Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd E J King gysylltiad personol a
rhagfarnol â Chofnod 156 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdodau
Lleol" a gadawsant y cyfarfod cyn ei ystyried. 2) Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 156 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. |
|||||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a
restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2022. |
|||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Cynghorwyr sydd wedi gwasanaethu fel Aelodau’r Cabinet yn ystod 2017-2022
sy'n ymddiswyddo yn ystod yr Etholiadau Llywodraeth Leol ar 5 Mai 2022 Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cynghorwyr J E Burtonshaw, M C Child, W Evans, C E Lloyd, J A Raynor, C Richards, M Sherwood a M Thomas wedi penderfynu ymddiswyddo yn yr etholiadau sydd ar ddod ym mis Mai 2022. Mae pob un o'r rheini a enwir wedi gwasanaethu fel Aelodau'r Cabinet yn ystod tymor y cyngor 2017-2022. Diolchodd a thalodd deyrnged iddynt am eu cyfraniad rhagorol ac ymroddedig i Gyngor Abertawe a'r Cabinet. 2)
Phil Roberts, Prif Weithredwr - Ymddeoliad Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai Phil Roberts, Prif Weithredwr, yn ymddeol ar ddiwedd mis Mai 2022. Talodd deyrnged i Phil Roberts am ei gyfraniad rhagorol ac ymroddedig i Gyngor Abertawe dros y 36 o flynyddoedd diwethaf. |
|||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Mae’n rhaid
i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 213 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi
gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff
llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau
canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet
dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
|||||||
Cynllun Cymorth Costau Byw - Elfennau Gorfodol a Dewisol. PDF 293 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad
a oedd yn darparu gwybodaeth am y cynllun gorfodol ac yn ceisio ystyriaeth o'r
pwerau disgresiwn eang sydd hefyd ar gael i'r awdurdod dan Gynllun Cymorth
Costau Byw Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol di-oed i ddeiliaid tai
yr ystyrir bod angen cymorth gyda chostau byw arnynt. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi manylion y cynllun gorfodol a nodir yn yr adroddiad,
a'u bod eisoes wedi'u rhoi ar waith. 2)
Nodi manylion y pwerau disgresiwn sy'n gysylltiedig â'r
Cynllun Cymorth Costau Byw. 3)
Cymeradwyo'r categorïau a'r symiau canlynol fel sail ar
gyfer taliadau dewisol dan y Cynllun Cymorth Costau Byw: a)
Telir £150 i’r rheini sy’n derbyn rhyddhad Treth y Cyngor
a ddyfarnwyd mewn perthynas â: ·
Phobl sy'n gadael gofal. ·
Pobl â Nam Meddyliol Difrifol. ·
Deiliad rhai rhandai hunangynhwysol. ·
Preswylwyr dan 18 oed. ·
Preswylwyr cartrefi gofal. ·
Pobl sy'n byw yn rhywle arall gan eu bod yn derbyn gofal. ·
Pobl sy'n byw yn rhywle arall gan eu bod yn darparu
gofal. ·
Myfyrwyr sy'n astudio yn rhywle arall. b)
Categorïau eraill y gwneir taliad o £150 ar eu cyfer: ·
Aelwydydd sydd mewn anheddau domestig ym mandiau F i I y
mae gostyngiad addasu i'r anabl wedi'i gymeradwyo ar eu cyfer. ·
Tenantiaid Cyngor Abertawe nad ydynt yn derbyn cymorth
gan Fudd-dal Tai (BT) neu Gredyd Cynhwysol (CC) – yn ychwanegol at unrhyw brif
daliad cynllun y mae ganddynt hawl iddo. ·
Unrhyw aelwyd y gall Cyngor Abertawe nodi ei bod yn
gymwys ar gyfer taliad £150 o'r prif gynllun ac mae'n ofynnol iddi gofrestru am
daliad ond nad yw wedi gwneud hynny erbyn pythefnos cyn i'r cynllun gau. c)
Mesurau ychwanegol ·
£52,500 i'w roi mewn cronfa cymorth costau tanwydd i'w
ddefnyddio i gefnogi pobl sy'n ei chael hi'n anodd talu costau tanwydd. ·
· £28 i'w dalu i
bob aelwyd mewn anheddau domestig ym mandiau Treth y Cyngor A a B (yn ogystal
ag unrhyw daliad sengl arall o £150 y mae ganddynt hawl iddo eisoes o'r prif
gynllun neu gynllun dewisol). Un taliad yr eiddo. ch) Yr uchafswm taliad i un aelwyd o'r Cynllun
Cymorth Costau Byw yn ei chyfanrwydd fydd £300. |