Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol â Chofnod 46 “Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol” a dywedodd ei
fod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros
a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi
llywodraethwyr awdurdod lleol. Datganodd y Cynghorydd L S Gibbard gysylltiad personol â Chofnod 46
“Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol” a gadawodd cyn y drafodaeth. Datganodd y Cynghorydd M Thomas gysylltiad personol â Chofnod 46
“Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod
a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod
y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2021. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw
gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn
hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau
ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10
munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1af 2021/22 PDF 468 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad am fonitro cyllidebau
refeniw a chyfalaf 2021/22 yn ariannol, gan gynnwys cyflwyno arbedion
cyllidebol. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi'r
sylwadau a'r amrywiadau, gan gynnwys pob ansicrwydd materol, a nodwyd yn yr
adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r
rhain. 2)
Cymeradwyo'r
trosglwyddiadau a nodir ym mharagraffau 2.7 a 3.2. 3)
Anogir
cyfarwyddwyr i barhau i geisio lleihau gorwariant gwasanaethau yn ystod y
flwyddyn, gan gydnabod bod y gyllideb gyffredinol yn cael ei chydbwyso ar hyn o
bryd dim ond drwy ddibynnu'n drwm ar ad-daliad tebygol (ond ymhell o fod yn
sicr) gan Lywodraeth Cymru, cyllidebau wrth gefn a chronfeydd wrth gefn a
ddelir yn ganolog, ond hefyd i gydnabod bod y gorwariant bron yn gyfan gwbl
oherwydd pwysau parhaus COVID a ragwelir yn gyffredinol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 1 2021/22 PDF 300 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu'r
Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2021/22. Penderfynwyd ar y canlynol: Caiff canlyniadau perfformiad Chwarter 1 2021/22 eu cymeradwyo a'u defnyddio i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywirol i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad Cydraddoldeb Blynyddol 2020/21. PDF 231 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau adroddiad a oedd yn gofyn am awdurdod i
gyhoeddi Adolygiad Cydraddoldeb Blynyddol y cyngor ar gyfer 2020/21 yn unol â
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a'r rheoliadau adrodd ar gyfer
Cymru. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo
cynnwys yr adroddiad i'w gyhoeddi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cynyddu nifer y lleoedd a gynlluniwyd ar gyfer Ysgol Pen-y-Bryn. PDF 336 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau a oedd yn
manylu ar ganlyniad cyfnod yr hysbysiad statudol ac yn ceisio cadarnhad ar
gyfer y cynnig i gynyddu nifer y lleoedd cynlluniedig yn Ysgol Arbennig
Pen-y-bryn. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo
cynyddu lleoedd cynlluniedig yn Ysgol Pen-y-Bryn o 31 i gyfanswm o 195 o
leoedd, ar 1 Ionawr 2022. 2)
Cynnwys
yr arian refeniw dirprwyedig ychwanegol i gefnogi sefydlu'r lleoedd
cynlluniedig ychwanegol hyn yn Ysgol Pen-y-bryn a'r costau cludiant ychwanegol
posib sy'n gysylltiedig â hyn yn nyraniadau cyllidebau refeniw cyffredinol
presennol addysg a rhai'r dyfodol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2032 PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i ymgynghori ar fersiwn ddrafft Cynllun Strategol Gymraeg mewn
Addysg (CSGA) statudol ar gyfer 2022-2032. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo
ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
2022-2032. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 220 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi
gwag Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r
enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y
Cabinet dros Addysg a Sgiliau Gydol Oes:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||
Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Achos Busnes y Campysau Gwyddorau Bywyd, Lles a Chwaraeon. PDF 467 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi,
Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo achos busnes
Campysau Gwyddorau Bywyd, Lles a Chwaraeon Bargen Ddinesig Bae Abertawe ac i
awdurdodi ei gyflwyniad ffurfiol yn unol â Chynllun Gweithredu'r Fargen
Ddinesig i sicrhau cymeradwyaeth ariannol y Fargen Ddinesig. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo Achos Busnes Campysau Gwyddorau Bywyd,
Lles a Chwaraeon Bargen Ddinesig Bae Abertawe (Atodiad 1) a'i gyflwyniad
ffurfiol, yn unol â Chynllun Gweithredu'r Fargen Ddinesig i Lywodraethau Cymru
a'r DU; 2)
Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd mewn
ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth i
gymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i'r achos busnes y gallai fod yn ofynnol iddynt
gael cymeradwyaeth ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol; 3)
cymeradwyo'r goblygiadau ariannol sy'n gysylltiedig
â darpariaeth y cyngor o gyllid cynnar i'r prosiect wrth aros i dderbyn arian y
fargen ddinesig ar gost adennill ymylol yn unig a grantiau awdurdod dirprwyedig
i'r Swyddog Adran 151 i gwblhau unrhyw gyllid neu gytundebau ariannol
perthnasol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad o'r Polisi Gamblo. PDF 244 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb ar
gyfer fersiwn ddrafft y Polisi Gamblo diwygiedig, ar gyfer y cyfnod Ionawr 2022
tan Ionawr 2025, i'w gyflwyno at ddiben ymgynghori. 1)
Cytuno
ar y newidiadau arfaethedig i Bolisi Gamblo'r cyngor. 2)
Cytuno
ar y polisi diwygiedig a'i gyflwyno ar gyfer ymgynghoriad cyn adrodd yn ôl i'r
cyngor er mwyn ei fabwysiadu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Strategaeth Ailfodelu Canol Dinas Abertawe. PDF 387 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth Strategaeth Ailbwrpasu Canol Dinas Abertawe, sy'n darparu dadansoddiad
o'r rhagolygon manwerthu a hamdden presennol a strategaeth ar gyfer cadarnhad
a, lle bo angen, ailbwrpasu unedau manwerthu at
ddibenion buddiol eraill. Roedd yr adroddiad yn gofyn am awdurdodiad i ddilyn y
strategaeth yn unol â'r cynllun gweithredu cysylltiedig er mwyn nodi opsiynau
cyflenwi priodol, ffynonellau ariannu a dechrau ymgynghori ar yr ymyriadau
arfaethedig. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo
Strategaeth Ailbwrpasu Canol Dinas Abertawe fel y
nodir yn Atodiad 1: Strategaeth Adolygu ac Ailbwrpasu
Manwerthu a Hamdden Canol Dinas Abertawe. 2)
Caiff
yr ymyriadau arfaethedig a amlinellir yn Strategaeth Ailbwrpasu
Canol Dinas Abertawe ac ym mharagraffau 7-9 o'r adroddiad hwn eu cymeradwyo
mewn egwyddor, a dylid dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd i ddatblygu'r
Cynllun Gweithredu i nodi'r llwybr cyflawni mwyaf addas. Mae angen
cymeradwyaeth bellach gan y Cabinet cyn gweithredu unrhyw un o'r ymyriadau
arfaethedig. 3)
cymeradwyo'r
cyllid o £500,000 a ddyrennir ar hyn o bryd ar gyfer
gwaith ar Stryd Rhydychen i'r camau gweithredu ehangach a amlinellir yn yr
adroddiad a bod unrhyw ofynion cyllidebol pellach wedi'u nodi ar gyfer
penderfyniadau ar wahân ac yn y dyfodol yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor a
rheolau'r RhGA ac wedi'u cefnogi gan yr achos busnes
priodol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd. PDF 236 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Strategaeth Ailfodelu Canol Dinas Abertawe Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad “er gwybodaeth” ar Strategaeth Ailbwrpasu Canol Dinas Abertawe, sy'n darparu dadansoddiad o'r rhagolygon manwerthu a hamdden presennol a strategaeth ar gyfer cadarnhad a, lle bo angen, ailbwrpasu manwerthu at ddibenion buddiol eraill. |