Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr L S Gibbard a A H Stevens fudd personol a rhagfarnol â chofnod 138 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a gadawodd y cyfarfod cyn iddo
gael ei
ystyried. 2)
Datganodd y Cynghorydd R V Smith fudd personol a rhagfarnol â chofnod 138 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol" a dywedodd ei fod wedi cael goddefeb
gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion
yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. 3)
Datganodd y Cynghorwyr M C Child, R
Francis-Davies a R V Smith fudd personol
â chofnod 142 "Adroddiad
Blynyddol y Bartneriaeth Hamdden 2020/2021”. 4)
Datganodd y Cynghorydd M C Child fudd
personol a rhagfarnol â chofnod 150 "Lleoliad arfaethedig ar gyfer cyfleusterau Chwarae awyr agored yn
West Cross” a gadawodd y cyfarfod
cyn iddo gael ei ystyried. |
|||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod
cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2022. |
|||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Aelodau’r
Cabinet yn tynnu’n ôl o’r Etholiadau
Llywodraeth Leol ar 5 Mai 2022 Dywedodd
Arweinydd y Cyngor fod y Cynghorwyr Mark C Child a
Mark Thomas wedi penderfynu
tynnu’n ôl o’r etholiadau sydd i ddod ym mis
Mai 2022. Diolchodd a thalodd
deyrnged iddynt am eu cyfraniad rhagorol
ac ymroddedig i Gyngor
Abertawe a'r Cabinet. |
|||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n
ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 214 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi
gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau
canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet
dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
|||||||||||||||||||
Rhaglen Isadeiledd yn yr Ysgol Hwb. PDF 254 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg,
Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo'r Cyfraniad Refeniw i’r
Gwariant Cyfalaf (CRGC) ar gyfer cyllideb ychwanegol ar gyfer rhaglen o'r
Gronfa Arloesedd Ysgolion, Arian wrth gefn yr Isadeiledd Hwb a throsglwyddo
cyllideb gyfalaf y Rhwydwaith Ysgolion i Raglen Isadeiledd yn yr Ysgol Hwb i
sicrhau bod costau'r rhaglen yn cael eu talu ar gyfer 2021/22. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo’r CRGC a'r goblygiadau ariannol ym mharagraff
4 o'r adroddiad hwn. |
|||||||||||||||||||
Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 3 2021/22. PDF 310 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Busnes a Pherfformiad adroddiad a
oedd yn amlinellu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2021-2022. Penderfynwyd: 1)
Caiff canlyniadau perfformiad Chwarter 3 2021/22 eu
cymeradwyo a'u defnyddio i lywio penderfyniadau gweithredol ar ddyrannu
adnoddau a, lle y bo'n berthnasol, dylid cymeradwyo camau unioni i reoli a
gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a
chenedlaethol. |
|||||||||||||||||||
Rhaglen Grant Cyfleusterau I'r Anabl A Grant Gwella 2022/23 PDF 269 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros
Wasanaethau Tai, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn darparu
manylion y Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'r Grant Gwella ac yn ceisio
cymeradwyaeth i gynnwys cynlluniau yn Rhaglen Gyfalaf 2022/23. Cydymffurfio â
Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf), i ymrwymo ac
awdurdodi cynlluniau yn ôl y Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Y dylid cymeradwyo'r Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl
a'r Grant Gwella, fel y'i nodwyd, gan gynnwys ei goblygiadau ariannol, ac y
dylid ei chynnwys yng Nghyllideb Gyfalaf 2022/23. |
|||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Hamdden 2020/2021. PDF 417 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi,
Adfywio a Thwristiaeth adroddiad gwybodaeth a oedd yn darparu manylion am
weithdrefnau partneriaeth cyfleusterau allweddol ym mhortffolio'r Gwasanaethau
Diwylliannol. |
|||||||||||||||||||
Adroddiad Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf 2022/23. PDF 263 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr
Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo'r
cynlluniau i'w hariannu drwy'r Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Caiff y cynlluniau cynnal a chadw cyfalaf arfaethedig a
restrir yn Atodiad A i'r adroddiad eu cymeradwyo. 2)
Caiff y cynlluniau a'u goblygiadau ariannol fel a nodwyd
yn Atodiad C yr adroddiad eu hawdurdodi a'u cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf. |
|||||||||||||||||||
Dyraniad Cyfalaf i Asedau Isadeiledd Priffyrdd 2022-23. PDF 315 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wella’r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad i
gadarnhau'r Rhaglen Waith Gyfalaf ar gyfer asedau'r isadeiledd priffyrdd. Penderfynwyd: 1)
Caiff y dyraniadau dangosol arfaethedig, ynghyd â'r
Goblygiadau Ariannol a nodir yn Atodiad A yr adroddiad, eu cymeradwyo a'u
cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf. 2)
Caiff awdurdod ei ddirprwyo i Bennaeth y Gwasanaeth
Priffyrdd a Chludiant gyda chydsyniad Aelod y Cabinet dros Wella’r Amgylchedd a
Rheoli Isadeiledd i flaenoriaethu, cwblhau a chlustnodi arian i'r cynlluniau
priodol yn unol â'r ymagwedd flaenoriaethu a nodwyd yn yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||
Buddsoddiad Cyfalaf Preswyl Mewnol y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd PDF 248 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros
Wasanaethau Plant adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r Buddsoddiad
Cyfalaf brynu eiddo i ddatblygu ateb preswyl mewnol i Gyngor Abertawe a chydymffurfio
â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf) i ymrwymo ac
awdurdodi cynllun i'r Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Y buddsoddiad cyfalaf ar gyfer ateb preswyl mewnol a'i
oblygiadau ariannol ac mae'n ychwanegu'r cynllun a nodir ym mharagraff 3 yr
adroddiad i'r rhaglen gyfalaf. |
|||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros
Wasanaethau Plant adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y
cynigion ar gyfer datblygu llywodraethu a dulliau galluogi Gwasanaeth
Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru gan ei fod yn cymryd cyfrifoldeb dros Maethu
Cymru. Roedd hefyd yn ceisio sicrhau cytundeb i lofnodi Cytundeb y Cydbwyllgor
ar gyfer y Cydbwyllgor arfaethedig. Penderfynwyd: 1)
Bydd y cyngor yn llofnodi Cytundeb y Cydbwyllgor ar gyfer
y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru sydd ynghlwm yn Atodiad C
yr adroddiad ac yn awdurdodi'r Prif Swyddog Cyfreithiol i ymrwymo i'r cytundeb
ar ran y cyngor. 2)
Penodi Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant a
Theuluoedd yn gynrychiolydd y cyngor ac yn aelod â phleidlais ar y cydbwyllgor. |
|||||||||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 236 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei
bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad)
(Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes
canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|||||||||||||||||||
Gwaredu tir priffyrdd yn y Mwmbwls, Abertawe. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd
yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ac yn ceisio ystyried opsiynau
diwygiedig mewn perthynas â'r defnydd o'r tir a nodwyd yn yr adroddiad hwn yn y
dyfodol. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir
yn yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||
Awdurdodi Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Prosiect Hwb Cymunedol Cefn Hengoed. Cofnodion: Cyflwynodd Aelodau’r Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a
Gwella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol
7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf) i ymrwymo i
gynlluniau a’u awdurdodi yn y Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||
Lleoliad arfaethedig ar gyfer cyfleusterau chwarae awyr agored yn West Cross Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad
a oedd yn ceisio ystyried man agored o fewn West Cross, er mwyn elwa o
welliannau chwarae yn yr awyr agored fel rhan o Raglen Buddsoddi mewn Chwarae
Cyfalaf 2021/22 Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |