Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)            Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 9 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried.

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 244 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)           Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Ebrill 2022.

3.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Aelodau'r Cabinet yn Rhannu Swydd

 

Croesawodd Arweinydd y Cyngor y Cynghorwyr Cyril Anderson a Hayley Gwilliam i'w cyfarfod Cabinet cyntaf. Dywedodd mai hwy oedd yr Aelodau Cabinet swyddogol cyntaf i rannu swydd yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Dywedodd er y gall y ddau ohonynt fwrw pleidlais, y byddai'n cael ei gyfrif fel un bleidlais yn unig. Os nad oeddent yn cytuno ar benderfyniad, yna ni fyddai eu pleidlais yn cael ei chyfrif.

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk  erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

5.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald nifer o gwestiynau mewn perthynas â Chofnod Rhif 7 “Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol – Grantiau'r Gronfa Trafnidiaeth Leol a'r Gronfa Teithio Llesol ar gyfer 2022/23”. Dywedodd fod y cwestiynau hefyd wedi cael eu cyflwyno i'r Tîm Trafnidiaeth.

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor a dywedodd y byddai:

 

1)              Ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu mewn perthynas â'r sylw ar y Ffurflen Sgrinio Asesiadau yn dweud y gall Teithio Llesol gael effaith fawr ar anabledd.

 

2)              Byddai'n anfon gwahoddiad y Cynghorydd E W Fitzgerald i'r Aelod y Cabinet perthnasol ystyried gwrdd â phreswylwyr ymlaen ato.

6.

Ymchwiliad Craffu i Waith Caffael. pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd C A Holley y canfyddiadau, y casgliadau a'r argymhellion sy'n deillio o Ymchwiliad y Panel Craffu i Gaffael.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Bydd Aelod perthnasol y Cabinet yn adrodd yn ôl i gyfarfod y Cabinet drwy lunio ymateb ysgrifenedig i'r argymhellion craffu a'r cam(au) gweithredu arfaethedig.

7.

Rheol Gweithdrefn Ariannol 7 - Cronfa Trafnidiaeth Leol a Grantiau'r Gronfa Teithio Llesol ar gyfer 2022/23. pdf eicon PDF 836 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer ceisiadau am gyllid ar gyfer y Gronfa Trafnidiaeth Leol (CTL) a'r Gronfa Teithio Llesol (CTLl) ac am gymeradwyaeth ddirprwyedig ar ôl derbyn llythyr dyfarnu grant i'r Cyfarwyddwr ac Aelod y Cabinet ar gyfer gwariant ar brosiectau cysylltiedig yn 2022/2023.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Cymeradwyo'r ceisiadau am gyllid grant a rhoi caniatâd dirprwyedig i Aelod y Cabinet a'r Cyfarwyddwr Lleoedd dderbyn unrhyw gyllid grant a ddyfarnwyd ar gyfer y cynlluniau CTL a CTLl.

 

2)            Rhoi pwerau dirprwyedig i Aelod y Cabinet a'r Cyfarwyddwr Lleoedd wneud cais am gyllid grant ychwanegol sydd ar gael ar gyfer cynlluniau CTL a CTLl yn yr un flwyddyn ariannol a'i dderbyn.

 

3)            Ychwanegu'r cynlluniau cymeradwy at raglen gyfalaf y cyngor yn unol â FPR7.

8.

Cyllideb Gymunedol 2022-2027. pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn darparu'r diweddaraf ynghylch Cyllidebau Cymunedol Aelodau ar gyfer arweiniad blynyddoedd 2022-2027 fel rhan o Gyllideb Refeniw y cyngor.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Cymeradwyo’r canllawiau Gwariant Cyllidebau Cymunedol Aelodau diwygiedig a atodir yn Atodiad B yr adroddiad.

 

2)            Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, y Cyfarwyddwr Cyllid ac Aelod Perthnasol y Cabinet wneud unrhyw newidiadau i'r Canllawiau yn y dyfodol.

9.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gyfun yr Esgob Gore

Peter Jones

2)

Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt

y Cyng. Lyndon Jones

3)

Ysgol Gynradd Blaenymaes

Jonathan Lomas

4)

Ysgol Gynradd Gendros

Ann Cook

5)

Ysgol Gynradd Glyncollen

Michael Hedges

6)

Ysgol Gynradd Ystumllwynarth

Helen Faulkner