Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd R C Stewart gysylltiad Personol â
Chofnod 110 "Cynnig i Brydlesu Rhan o Barc Coedgwilym i Gyfeillion Parc
Coedgwilym". Nodir: Ni chymerodd ran yn y bleidlais. 2)
Datganodd Ben Smith
gysylltiad
Personol â Chofnod 105 “Cynigion y
Gyllideb 2022/23-2025/26”. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr, 2021. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n
ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2032 PDF 256 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a
oedd yn ceisio mabwysiadu Cynllun Strategol terfynol y Gymraeg mewn Addysg
(WESP) 2022-2032. Penderfynwyd: 1)
Mabwysiadu Cynllun Strategol terfynol y Gymraeg mewn
Addysg (CSGA) 2022-2032. 2)
Caiff Cynllun Strategol terfynol y Gymraeg mewn Addysg
2022-2032 ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo. |
|
Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - Adfer o COVID a Buddsoddiad. (Llafar) Cofnodion: Derbyniwyd yr
adborth cyn penderfynu. |
|
Adfer o COVID a Buddsoddiad. PDF 486 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r
penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid
pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn adrodd am y
cynnydd a wnaed hyd yn hyn ynghylch Adferiad COVID, ac argymhellodd y dylid
cymeradwyo'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol a chynigion buddsoddi pellach. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
cynnydd da hyd yma a'r hyblygrwydd parhaus sydd ei angen i ymateb i heriau a
newidiadau parhaus ac sy'n dod i'r amlwg ar gyfer y cyngor, ei wasanaethau a'i
weithlu. 2)
Yn
unol â gofynion Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (rhaglennu a gwerthusiadau
cyfalaf), mae'r Cabinet yn ymrwymo ac yn awdurdodi cynllun newydd gwerth £2m
i'r rhaglen gyfalaf er mwyn symud y ganolfan ddata i Neuadd y Ddinas. 3)
Caiff
y cynllun a'r amserlen ddiwygiedig ar gyfer gweithredu'r rhaglen Oracle ynghyd â
buddsoddiad pellach o £3,620,412 yn unol â gofynion Rheol 5 y Weithdrefn
Ariannol eu cymeradwyo. 4)
Nodi'r
diweddaraf am y gwasanaethau cymdeithasol. 5)
Nodi'r
diweddaraf am y cyfalaf wrth gefn a'r dyraniadau tebygol a chytuno i barhau i
gadw'r cydbwysedd fel swm wrth gefn sy'n weddill. 6) Dyrannu £2.05m o arian y Gronfa Adfer Economaidd (CAE) a nodir yn yr adroddiad at ddibenion cyfleusterau chwarae a pharciau sglefrio gwell fel cyllideb gyfalaf newydd yn unol â gofynion Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol; a dirprwyo'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen hon i Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a'r Cyfarwyddwr Lleoedd i gwblhau'r rhaglen gyflwyno fanwl. |
|
Cynigion y Gyllideb 2022/23 - 2025/26. PDF 697 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ystyried
cynigion cyllidebol ar gyfer 2022/2023 i 2025/2026 fel rhan o strategaeth
cyllideb bresennol y cyngor. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
cynigion cyllidebol a grynhowyd yn yr adroddiad ac y nodwyd yn Atodiad B yr
adroddiad fel sail ymgynghoriad. 2)
Mabwysiadu'r
rhagolwg cyllidebol diweddaredig ar gyfer y dyfodol
fel y rhagosodiad cynllunio cychwynnol ar gyfer y cynllun ariannol tymor
canolig, a gaiff ei ystyried gan y cyngor ar 3 Mawrth 2022. 3)
Cytuno
ar yr ymagwedd at ymgynghori ac ymgysylltu â staff, undebau llafur, preswylwyr,
partneriaid a phartïon eraill â diddordeb fel y'u hamlinellir yn Adran 7 yr
adroddiad. 4) Cyflwyno adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad a'r cynigion cyllidebol terfynol yn ei gyfarfod ar 17 Chwefror 2022. |
|
Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru. PDF 252 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio
sicrhau bod y cyngor yn mabwysiadu'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol
newydd ar gyfer de-orllewin Cymru (i gymryd lle Strategaeth Adfywio Economaidd
Dinas-ranbarth Bae Abertawe 2013). Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo a mabwysiadu Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru fel polisi adfywio economaidd cyffredinol y cyngor i gymryd lle Strategaeth Adfywio Economaidd Dinas-ranbarth Bae Abertawe. |
|
Cynllun Strategaeth Ynni Rhanbarthol De-orllewin Cymru. PDF 431 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth ac Aelod y Cabinet dros Newid
yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i fabwysiadu Strategaeth Ynni Rhanbarthol De-orllewin Cymru. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
fersiwn 'ddrafft' Strategaeth Ynni Rhanbarthol De-orllewin Cymru, fel y nodir
yn Atodiad A yr adroddiad. 2)
Rhoi
awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd ac Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a
Thrawsnewid Gwasanaethau wneud unrhyw newidiadau terfynol i'r Strategaeth yn unol
â phroses gymeradwyo'r pedwar Awdurdod Lleol. 3) Cymeradwyo'r broses o gyflwyno Strategaeth Ynni Rhanbarthol ddrafft De-orllewin Cymru i'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol Rhanbarthol (CCRh) ar ôl iddi gael ei chyfansoddi'n ffurfiol. |
|
Strategaeth y dyfodol ar gyfer Lletygarwch Awyr Agored. PDF 260 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn amlinellu'r camau
a gymerwyd yn ystod y pandemig i gefnogi'r fasnach
lletygarwch a pholisïau a gweithdrefnau arfaethedig yn y dyfodol. Penderfynwyd: 1)
Dylid
ymestyn y consesiwn mewn perthynas â Thrwyddedau Palmant a Thrwyddedau
Priffyrdd tan 31 Mawrth 2023. 2)
Caiff
y cytundebau a'r Trwyddedau hynny sydd wedi'u hymestyn i'r ffordd gerbydau eu
hadolygu a'u hymestyn fel y bo'n briodol o fewn yr awdurdod dirprwyedig
presennol. 3) Caiff adolygiad pellach o dir trwyddedig, nad yw'n briffordd ei dderbyn a'i ystyried erbyn canol 2022. |
|
Canolfan Ddiwylliannol a Digidol yn Theatr y Grand Abertawe: Cytundeb Rheoli a Phrydles. PDF 265 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn rhoi'r
diweddaraf am delerau trefniadau'r Cytundeb Rheoli, Tenantiaeth a Phrydlesu gyda
Cyngor Hil Cymru ar gyfer Ganolfan Ddiwylliannol a Digidol Theatr y Grand
Abertawe. Penderfynwyd: 1)
Nodi
telerau fersiwn derfynol y Cytundeb Rheoli gyda Cyngor Hil Cymru (CHC) a
amlinellir yn yr adroddiad ac a nodir yn Atodiad A, a chymeradwyo'r argymhelliad
presennol ar gyfer ffïoedd a chyfraddau ystafelloedd
fel y nodir yn Atodiad B yr adroddiad. 2)
Caiff
y ddarpariaeth o gyllid ychwanegol fel a nodir yn y Goblygiadau Ariannol ym
Mharagraff 5 yr adroddiad ei chymeradwyo. 3)
Rhoi
awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Eiddo i ymrwymo i Denantiaeth wrth Ewyllys,
ac mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Cyfreithiol ac Aelod y Cabinet dros
Fuddsoddi, Twristiaeth ac Adfywio drafod a chytuno ar delerau terfynol y
brydles gyda Cyngor Hil Cymru. 4) Rhoi awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol ymrwymo i'r brydles ar ran y cyngor. |
|
Cynnig I Brydlesu Rhan O Barc Coedgwilym I Gyfeillion Parc Coedgwilym. PDF 258 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i drafod a chytuno ar Benawdau Telerau ac ymrwymo i brydles gyda
Chyfeillion Parc Coedgwilym ar gyfer rhannau o Barc Coedgwilym. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
bwriad i werthu'r tir i Gyfeillion Parc Coedgwilym ar
lefel o danbrisio sy'n dderbyniol i'r Cabinet yn seiliedig ar gyngor Pennaeth y
Gwasanaethau Eiddo. 2) Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd drafod a phenderfynu ar delerau'r brydles arfaethedig (ac unrhyw Weithredoedd Amrywiad wedi hynny) a dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol er mwyn cwblhau'r ddogfennaeth gyfreithiol. |
|
Cytundeb Compact y Trydydd Sector - Diweddariad. PDF 286 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau adroddiad gwybodaeth a oedd yn rhoi'r
diweddaraf am Gytundeb Compact Trydydd Sector Abertawe a'r gwaith hyd yn hyn
gan Grŵp Cyswllt y Compact a ffurfiwyd fel rhan o Gytundeb Compact
diwygiedig Abertawe gyda'r Sector Gwirfoddol yn 2018. Penderfynwyd: 1)
Y dylid nodi'r adroddiad. |
|
Strategaeth Rheoli Rhenti Tai 2022 - 2026. PDF 242 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad
gwybodaeth a oedd yn amlinellu'r Strategaeth Rheoli Rhenti Tai 2022-2026. |