Cymru a’i roi ar waith o fis Medi 2022.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Cymeradwyo rhoi’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032 terfynol ar waith ym mis Medi 2022 yn amodol ar gymeradwyo’r cynllun yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru.

 

2)            Cymeradwyo rhoi dirprwyaeth i Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu ar y cyd â'r Cyfarwyddwr Addysg wneud unrhyw fân ddiwygiadau i'r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg os oes angen.

29.

Gosod cae 3G yn Ysgol Gyfun yr Olchfa. pdf eicon PDF 319 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol i neilltuo gwerth £1.255 miliwn i'r Rhaglen Gyfalaf i ganiatáu ar gyfer gosod arwyneb gemau artiffisial (3G) a ffens derfyn newydd yn Ysgol Gyfun yr Olchfa.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Neilltuo gwerth £1.255 miliwn i’r rhaglen gyfalaf ar gyfer gosod maes pob tywydd a ffens derfyn newydd, i’w hariannu o’r elw o werthu tir yn Ysgol Gyfun yr Olchfa fel y cytunwyd yng nghyfarfod y Cabinet ar 15 Mawrth 2018, yn amodol ar gwblhau gwerthu'r tir a derbyn taliad o 50% o'r pris prynu gan y prynwr.

30.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

31.

Gosod cae 3G yn Ysgol Gyfun yr Olchfa.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad gwybodaeth a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol i neilltuo gwerth £1.255 miliwn i'r Rhaglen Gyfalaf i ganiatáu ar gyfer gosod arwyneb gemau artiffisial (3G) a ffens derfyn newydd yn Ysgol Gyfun yr Olchfa.